Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar yr adroddiadau blaenorol ar gyfer y prosiect a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru (W-MDLS). Dyma’r diffiniad o Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS) sy’n deillio o’n gwaith gydag aelwydydd:

Mae safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn cynnwys cael mynediad i’r rhyngrwyd, offer digonol a digon o hyfforddiant a chymorth, ond mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu gyda chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus.

Penderfynwyd ar y diffiniad hwn fel rhan o brosiect ymgynghori cenedlaethol y DU i ddatblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol. O’r diffiniad llafar hwn, datblygodd aelwydydd y DU, trwy waith ymgynghori pellach, fasged o nwyddau, gwasanaethau a sgiliau sydd eu hangen ar aelwydydd â phlant i fodloni’r diffiniad hwn. Am ddiffiniad llawn o’r MDLS sy’n manylu ar offer, gwasanaethau a sgiliau, gweler Atodiad 1.

Yn cydredeg â’r prosiect hwn ar gyfer y DU, cefnogodd Llywodraeth Cymru ymchwil ymgynghori pellach gydag aelwydydd Cymru ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i asesu perthnasedd y MDLS yng Nghymru. Bu canlyniadau Cam 1 y gwaith hwn yn sefydlu perthnasedd y MDLS ar gyfer aelwydydd Cymru a gellir dod o hyd iddynt yn yr adroddiad: Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.

Mae’r adroddiad cyfredol hwn ar Gam 2 yr ymchwil yn ymchwilio i’r rhwystrau allweddol i fodloni’r W-MDLS, a’r rhwystrau y mae cymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddarpariaeth ddigidol. Mae’r rhain yn rhwystrau a nodwyd gan aelwydydd a chan sefydliadau’r trydydd sector yn gweithio ar lawr gwlad gyda chymunedau.

Safbwyntiau dinasyddion

Mae ymchwil MDLS yn nodi fframwaith o'r hyn sydd ei angen ar deuluoedd â phlant er mwyn cymryd rhan a theimlo eu bod wedi'u cynnwys yn llawn yn y byd digidol sydd o'u cwmpas. Mae’r ymchwil gydag aelwydydd a adroddir yma yn adeiladu ar fframwaith y MDLS gan dynnu ar set o gyfweliadau ansoddol gyda theuluoedd yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn edrych yn fanwl ar eu hanghenion digidol, y problemau maent yn eu hwynebau i allu diwallu eu hanghenion, a’r hyn mae’n ei olygu ar gyfer eu bywydau bob dydd. Y bwriad yw bod cyflwyno safbwyntiau a phrofiadau teuluoedd eu hunain, sydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn cynnig mewnwelediad a chyd-destun defnyddiol. Ochr yn ochr â safbwyntiau rhanddeiliaid (gweler ‘Safbwyntiau sefydliadau rhanddeiliaid’) gall y mewnwelediadau hyn lywio cyrff a sefydliadau a allai dynnu ar ddiffiniad y MDLS. Am fanylion y dull ymchwil a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfweliadau hyn, gweler Atodiad 2.

Yn unol â’r MDLS, canolbwyntiodd y cyfweliadau ar fynediad cyfranogwyr at ddyfeisiau digidol, cysylltiad i’r rhyngrwyd, a’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen yn y byd digidol heddiw, er mwyn archwilio anghenion teuluoedd mewn gwahanol amgylchiadau a’r goblygiadau o beidio â chyrraedd lefel y ddarpariaeth a amlinellir yn y MDLS. Mae’r cyfweliadau’n amlygu’r heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu i allu diwallu eu hanghenion digidol, ochr yn ochr, ac yn aml yn croestorri, ag amgylchiadau sy’n dwyn ag anghenion neu ystyriaethau ychwanegol.

Pa mor dda y mae anghenion digidol yn cael eu diwallu ac effaith anghenion heb eu diwallu ar deuluoedd â phlant

Mae’r MDLS yn diffinio cynhwysiant digidol yn gyfannol ac yn amlweddog gan fod angen ar deuluoedd gyfuniad o ddyfeisiau a chysylltiad i’r rhyngrwyd, yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth berthnasol i’w galluogi i ddefnyddio technoleg a mynd ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus. Felly bu’r cyfweliadau â theuluoedd yn cwmpasu’r holl agweddau hyn ar y MDLS gan archwilio i ba raddau yr oedd teuluoedd yn gallu diwallu eu hanghenion digidol ym mhob un o’r meysydd hyn, ac effeithiau methu â gwneud hynny.

Trafododd teuluoedd bwysigrwydd dyfeisiau a gwasanaethau (ffonau clyfar, gliniaduron neu dabledi, consolau a thanysgrifiadau gemau fideo) yn ogystal â chysylltiad band eang cartref a data symudol i’w ddefnyddio wrth fentro allan. Yn unol ag ymchwil MDLS, roedd yn amlwg nad oedd cael dyfeisiau a mynediad at gysylltiad yn unig yn ddigon; roedd angen iddynt fod yn ddigonol o ran ansawdd neu fanyleb ac yn addas i’r diben. Roedd hyn yn golygu cael dyfais o fath digonol a bod cyflwr a nifer y dyfeisiau’n addas ar gyfer maint yr aelwyd ac oedran y plant, ochr yn ochr â chael cysylltiad dibynadwy i’r rhyngrwyd gyda digon o gapasiti i alluogi pob aelod o’r teulu i gyflawni eu tasgau a’u gweithgareddau bob dydd. Mae’r MDLS yn nodi bod ffôn clyfar syml, ffôn symudol gyda sgrin resymol a mynediad i’r rhyngrwyd, megis ffôn android syml, yn ofyniad sylfaenol i oedolion a phlant oedran ysgol uwchradd yr aelwyd.

Ffôn clyfar a data

Siaradodd teuluoedd am rôl hanfodol ffôn clyfar, gan gynnwys yn llawer o’u gwaith trefnu a’u cyfathrebu ddydd i ddydd. Roedd gan rieni a phlant oedran ysgol uwchradd a gynhwyswyd yn yr astudiaeth ffonau clyfar a oedd yn ffonau clyfar android lefel mynediad neu o radd uwch. Fodd bynnag, datgelodd teuluoedd ddarlun cymhleth o ran eu profiadau gyda ffonau clyfar a lwfans data, gan nodi nad oeddent o reidrwydd yn diwallu eu hanghenion digidol. Dywedodd teuluoedd fod y canlynol yn effeithio ar eu hymdeimladau o gynhwysiant digidol a’u gallu i gyflawni eu tasgau a’u gweithgareddau bob dydd: nodweddion a galluoedd eu ffonau clyfar, y modd y daethant i feddiant eu ffonau a lwfans data a chostau.

Galluogrwydd dyfeisiau

Roedd cyflwr a galluogrwydd dyfais yn gwneud gwahaniaeth pwysig i brofiad pobl o ddefnyddio eu ffôn symudol yn ogystal ag yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Roedd cyflwr a nodweddion y ffôn yn cael eu dylanwadu gan fanylebau’r ffôn (er enghraifft, faint o le storio neu gof oedd ganddo) yn ogystal â chan ei oed a pha mor helaeth y cafodd ei ddefnyddio. Dywedodd un rhiant fod angen iddi ddefnyddio dau ffôn clyfar am fod y naill ddyfais a’r llall yn annigonol. Doedd gan un ffôn clyfar ddim digon o le storio a doedd gan y llall ddim digon o fywyd batri. Roedd lle storio a bywyd batri yn broblem i riant arall yr oedd ei phlant yn aml yn defnyddio ei ffôn drwy gydol y dydd am nad oedd dyfeisiau eraill, megis tabledi, yn gweithio.

Dywedodd y rhieni hyn, nad oeddent yn gallu fforddio newid eu ffôn, eu bod yn barhaol yn dileu apiau yr oedd eu hangen arnynt er mwyn rheoli lle storio, yn meddwl trwy’r amser am fywyd batri’r ffôn, ac yn poeni am effaith y batri’n marw pan fyddant i ffwrdd o’r tŷ. Roedd cael ffôn clyfar y gellir ei ddefnyddio yn hanfodol i’r teuluoedd hyn. Yn achos un teulu, roedd un o’r plant ar y sbectrwm awtistiaeth ac roedd angen iddo ddefnyddio ffôn ei riant i dynnu ei sylw a rheoli ei orbryder pan fyddai i ffwrdd o’r cartref neu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol roedd defnyddio’r ffôn yn rhoi gofod diogel iddo, er yn ddigidol, ac yn ffordd o dynnu ei sylw. I deulu arall, roedd eu sefyllfa byw anfoddhaol yn golygu eu bod yn aml yn treulio amser allan o’r tŷ ac yn dibynnu’n drwm ar eu ffôn roedd angen iddynt wybod bod modd ei ddefnyddio bob amser, gan gynnwys i gael mynediad i apiau a thalebau archfarchnadoedd wedi’u storio ar eu ffôn a oedd yn hanfodol i arbed arian ar incwm isel iawn.

Caffael a newid ffôn

Roedd prynu ffôn symudol ar gontract (gan gynnwys pecyn data) a gallu lledaenu’r gost wedi galluogi pobl i gael ffôn newydd a deimlasant y byddai’n anodd ei fforddio fel pryniant untro ar incwm isel. Yn gyffredinol, roedd cyfranogwyr wedi ymrwymo i daliadau a’r cynllun data cysylltiedig dros ddwy flynedd, gyda rhai yn teimlo’n bryderus ynghylch sut y byddant yn gallu talu cost ffôn newydd pe bai eu ffôn yn torri cyn ei bod yn adeg ei uwchraddio. Lle’r oedd hyn wedi digwydd, dywedodd rhiant fod eu perthynas wedi rhoi hen ffôn iddynt. Dywedodd rhiant arall eu bod yn talu premiwm ychwanegol i’w hyswirio rhag ofn i hyn ddigwydd (gan ychwanegu at eu cost fisol). Fel arall, roedd yn fater o ymdopi, neu obeithio y gellid ei atgyweirio yn y cyfamser. Roedd gan un person ifanc sawl mis ar ôl o hyd ar ei gontract, ond roedd sgrîn y ffôn wedi torri a bellach yn ei atal rhag gwneud rhai tasgau roedd wedi defnyddio ei ffôn yn helaeth (gan gynnwys ar gyfer gwaith ysgol gan nad oedd ganddo liniadur) a nododd gyda bywyd y batri’n dirywio, ei fod yn annhebygol o bara mwy na’r ddwy flynedd. Roedd rhieni yn aml yn trosglwyddo eu ffonau i’w plant pan fyddant yn uwchraddio eu dyfais a gwelwyd bod hyn yn ffordd ddefnyddiol o ddarparu ffôn symudol iddynt, er bod hyn yn golygu y gellid bod wedi'i ddefnyddio am sawl blwyddyn erbyn i'r plentyn ei dderbyn.

Costau data symudol

Roedd costau ffonau clyfar aelwydydd yn amrywio’n fawr yn dibynnu ar faint o ddata misol yr oedd y pecyn yn ei gynnwys, ac a oedd yn cynnwys cost y ffôn clyfar ai peidio. Roedd hefyd yn gysylltiedig â sut y defnyddiwyd y data gan a rhwng aelodau’r teulu, ac argaeledd band eang neu ddarpariaeth symudol yn eu hardal (trafodir hyn ymhellach o dan Problemau Cysylltedd Band Eang). Roedd cael mynediad at ddigon o ddata yn bryder allweddol i deuluoedd, ac fe wnaethant ddisgrifio strategaethau yn ogystal â’r heriau a wynebwyd ganddynt wrth geisio cael mynediad at ddata a oedd yn addas ac yn fforddiadwy.

Roedd rhai aelwydydd yn cyfyngu ar eu data misol oherwydd y gost. Datgelodd y cyfweliadau y gallai hyn olygu rhannu a chyfyngu ar ddata rhwng aelodau’r teulu, rhywbeth a oedd yn gosod heriau o ran cydbwyso anghenion unigol ac anghenion y teulu o fewn cyllideb dynn. Mewn un achos, roedd gan riant a phlentyn ddata diderfyn, a dywedasant fod hyn yn bwysig nid yn unig i dawelu pryderon am redeg allan, ond hefyd i allu rhannu ymhlith brodyr a chwiorydd eraill a defnyddio eu ffôn fel ‘poethfan’ ar gyfer dyfeisiau eraill i’w harbed rhag defnyddio eu data talu wrth ddefnyddio. Roedd rhai rhieni’n rhannu eu data gyda’u plant iau i’w defnyddio ar eu tabledi. Mewn achosion eraill, bu’n rhaid i deuluoedd gyfyngu ar eu data nhw neu ar ddata eu plant i gadw cyfanswm y costau i lawr. Dywedodd dau blentyn oed ysgol uwchradd, nad oedd ganddynt ddata (na galwadau na negeseuon testun) gyda’u ffonau, eu bod yn ymdopi trwy ddibynnu ar ffrindiau i rannu eu data pan fyddant allan neu drwy ddefnyddio Wi-Fi am ddim. Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn syml ac roedd yn dibynnu ar ba mor barod yr oedd eu ffrindiau i rannu ac weithiau ar y posibilrwydd o allu gwneud hyn.

Plentyn 1: Os oes rhaid i fi anfon neges at mam neu rywbeth a dwi yn rhywle lle nad oes Wi-Fi am ddim, dwi’n diweddu i fyny yn cysylltu i ryngrwyd [ffrind].

Plentyn 2: Mae’n boen. Oherwydd y rhan fwyaf o’r amser bydda i’n mynd i leoedd lle nad oes braidd byth cysylltiad â’r rhyngrwyd, neu os oes, mae angen mewngofnodi gyda chyfrinair … Dyna sydd angen i chi ei wneud beth bynnag.

Rhiant: Mae’n golygu cysylltiadau preifat, mae’n dangos cysylltiadau Wi-Fi preifat pobl wrth i chi fynd yn agos at eu tai neu beth bynnag. Fel dywedon nhw, maen nhw’n cysylltu i boethfannau eu ffrindiau neu beth bynnag hefyd

Plentyn 2: Dwi ddim, does dim un o’n ffrindiau yn fy nghaniatáu.…

Rhiant: Mae ei ffrindiau ef yn gwbl wahanol i’w ffrindiau hi.

Plentyn 1: Does dim ots gan fy ffrindiau i.

(Teulu: rhiant a phlant 14 oed a 12 oed)

Fe soniasant hefyd fod diffyg mynediad at ddata ar eu ffonau yn golygu y gallant golli negeseuon pan fyddant allan o’r tŷ a derbyn ‘cerydd’ gan ffrindiau a oedd yn meddwl eu bod yn eu hanwybyddu. Mewn achos arall, trafododd rhiant sut yr oedd hi wedi blaenoriaethu data ei mab a lleihau data ei hun i 1GB y mis. Trafododd y rhiant sut yr oedd hyn yn cyfyngu ar ei defnydd o’i ffôn pan fyddai allan o’r tŷ, a’r ffaith bod hyn yn achosi rhywfaint o anawsterau ac yn gorfodi ‘llawer o gynllunio ymlaen llaw’, ond dywedodd fod angen iddi gadw costau i lawr a theimlai ei bod yn llai o broblem iddi hi ymdopi â llai o ddata nag yr oedd i’w mab:

Dwi’n dewis ei wneud felly er mwyn ceisio arbed ychydig o arian. … rhaid gwneud toriadau yn rhywle. Gallwn ni ddim i gyd cael pob dim. Mae’n angenrheidiol iddyn nhw fel bod ganddyn nhw fywyd, yn y bôn, gyda’i ffrindiau i gyd yn yr oes ddigidol hon. (Rhiant)

Nawr mae gan bawb ddata. Dwi’n meddwl ei fod yn angenrheidiol ar hyn o bryd gan nad ydym yn tecstio ein gilydd, does neb yn defnyddio rhifau ffôn ei gilydd mewn gwirionedd. Rydyn ni’n defnyddio Snapchat oherwydd gallwch ffonio ar Snapchat, tecstio ar Snapchat, cael straeon ar Snapchat, felly dyna beth mae pawb yn ei ddefnyddio nawr. (Plentyn 17 oed)

Disgrifiodd teuluoedd gysylltu dyfeisiau’r cartref i’w data symudol i gymryd lle diffyg cysylltiad band eang cartref neu gysylltiad gwael. Pan fyddai hyn yn cynnwys, er enghraifft galwadau fideo neu ffrydio, gallai hyn defnyddio’r lwfans data symudol sydd ar gael iddynt yn gyflym. Roedd yn haws i rai cyfranogwyr, gyda lefelau uwch neu ddiderfyn o ddata, allu rheoli’r defnydd uwch hwn, fodd bynnag, roedd defnyddio data symudol yn lle band eang cartref yn golygu costau data misol uwch nad oeddent o reidrwydd yn hawdd ymdopi â nhw. Esboniodd un cyfranogwr, er enghraifft, ei fod am leihau ei becyn data o 15GB y mis i arbed arian, ond roedd yn pryderu y byddai hyn yn peryglu y byddai’n brin o ddata neu’n gorfod talu costau data ychwanegol pan nad yw ei fand eang cartref yn gweithio. Rhwystr arall i leihau costau ffôn symudol oedd signal ffonau symudol cyfyngedig yn eu hardal a oedd yn cyfyngu ar y darparwyr ar gael iddynt, a’r gallu i newid i fargen well (trafodir hyn ymhellach o dan Mae angen tariffau cymdeithasol ond maent yn annigonol).

Gliniadur neu dabled

Mae gliniadur neu dabled wedi’u cynnwys yn y MDLS i ychwanegu at ffôn, oherwydd ystyrir eu bod yn cyflawni pwrpas gwahanol, yn enwedig ar gyfer plant oed ysgol lle gellir eu defnyddio i gwblhau a chyflwyno gwaith cartref. Roedd hwn yn faes lle roedd amrywiaeth eang yn y ddarpariaeth mewn perthynas â’r MDLS (lle mae nifer y dyfeisiau sydd eu hangen yn cynyddu gyda nifer y plant). I ddechrau, ymddangosai bod gan lawer o’r teuluoedd nifer o liniaduron a/neu dabledi a fyddai mewn theori yn eu gosod uwchlaw’r hyn a amlinellir yn y MDLS. Fodd bynnag, pan archwiliwyd y dyfeisiau hyn ymhellach, eglurodd cyfranogwyr nad oedd y rhain o reidrwydd yn gweithio’n iawn roeddent yn hen, yn colli eu defnyddioldeb, neu nad oedd ganddynt y feddalwedd yr oedd ei hangen arnynt.

Mae dau [liniadur] sy’n gweithio…O’r ddau, fel arfer byddwn ni ond yn defnyddio un ohonynt, mae’r llall gymaint yn hŷn ac mae’n araf dros ben. Felly, chi’n gwybod, yn amlwg yn y byd sydd ohoni, rydych chi angen iddo fod yn gyflym ac yn effeithlon on’d ydych? Chi’n gwybod, er mwyn gallu rhedeg yr holl feddalwedd a stwff sydd eu hangen arnoch. Felly, ie, dim ond un ohonynt sy’n ticio’r blychau i gyd ac yn gwneud popeth, ond dyw’r llall ddim cystal. (Rhiant)

Mewn achosion eraill, roedd gan rieni ddyfeisiau nad oedd modd eu rhannu o reidrwydd at ddefnydd cyffredinol y teulu, oherwydd eu bod wedi’u benthyg gan berthynas, neu oherwydd eu bod yn ddyfais a oedd yn gysylltiedig â gwaith neu rôl wirfoddol, ac ni allent beryglu eu difrodi. Dywedodd teuluoedd fod diffyg mynediad at liniadur yn eu cyfyngu mewn rhai tasgau. Mewn un achos, nid oedd person ifanc yn gallu cwblhau ffurflen gais gartref, ond yn aml roedd hyn yn gysylltiedig â gwaith ysgol. Teimlai rhieni ar adegau bod rhagdybiaeth, neu y bu rhagdybiaeth, y byddai gan y teulu fynediad at liniadur yn y cartref. Mewn gwirionedd, roedd cael gliniadur annigonol neu ddim un o gwbl yn achosi anhawster lle nad oedd plentyn yn gallu cyflwyno gwaith cartref, neu’n gorfod dibynnu ar ffôn i gymryd rhan mewn dysgu ar-lein, gan gynnwys ar gyfer addysg yn y cartref. Lle teimlai teuluoedd nad oedd ganddynt liniadur neu fod angen un dibynadwy a diweddar arnynt, yn aml roedd yn gysylltiedig â’i angen ar gyfer gwaith ysgol neu goleg.

Disgrifiodd rhai cyfranogwyr y gwahaniaeth roedd cael dyfais addas wedi'i wneud iddynt. Mewn un cyfweliad, dywedodd rhiant fod ei phlant hŷn wedi prynu gliniadur iddi, ac mewn cyfweliadau eraill, roedd cyfranogwyr wedi cael gliniadur neu dabled gan sefydliad cymorth yn ddiweddar. Roedd cael mynediad at y dyfeisiau hyn wedi helpu rhieni i gymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o’i gymharu â defnyddio eu ffôn cyn hynny. Roedd derbyn gliniadur hefyd wedi galluogi pobl i ymgymryd â rolau gwirfoddol.

Pan ges i hwnna [gliniadur] ganddyn nhw, ro’n i’n teimlo mor hapus oherwydd gallai hynny wedyn fy helpu i, ac wedyn byddwn i’n gallu helpu eraill, felly mae’n hyfryd. (Rhiant 1)

Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i blant gyflawni tasgau ar-lein gartref yn hytrach na dibynnu ar gyfrifiaduron yr ysgol, eu ffôn clyfar neu’r llyfrgell leol. Roedd gan sawl teulu dabledi cadarn, gyda nodweddion diogelwch priodol, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer plant. Roedd y rhain yn gweddu i’w anghenion, yn enwedig ar gyfer plant iau, er nododd rhieni y byddai angen cael rhai newydd wrth i’r plentyn dyfu.

Gwasanaethau tanysgrifio a chonsolau gemau fideo

Mae mynediad at gonsol gemau a thanysgrifiad gemau wedi’u cynnwys yn y MDLS fel bod plant yn cael y cyfle i ymuno â’u ffrindiau ar-lein a pheidio â cholli allan ar chwarae gemau fideo fel math o weithgaredd cymdeithasol. Roedd pwysigrwydd chwarae gemau’n amrywio ar draws y teuluoedd a gyfwelwyd gennym; roedd rhai teuluoedd er enghraifft yn defnyddio eu consol i wylio teledu neu ffilmiau yn hytrach nag i chwarae. Fodd bynnag, i rai plant a phobl ifanc, roedd chwarae gemau yn rhan o fywyd ac yn ffordd o ryngweithio gyda ffrindiau. Dywedodd un rhiant a oedd yn byw mewn ardal wledig nad oedd rhyw lawer i blant ei wneud pe byddant yn mentro allan. Roedd chwarae gemau hefyd o bwys penodol lle’r oedd gan blant neu bobl ifanc awtistiaeth, ADHD neu orbryder, a disgrifiwyd ei fod yn helpu gyda’u llesiant. Ar draws ystod o amgylchiadau, trafododd rhieni a phobl ifanc sut y gallai rhai agweddau ar ryngweithio wyneb yn wyneb fod yn anodd, a bod chwarae gemau ar-lein yn cynnig bywyd cymdeithasol a ffordd o gysylltu ag eraill, a oedd yn teimlo’n gyfforddus neu’n llai beirniadol.

…dwi jest ddim am fod yn y byd sydd y tu allan. Felly, ar-lein, chi’n gwybod, gallaf fod yn fi fy hun heb fod neb yn fy adnabod i. (Plentyn 18 oed)

Siaradodd teuluoedd am oblygiadau ariannol parhaus chwarae gemau ar-lein gan ei fod yn gofyn am danysgrifiad i ryngweithio â phobl eraill, ac am gysylltiad da a dibynadwy i’r rhyngrwyd er mwyn osgoi toriadau neu ‘oedi’ wrth chwarae. Amlygodd rhiant oblygiad ariannol arall yn gysylltiedig â’r pwysau i ddiweddaru consol er mwyn parhau i chwarae gyda ffrindiau neu berthnasau yr oedd ganddynt fersiwn mwy diweddar, neu i allu chwarae gemau newydd eu rhyddhau na ellir eu chwarae ar ddyfeisiau hŷn.

Un gost reolaidd ar gyfer rhai teuluoedd oedd tanysgrifiadau teledu megis Netflix, Disney neu flwch teledu. Er bod hyn wedi ychwanegu at gostau teuluoedd, esboniodd pobl y gallai hyn fod yn brif ffynhonnell eu hadloniant, er enghraifft os nad oeddent yn mentro allan rhyw lawer oherwydd y gost, oherwydd nad oedd rhyw lawer o amwynderau yn eu hardal, neu oherwydd anableddau neu iechyd meddwl. Disgrifiodd rhieni a phobl ifanc sut yr oedd ffrydio cynnwys teledu yn cyfrannu at eu llesiant, gan esbonio y gallai eu helpu i ymlacio, bod cael ‘noson ffilm’ fel teulu yn bwysig am iddi ‘ddod â ni ynghyd’, a’i bod hefyd yn helpu pobl i deimlo eu bod wedi’u cynnwys:

Mae’n bwysig i ni, rhywbeth fel Netflix, gan fyddai cydweithwyr yn y gwaith, hyd yn oed, yn gofyn a ydyn ni weld gweld hyn a’r llall. Mae’n gwneud i ni deimlo ein bod ni’n cysylltu. (Rhiant)

Band eang a phroblemau cysylltedd

Mae band eang cartref yn gonglfaen y MDLS ond gyda’r amod y dylai fod yn hygyrch ac yn ddigon dibynadwy a chyflym i ddiwallu anghenion teulu. Gall hyn gynnwys gweithgareddau megis chwarae gemau, ffrydio a galwadau fideo sy’n gofyn am gysylltiad rhesymol a sefydlog i weithio’n iawn. Amlygodd y cyfweliadau’r heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau cysylltiad band eang digonol, ac effaith hynny.

Nid oedd gan un teulu a oedd yn byw mewn llety dros dro fynediad at fand eang cartref oherwydd na allent fforddio talu cost y bil misol gyda'u taliad cymorth lloches. Er bod rhiant y teulu hwn wedi derbyn cerdyn SIM symudol yn darparu 20GB o ddata yn fisol gan sefydliad cymorth, dywedodd fod hyn yn cynnwys ei defnydd o’r rhyngrwyd yn y cartref a thu allan i’r cartref. Gan nad oedd gan y teulu deledu chwaith, roedd eu defnydd o ddata hefyd yn cynnwys adloniant, megis gemau ffôn symudol a rhaglenni teledu.

Roedd band eang annibynadwy yn golygu bod teuluoedd yn cael anhawster rhedeg dyfeisiau lluosog ar yr un pryd ac yn golygu bod yn rhaid iddynt gyfyngu ar eu defnydd neu ddatgysylltu dyfeisiau. Dywedodd teuluoedd hefyd na allent gael mynediad i'r rhyngrwyd mewn rhai rhannau o'r cartref. Mewn achos un teulu, roedd hyn yn golygu nad oedd eu plentyn yn gallu gwneud ei waith cartref yn ei ystafell wely, lle’r oedd yn dawel, ond yn ystafell fyw’r teulu yn lle. Roedd cyflymderau araf y rhyngrwyd a datgysylltu’n aml yn effeithio ar alwadau fideo a oedd yn bwysig ar gyfer cysylltu â ffrindiau a theulu, cyfarfodydd ar gyfer gwaith gwirfoddol neu ddysgu ar-lein. Dywedwyd fwy nag unwaith bod cysylltiad annibynadwy yn broblem i blant, yn enwedig os oedd y plentyn ar y sbectrwm awtistiaeth neu os oedd ganddynt ADHD, a’r ffaith y gallai methu â chysylltu â’u ‘gofod diogel’ beri rhwystredigaeth a gorbryder. Gallai bod heb fand eang olygu gorfod chwilio am ffyrdd eraill o gael cysylltiad, er enghraifft trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd mewn llyfrgell ar ôl ysgol, mynd â phlentyn i berthynas er mwyn gallu defnyddio’r teledu, neu deithio i apwyntiad yn y cnawd yn hytrach na chael apwyntiad ar-lein.

Mae cost band eang cartref yn broblem sylweddol i deuluoedd ar gyllideb dynn, ac yn aml teimlai rhieni eu bod yn talu pris uchel (hyd at £50 y mis) am eu rhyngrwyd. Roedd rhai wedi gorfod uwchraddio i ‘ffeibr cyflym’ i gael Wi-Fi digonol gartref, gan nad oedd eu gwasanaeth blaenorol yn gallu ymdopi. Fodd bynnag, teimlasant nad oedd fawr o ddewis ganddynt gan ei fod yn angen mor bwysig i’w teulu.

Dwi ddim yn hapus gyda faint dwi’n ei dalu nawr ‘mod i wedi uwchraddio i fand eang ‘superhero’... Y peth yw, ar gyfer ein cartref penodol ni, mae angen iddo fod yn fand eang cyflym, dibynadwy ac yn anffodus, mae’n rhaid i chi dalu bron dwbl yn llythrennol amdano. (Rhiant)

Roedd cyfranogwyr yn arbennig o rwystredig os oeddent wedi uwchraddio gyda’r addewid o wasanaeth gwell ond yn gweld cysylltiad araf neu annibynadwy o hyd. Teimlai un rhiant nad oedd yn gallu fforddio uwchraddio i ryngrwyd cyflymach nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond dygymod â gwasanaeth annigonol ond dywedodd fod y gost yn dal i fod yn rhan sylweddol o’u cyllideb.

Mae’n rhywbeth lle nad oes gennych ddewis, mae’n rhaid i ni ei gael am y pris hwn, ond rydych yn cael signal isel, rydych yn cael y cysylltiad yn gollwng, a phan fyddwch yn cwyno amdano, maen nhw jest yn dweud, o wnawn ni wirio fe a’i drwsio ond dyna ddiwedd y [peth]. Maent yn gwneud y lleiaf posibl am y pris rydyn ni’n talu, ac eto rwy’n talu tua £25, dyw hynny ddim yn swm bach. I fi, mae hynny’n swm eithaf [mawr]. (Rhiant)

Nododd teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig, ac yn nyffrynnoedd Cymru, fod anawsterau cael cysylltiad rhesymol yn cael eu gwaethygu gan y dewis cyfyngedig o ddarparwyr a oedd yn cyfyngu ar yr opsiynau band eang oedd ar gael iddynt.

Roedd problem arall yn gysylltiedig ag arferion darparwyr gwasanaethau, yn enwedig y premiwm teyrngarwch, lle’r oedd costau misol ar gyfer band eang wedi codi o £26 (ar gyfer cwsmeriaid newydd) i £39 neu dros £50. Roedd hyn wedi dal cwpl o deuluoedd, a oedd, adeg y cyfweliad, yn talu llawer mwy nag yr oeddent wedi’i ddisgwyl neu y gallent ei fforddio ac roeddent yn pryderu eu bod yn sownd mewn contract. Mewn un achos, roedd hyn wedi arwain at ôl-ddyledion a chafodd y teulu eu datgysylltu o’r rhyngrwyd nes iddynt allu benthyg yr arian i gael y cysylltiad eto.

Mae angen tariffau cymdeithasol ond maent yn annigonol

Teimlai cyfranogwyr yn gryf y dylai fod opsiynau band eang rhatach ar gael i helpu i leddfu’r gost ar gyfer aelwydydd incwm isel, ond bod y ddarpariaeth a gynigir trwy dariffau cymdeithasol yn annigonol ar gyfer anghenion pobl. Roedd un rhiant wedi defnyddio tariff cymdeithasol yn y gorffennol, ond wedi canfod ei fod yn annigonol ac wedi symud i fand eang ffeibr cyflym ers hynny a theimlai nad oedd tariffau cymdeithasol yn gallu ymdopi â’r heriau yr oedd teuluoedd yn yr ardal honno yn eu hwynebu ar y cyflymder a gynhigiwyd:

Dwi wedi rhoi cynnig ar gwpl o fandiau eang, yn enwedig rhai ar gyfer pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Band eang rhatach felly…Gwych yn ariannol, ond yn ddiwerth am y rhyngrwyd, oherwydd mae’n defnyddio’r cyflymder isaf posibl. A rownd ffordd ‘ma, gan ein bod yn eithaf gwledig, dyw’r cyflymderau ddim mor gyflym ag y dylen nhw fod, felly dwi’n colli’r cysylltiad trwy’r amser. (Rhiant)

Gwnaeth eraill y pwynt bod anghenion a disgwyliadau ynghylch yr hyn sy'n ofynnol fel 'gwasanaeth sylfaenol' wedi esblygu gyda mwy o ddigideiddio, ac y dylai tariffau cymdeithasol adlewyrchu hyn:

A dweud y gwir, dyw’r tariff cymdeithasol ‘na ddim yn mynd i fod yn [ddigonol] ar gyfer anghenion fy mhlentyn….A byddan nhw’n dweud wrthych ei fod yn wasanaeth sylfaenol, ond yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl nawr, eich gwasanaeth sylfaenol, mae’n wahanol iawn i’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl deng mlynedd yn ôl. Mae angen i’ch gwasanaeth sylfaenol ystyried eich anghenion i gyd, yr ysgol, addysg, y Ganolfan Waith, allwch chi ddim gwneud dim byd heb fynd ar-lein. (Rhiant)

Heb wella ansawdd y ddarpariaeth a gynigir drwy dariffau cymdeithasol, ystyriwyd nad oedd yn ymarferol i lawer o deuluoedd. Fel y mynegodd y teuluoedd, pan fyddant yn wynebu’r opsiwn o gael gwasanaeth na fydd yn diwallu eu hanghenion yn ddigonol, nid oes gan bobl lawer o ‘ddewis’ ond i dalu mwy. Beirniadwyd tariffau cymdeithasol gan randdeiliaid yn ogystal gweler yr adran honno.

Y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer byd digidol

Mae meddu ar y sgiliau a’r ddealltwriaeth i allu defnyddio technoleg a mynd ar-lein yn hyderus ac yn ddiogel yn agwedd bwysig arall ar y MDLS. Mae hyn yn cwmpasu sgiliau ymarferol (sgiliau digidol ‘gweithredol’) yn ogystal â sgiliau hanfodol ar gyfer byw mewn cymdeithas ddigidol megis ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein. O ran polisi, yn aml trafodir sgiliau digidol sylfaenol yn nhermau elfennau craidd ‘Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol’ llywodraeth y DU. Gellir ystyried bod sgiliau’r MDLS a lefelau’r Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol yn dod o dan ymbarél eang ‘llythrennedd digidol’. Am fwy o wybodaeth ar hyn gweler yr adroddiadau diweddar gan Brifysgol Lerpwl, Ofcom, a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon / Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.

Trafododd rhieni brofiadau eu teuluoedd a’r hyn y teimlasant oedd yn bwysig wrth ddefnyddio dyfeisiau, delio â pheryglon digidol, neu reoli pwysau bywyd ar-lein. Nodwyd hefyd, wrth ystyried anghenion teuluoedd, bod sgiliau neiniau a theidiau hefyd yn berthnasol gan eu bod yn debygol o gymryd rhan mewn gofalu am y plant.

Yr angen am sgiliau ymarferol eang

Fel y gellid disgwyl, roedd sgiliau ac anghenion yn amrywio ar draws ac o fewn teuluoedd. Er enghraifft, roedd un rhiant yn ddefnyddiwr TG hyderus iawn, ar ôl rheoli ei busnes ei hun yn y gorffennol cyn dod i Gymru, a doedd yr heriau yr oedd hi’n eu hwynebu ddim yn gysylltiedig â sgiliau, ond â diffyg offer, cysylltiad a chyllid. Mewn teuluoedd eraill, roedd rhai aelodau o’r teulu yn dibynnu ar aelodau eraill o’r teulu am gymorth digidol, gan nad oedd ganddynt y sgiliau neu’r hyder i lenwi ffurflenni ar-lein nac i anfon taliadau trwy ap bancio.

Fel yr amlinellwyd gennym, roedd bywyd teuluol yn golygu delio ag ystod eang o ddyfeisiau ac roedd yn amlwg o’r cyfweliadau, er efallai bod pobl yn hyderus mewn un maes, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu eu bod yr un mor hyderus mewn maes arall. Trafododd sawl rhiant sut yr oeddent yn gallu defnyddio gliniadur yn ddigon deheuig, ac weithiau yn defnyddio un ar gyfer gwaith neu rôl wirfoddol, ond eu bod yn llai hyderus wrth ddefnyddio eu ffôn neu wrth ddod ar draws problemau cysylltu. Teimlai rhai rhieni eu bod yn gallu ymdopi trwy wybod y pethau sylfaenol, bob dydd am ddefnyddio dyfeisiau ond eu bod yn ei chael hi’n anodd pan fod rhywbeth yn mynd o’i le.

Dwi’n credu bod fy mhlant yn disgwyl i mi wybod popeth, felly os oes rhywbeth yn bod gyda’r rhyngrwyd, dwi’n mynd yn ôl ac ymlaen gyda’r cysylltiad, yn ceisio ei gysylltu i’r teledu ac maen nhw fel, o pam nad yw’n gweithio, ac yn swnian byth a hefyd, a does gen i ddim syniad, ond bydda i’n tynnu ar wifrau, gwasgu botymau a phethau yn gwbl ddi-glem, mewn gobaith. (Rhiant)

Lle’r oedd plant hŷn yn y teulu, yn aml byddai pawb yn mynd atyn nhw am gymorth technegol. Ond eto, gallai eu setiau sgiliau fod yn gymysg roedd un ferch yn ei harddegau a oedd yn ddefnyddiwr ffôn symudol hyderus iawn, ac a helpodd ei rhiant ymdopi gyda newid o Android i iPhone, yn troi at ei rhiant am gymorth gyda defnyddio gliniadur. Trafododd rhieni eraill ofyn i’r teulu neu i ffrindiau am help neu chwilio ar-lein am ateb i broblem. Roedd dysgu sgiliau TG sylfaenol yn y gorffennol wedi rhoi’r sylfaen i allu defnyddio gliniadur, ac roedd un cyfranogwr yn mynd i dderbyn hyfforddiant TG drwy eu rôl gwaith gwirfoddol. Fodd bynnag, nid oedd o reidrwydd yn amlwg i bobl sut i ddelio â rhai o'r rhwystrau yr oeddent yn eu hwynebu.

Felly, mae lawr i chi wedyn fel rhiant on’d ydy, i ddiweddaru’r peth a does gen i ddim clem. Dylwn i ddysgu’n hun am hyn. Ond ble byddwn i’n mynd, dwi ddim yn gwybod. (Rhiant)

Mae’n rhaid i chi fod ar eu rhestr bostio [yr ysgol] i dderbyn e-byst ganddynt. Er enghraifft, ar gyfer pethau penodol sydd wedi bod yn digwydd, fel gwerthiannau llyfrau, gwerthiannau cacennau, y math yna o beth. Mae e wedi colli allan ar lawer o bethau oherwydd, yn amlwg, dwi ddim yn defnyddio’r math yna o beth yn dda iawn. A wnes i egluro hynny i'r [ysgol], a dwedon nhw, o iawn, wnawn ni ddweud wrthych chi yn y dyfodol, wnawn ni roi gwybod i chi [ond dydyn nhw ddim]. (Rhiant)

Mae’n bwysig nodi hefyd, er y gallai rhywun fod yn hyderus yn defnyddio WhatsApp neu Facetime ar gyfer galwadau fideo, efallai na fyddant yn gyfforddus yn defnyddio Zoom neu Teams mewn amgylchiadau mwy ffurfiol. Esboniodd un rhiant bod y ffaith nad oedd yn gwybod sut i ddefnyddio’r platfformau hyn ar gyfer cyfarfodydd wedi ychwanegu at yr anesmwythder a deimlai’n barod wrth ryngweithio â gweithwyr proffesiynol.

Ymdopi â diogelwch digidol, peryglon ar-lein a sgamiau

Roedd diogelwch ar-lein, yn enwedig mewn perthynas ag ymddygiad a lles plant yn bryder allweddol i rieni. Roedd y plant y buom yn siarad â nhw yn gyffredinol yn ymwybodol o beryglon posibl ar-lein, er enghraifft, ynghylch rhannu gwybodaeth a siarad â phobl ddieithr. Soniodd sawl rhiant am ba mor ofalus yr oeddent, gan ddweud eu bod wedi dysgu eu plant am bryderon o’r fath, ac fe wnaethant amlygu pwysigrwydd cael trafodaethau agored â’i gilydd. Roedd rhai rhieni wedi defnyddio nodweddion diogelwch, er enghraifft gosod terfynau oedran a defnyddio tabledi priodol am oed y plentyn. Mewn achos rhai rhieni, roedd eu hofnau a’u hymwybyddiaeth uwch o'r peryglon wedi deillio o brofiadau blaenorol lle bu plentyn yn destun perygl ar-lein oherwydd rhywbeth a bostiwyd ganddynt ar-lein, neu oherwydd eu bod wedi siarad ag oedolion yn anfwriadol. Roedd y profiadau hyn wedi peri ysgytiad i’r rhieni a’r plant dan sylw. Nododd rhai rhieni fantais aelodau’r teulu’n defnyddio’r un math o ffôn symudol naill ai Android neu iPhone oedd ei fod yn galluogi cysylltu, lleoli a monitro haws. Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn bosibl i deuluoedd, yn enwedig pan oedd angen iddynt ddibynnu ar ffôn a roddwyd iddynt (gan aelodau o’r teulu ehangach neu sefydliadau cymorth). Yn lle cysylltu dyfeisiau a rheolaethau rhieni, disgrifiodd un rhiant wirio a monitro’n gorfforol gweithgaredd ar-lein ei phlentyn deng mlwydd oed, sefyllfa nad oedd o reidrwydd yn gyfleus nac yn cynnig tawelwch meddwl.

Mae’n codi fy ngwrychyn i nawr, oherwydd bod hwn yn iPhone a ddim yn android, alla i ddim gwneud y rheolaethau rhieni, hyd y gwn i, bydd rhaid i mi wneud bach mwy o ymchwil…. Dwi’n dweud wrthi am beidio â rhoi ei gwybodaeth bersonol i bobl nad yw hi’n eu hadnabod. Ond chi’n gwybod fel mae plant …Dwi’n ceisio edrych ar y ffôn neu ofyn iddi roi’r ffôn i mi pan mae’n mynd i’r gawod neu rywbeth (Rhiant)

Roedd rhieni, serch hynny, yn cydnabod ei bod yn anodd cael y cydbwysedd yn gywir, gyda’r angen i ymddiried yn eu plant, gan wybod y byddant yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth iddynt fynd yn hŷn, a ddim am iddynt golli allan.

Roedd ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gallu adnabod sgamiau ar-lein, ac er bod rhai rhieni yn ofalus tu hwnt, nid oedd yn hawdd. Disgrifiodd sawl teulu cael eu dal, boed hynny gan hyperddolenni twyllodrus a effeithiodd ar eu porwr rhyngrwyd, neu drwy lawrlwytho ap a oedd wedi peryglu eu manylion banc, neu golli arian ar ôl prynu dyfeisiau ail law ar-lein a gafodd eu cam-hysbysebu ac nad oeddent yn gweithio. Mewn digwyddiad arall, roedd plentyn ifanc wedi torri ffôn ei riant ar ôl copïo’r hyn a welodd ar-lein, ac o hynny ymlaen, sicrhaodd y rhiant eu bod yn gwylio fideos YouTube gyda’i gilydd i allu siarad yn feirniadol am yr hyn a welsant.

Delio â phwysau ar-lein

Yn niffiniad y MDLS, mae’r gallu i ymddwyn yn briodol ar-lein, a delio ag ymddygiad problemus, wedi’u rhestru o dan sgiliau ymarferol ac o dan sgiliau diogelwch. Mewn trafodaethau gydag aelwydydd, trafodwyd y materion hyn ac ystyriwyd eu bod yn rhan o ganologrwydd cyfathrebiadau digidol mewn cysylltiadau bob dydd pob aelod o’r aelwyd, ond yn enwedig y bobl ifanc. Felly, roedd delio â phwysau sy’n gysylltiedig â chyfathrebu ar-lein, ac yn enwedig cyfryngau cymdeithasol, yn rhywbeth y mae’r teuluoedd y buom yn siarad â nhw yn uniaethu ag ef, gyda gwahaniaethau a thebygrwydd yn y materion a godwyd gan blant, pobl ifanc a rhieni.

Roedd pobl ifanc yn benodol yn cydnabod bod disgwyliadau yn aml o ran derbyn ymateb yn syth i neges ond roedd ganddynt brofiadau gwahanol a dulliau gwahanol o ymdopi â hyn. Dywedodd pobl ifanc y gallai’r pwysau i ymateb fod yn anodd delio ag ef, yn enwedig pan fydd plentyn yn cael ffôn am y tro cyntaf, ac yn dysgu sut i ddelio â disgwyliadau. Disgrifiodd sawl plentyn hŷn yr angen i fod yn ymwybodol a pheidio â rhoi eich hun dan bwysau, yn ogystal â sut i ddelio gyda disgwyliadau pobl eraill. Er enghraifft, dywedodd un person ifanc nad oedd yn teimlo’r pwysau cymdeithasol i ymateb i negeseuon, ond y byddai ei gariad yn hen flino wrth aros iddo ymateb. Dywedodd nad oedd y nodwedd sy’n caniatáu i bobl weld a yw neges wedi’i dderbyn neu ei ddarllen yn helpu gyda’r rhwystredigaeth hon. Esboniodd cyfranogwr ifanc arall sut yr oedd hi’n delio â negeseuon di-baid oddi wrth ei ffrindiau:

Dwi jest wedi gadael fy ffôn ar beidiwch â tharfu. Felly, hanner yr amser fyddai ddim yn cael unrhyw hysbysiadau’n dod drwodd nes ei fod yn un rhestr enfawr o negeseuon a galwadau ffôn. Ond dyw hi ddim yn rhoi pwysau arna i fwyach. Well gen i ei gadw fel ‘na oherwydd os dwi am wylio fideo, gallaf wneud hynny yn lle cael hysbysiadau’n dod drwodd bron pob eiliad. (Plentyn, 14 oed)

Mater arall a godwyd oedd y pwysau sy’n dod o wylio’r cyfryngau cymdeithasol a ‘dylanwadwyr’ sy’n gallu effeithio ar hunanddelwedd pobl ifanc, ac effeithio ar eu llesiant. Fel y nododd un person ifanc, mae angen i bobl ddeall eu bod yn defnyddio hidlyddion, a pheidio ag ‘ymgolli eu hunain ynddo’.

Ar y we… mae pawb yn disgwyl i rywun edrych fel hyn neu’r llall hefyd. Yn enwedig ar leoedd fel Tik Tok a hynny, oherwydd rydych chi’n postio fideos o’ch hunain, ac mae’n gallu bod yn niweidiol iawn i iechyd meddwl rhywun ac i sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain. (Plentyn, 16 oed)

Trafododd rhieni achosion lle’r oedd plant wedi bod yn destun bwlio ar-lein a sylwadau difrïol, ond hefyd yr anhawster o blant yn cael eu camddeall wrth anfon neges y gellid ei chymryd y ffordd anghywir. Soniodd sawl rhiant am yr angen i esbonio wrth blant am fod yn ofalus gyda’r hyn y maent yn ei ysgrifennu ar-lein. Amlygodd rhai rhieni fod cael eu camddeall ar-lein yn gyffredin i blant gyda ADHD neu sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.

Wrth gydnabod bod gwerth i’r rhyngrwyd fel dull o gyfathrebu a chasglu gwybodaeth, trafododd rhieni a phlant fel ei gilydd heriau rheoli amser ar-lein. Soniasant am gael eich ‘sugno i mewn’ i’r cyfryngau cymdeithasol a’u bod yn gallu ‘cymryd drosodd’. Trwy gydnabod hyn, roedd un rhiant bellach yn monitro ei amser ar Instagram a candy crush.

Dwi’n treulio llawer gormod o amser ar Facebook, dwi’n gwybod … A dwi’n teimlo fatha sombi digidol ac wedi fy mharlysu gan y we, ond ar yr un pryd, mae’n ddiddanwch ac mae’n ffordd o gadw mewn cysylltiad â phobl. (Rhiant)

Dwi’n credu mai TikTok yw’r gwaethaf am hyn. O, dyna ddwy awr wedi mynd, dyna fy noson. Yr hyn sy’n wallgof yw gallwn sgrolio’n hapus trwy TikTok am ryw bedwar awr, yn llythrennol, ac wedyn ar ôl rhyw bum munud allwn i ddim enwi un fideo dwi newydd ei wylio. Mae’n hurt sut rydyn ni’n gwastraffu amser. (Plentyn 17 oed)

Rhwystrau i’r MDLS: Fforddiadwyedd

Fel y gellid disgwyl, roedd fforddiadwyedd, yng nghyd-destun incwm cyfyngedig aelwydydd a phwysau costau byw cynyddol, yn dylanwadu’n sylweddol ar lefel y dechnoleg a oedd gan deuluoedd.

Fforddiadwyedd a chyfyngiadau ariannol

Roedd pwysau ariannol yn bresenoldeb parhaus i raddau amrywiol i’r teuluoedd yn yr astudiaeth. Roedd aelwydydd yn amrywio o’r rheini y daeth eu hincwm i gyd o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol neu o fod yn y system loches gyda lefelau cymorth hyd yn oed yn is, i’r rheini â rhieni mewn gwaith cyflogedig a oedd yn ennill yn fwy na’r lefel i fod yn gymwys am fudd-daliadau. Trafododd rhieni sut yr oedd eu cyllidebau a oedd eisoes wedi’u cyfyngu, yn wynebu straen pellach o’r cynnydd ym mhrisiau bwyd ac ynni. Disgrifiodd rhai eu bod yn ‘prin rhygnu byw’, yn gorfod benthyg i oroesi, a’u bod mewn dyled neu’n ddyledus gyda’u biliau. Roedd byw ar incwm isel yn golygu cyfyngu ar wario ar hanfodion, trafnidiaeth ac ar weithgareddau’r plant, a dibynnu ar gymorth (gan deulu, ffrindiau neu sefydliadau) am fwyd a dillad, ac weithiau dyfeisiau neu gysylltiad digidol.

Roedd fforddiadwyedd felly’n rhwystr allweddol i ddiwallu anghenion digidol teuluoedd ac yn golygu gorfod ymdopi â ffonau nad oeddent yn gweithio’n iawn, peidio â chael gliniadur y gallent ei ddefnyddio, neu gael data a mynediad i’r rhyngrwyd annigonol. Roedd sefyllfaoedd ariannol ansicr hefyd yn cyfyngu ar opsiynau pobl, gyda theuluoedd yn dweud na allant gael, neu newid, contract ffôn symudol oherwydd sgôr credyd gwael neu fod yn ddyledus gyda thaliadau.

Dangosodd y cyfweliadau hefyd, hyd yn oed pan oedd gan deuluoedd ystod o ddyfeisiau digidol, neu fand eang cyflym, nad oedd y rhain o reidrwydd yn ‘fforddiadwy’, ac roedd talu amdanynt yn effeithio ar feysydd eraill cyllideb yr aelwyd. Trafododd rhai rhieni sut, er bod arian yn brin iawn, yr oedd diwallu anghenion digidol eu teuluoedd, ac yn enwedig eu plant, yn golygu eu bod yn blaenoriaethu talu am fand eang a ffonau; weithiau’n mynd heb fwyd, neu'n cerdded yn hytrach na thalu am drafnidiaeth gyhoeddus a bod ar ei hôl hi gyda thaliadau eraill o ganlyniad. Roedd troi at gyfyngu ar wario ar hanfodion eraill wedi amlygu pwysigrwydd cael eu cynnwys yn ddigidol i rai teuluoedd, ond y penderfyniadau anodd a’r caled y gallai hyn ei olygu ar gyllideb dynn.

Yn realistig, dwi’n dewis talu am y rhyngrwyd dros fwydo fy hun oherwydd mae’r angen mor enfawr i’m plant. (Rhiant)

Nid oedd dod o hyd i’r arian am ddyfeisiau digidol ar incwm cyfyngedig yn bosibl i lawer o’r teuluoedd. Roedd rhai rhieni wedi benthyg arian neu wedi prynu eitemau ar gredyd i ledaenu’r gost, gan gynnwys defnyddio benthyciwr arian didrwydded lle teimlasant nad oedd fawr o opsiynau eraill. Yr hyn a helpodd un teulu oedd cynllun gwaith oedd yn caniatáu rhiant i brynu eitemau technoleg gyda didyniadau o’u cyflog, lle dywedasant fod hyn wedi gwneud yr ad-daliadau’n fwy hylaw. Mewn rhai achosion, roedd teuluoedd wedi derbyn dyfeisiau (ffôn, gliniadur neu dabled) ac mewn un achos data symudol, gan sefydliadau cymorth ac roedd hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr gan na fyddant wedi gallu fforddio’r rhain fel arall.

Roedd bancio ar-lein yn rhan arferol o fywyd bob dydd i lawer, ac yn hanfodol i’r rhai heb fynediad at gangen (naill ai oherwydd cyflwr iechyd neu oherwydd ble roeddent yn byw), ond roedd angen data symudol neu Wi-Fi ar bobl i gael mynediad i’w cyfrifon. Roedd cael cysylltiad annigonol yn ychwanegu at broblemau incymau cyfyngedig lle nad oedd modd i rieni fynd ar-lein i wneud taliad, gan arwain at godi tâl am dalu’n hwyr.

Amrywiad mewn anghenion digidol a’r gallu i’w diwallu

Y tu hwnt i fforddiadwyedd, roedd ffactorau strwythurol ac unigol eraill yn croestorri i effeithio ar yr opsiynau oedd ar gael iddynt ac ar y galwadau a roddwyd ar ddyfeisiau a’r rhyngrwyd, gan amlygu sut y mae anghenion a’r gallu i’w diwallu yn amrywio i deuluoedd mewn gwahanol amgylchiadau. Gellir ystyried y MDLS yn fan cychwyn, ond mae ein cyfweliadau’n amlygu nad un ateb sy’n addas i bawb o ran diwallu anghenion digidol i deuluoedd â phlant. Roedd siarad â theuluoedd mewn amrywiaeth o amgylchiadau yn helpu i egluro'r amrywiaeth eang mewn anghenion digidol, sy'n croestorri gyda heriau amrywiol wrth geisio cyflawni cynhwysiant digidol. Rydym wedi cyfeirio at rai o'r anghenion a'r rhwystrau hyn drwy gydol yr adran ddiwethaf ond yn eu tynnu at ei gilydd yma.

Teuluoedd lle mae gan riant a / neu blentyn gyflwr iechyd neu anabledd

Gallai cyflwr iechyd neu anabledd olygu goblygiadau lluosog o ran anghenion a phrofiadau digidol teuluoedd yn yr astudiaeth. Roedd cael data ffôn a signal digonol ar gyfer argyfyngau yn hanfodol pan oedd gan aelod o’r teulu gyflwr iechyd neu anabledd a allai olygu bod angen mynd â nhw’n syth i’r ysbyty, ac yn bwysig ar gyfer tawelwch meddwl lle’r oedd angen mynediad at gymorth ar aelod o'r teulu yn ystod cyfnodau o orbryder. Dywedodd rhai teuluoedd fod y rhyngrwyd yn darparu gwybodaeth hanfodol a mynediad at gymorth. Roedd yn eu galluogi i ymchwilio i'w cyflwr iechyd eu hunain neu gyflwr iechyd eu plentyn, dysgu am wahanol adnoddau, a chysylltu'n gymdeithasol ag eraill ar-lein a oedd mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae’r rhyngrwyd yn wych, oherwydd mae’n fy helpu i gysylltu, a gallaf ymuno â phethau fel, chi’n gwybod, fel grwpiau cymorth…. Dwi'n aros am therapi ar hyn o bryd, ond dwi hefyd yn ceisio helpu fy hun a dwi'n gwneud lot o ymchwil am yr hyn dwi’n meddwl neu am sut dwi’n teimlo, ac mae’r rhyngrwyd wedi codi fy ymwybyddiaeth ac am y gefnogaeth sydd ar gael. (Rhiant)

Ystyriwyd bod mynediad digidol yn bwysig ar gyfer cadw mewn cysylltiad gyda gwasanaethau iechyd sy’n defnyddio systemau ar-lein yn gynyddol, er enghraifft ar gyfer gwneud a chadarnhau apwyntiadau a chael mynediad at bresgripsiynau. Dywedodd rhai teuluoedd hefyd fod y rhyngrwyd yn cynnig gofod diogel i bobl allu cymdeithasu, gan gynnwys pobl ifanc a phlant ar y sbectrwm awtistiaeth. Dywedodd un rhiant fod galwadau fideo gyda ffrindiau wedi’i helpu i ‘ddod drwy’ gyfnod pan oedd hi’n ddifrifol wael. I gyfranogwr arall â gorbryder, roedd mynd ar-lein yn ffordd o wneud ffrindiau newydd a chadw mewn cysylltiad â hen ffrindiau. Ar y llaw arall, soniodd teuluoedd am yr heriau digidol yr oedd pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd yn eu hwynebu. Roedd hyn yn cynnwys y symud o ryngweithio ar bapur, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i wasanaethau a ffynonellau gwybodaeth ar-lein a gallai’r rhain fod yn anodd eu llywio. Er enghraifft, dywedodd un rhiant, fel person â dyslecsia, fod gwefannau’n llawn testun a jargon yn ei rhwystro hi’n sylweddol wrth geisio darganfod gwybodaeth ynglŷn â budd-daliadau nawdd cymdeithasol.

Trafododd rhai teuluoedd yr angen uwch am fand eang cyflym a dibynadwy i blant ag ADHD, gorbryder neu sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Roedd gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau neu ffrydio fideos yn bwysig o ran creu gofod tawelu y gallai’r plentyn ei reoli a’i ragweld. Gallai torri ar draws cysylltiadau neu gysylltiadau araf gael effaith andwyol ar blentyn ac achosi trallod iddynt. Cysylltodd teuluoedd rwystredigaeth a thrallod â thorri dyfeisiau a phryderon ynghylch y gost o amnewid yr eitemau pwysig hyn.

Mae e’n colli rheolaeth a llawer o’r amser mae’n digwydd oherwydd iddo fod yng nghanol gêm ac mae’r rhyngrwyd yn methu. Ac mae’n taflu’r remôt. Rydyn ni wedi mynd trwy sawl remôt, sy’n costio £59 yr un, ac os maen nhw’n glanio ar y teledu. Mae gen i deledu ar gredyd yn ei ystafell ar hyn o bryd achos wnaeth e falu e, ac roedd hynny am fod y rhyngrwyd wedi methu. (Rhiant)

Amgylchiadau personol teuluoedd

Amlygodd y cyfweliadau anghenion, ystyriaethau a heriau ychwanegol a oedd yn berthnasol i ddefnydd digidol mewn gwahanol amgylchiadau teuluol a sefyllfaoedd byw. Roedd gan deuluoedd â gwahanol drefniannau fwy o anghenion digidol. Er enghraifft, mewn teuluoedd sydd wedi gwahanu lle’r oedd y plant yn byw gryn bellter oddi wrth riant, neu lle roeddent yn byw dan ofal perthynas, roedd mynediad a chysylltiad digidol yn bwysig i aelodau’r teulu gynnal eu perthynas. Siaradodd cyfranogwyr am bwysigrwydd galwadau fideo yn hytrach na galwadau ffôn, ond roedd hyn yn dibynnu ar gysylltiad rhyngrwyd digonol a sefydlog.

Dydy galwad ffôn ddim mor neis â galwad fideo, nac ydy? Ac yn amlwg, â nhw’n byw mor bell i ffwrdd, mae’n well iddyn nhw weld fy wyneb na jest clywed fy llais. (Rhiant)

Dywedwyd yr un peth am werth galwadau fideo gan deuluoedd â rhwydwaith o deulu a ffrindiau’n byw ymhell i ffwrdd, a lle’r oedd amgylchiadau’n cyfyngu ar eu gallu i deithio i weld teulu a ffrindiau, megis cyfrifoldebau gofalu, cyflyrau iechyd neu ddiffyg amser neu arian yn gyffredinol. Roedd galwadau fideo yn galluogi pobl i gynnal cysylltiad cymdeithasol a pherthynas werthfawr gan gynnwys mewn cyfnodau o anhawster ac ar gyfer rhannu eiliadau pwysig. Siaradodd cyfranogwyr hefyd am gydweddoldeb dyfeisiau lle’r oedd plant yn byw ar wahân i riant neu frodyr a chwiorydd eraill ac am ddefnyddio Facetime ar gyfer galwadau (platfform galwadau fideo sydd ar gael ar iPhones yn unig) neu am ymuno â gemau ar-lein gyda nhw ar gonsolau newydd a chydweddol. Gallai diweddaru dyfeisiau i alluogi cyfathrebu o’r fath olygu cost sylweddol. Esboniodd un cyfranogwr tan iddi allu cael iPhone ar gyfer eu plentyn i ddefnyddio Facetime i alw rhiant, roeddent yn defnyddio WhatsApp yr oedd ganddi bryderon diogelwch yn ei gylch ac y byddai’n well ganddi fod ei phlentyn ddim yn ei ddefnyddio.

Roedd mwy o alw hefyd ar adnoddau digidol ymhlith teuluoedd mwy o faint. Yn un o’r teuluoedd a gyfwelwyd, roedd y ffaith nad oedd ganddynt ddigon o ddyfeisiau i bawb yn golygu bod angen i’r rhiant rannu ei ffôn yn aml gyda’i phlant drwy gydol y dydd. Cafodd hyn effaith ar ei mynediad hi i’r ffôn, gan gynnwys colli galwadau ffôn ar brydiau, ac roedd hefyd goblygiadau o ran gwydnwch y ddyfais.

Gall mynediad i'r rhyngrwyd fod yn hanfodol bwysig mewn amgylchiadau anodd iawn. Adfyfyriodd un cyfranogwr ar gyfnod o gam-drin domestig yr oedd hi wedi’i adael erbyn hyn, gan nodi bod gallu dod o hyd i wybodaeth a chymorth ar-lein wedi’i helpu i adael y sefyllfa dreisgar honno.

Mae’r rhyngrwyd i fi’n bersonol wedi fy achub… oherwydd oni bai am y rhyngrwyd, fyddwn i ddim wedi gallu cael gafael ar Gymorth i Fenywod oherwydd dyw’r hysbysebion ddim yn dod i fyny ar y teledu, des i ar draws yr hysbysebion ar Facebook, a fyddwn i ddim wedi gallu cael cyngor gan bobl…[Galwadau fideo oedd] yr unig beth wnaeth fy nghadw i’n gall…O’n i’n gallu rheoli rhan fach o’m bywyd. (Rhiant)

Fe wnaeth profiadau un cyfranogwr a oedd yn ceisio lloches dynnu sylw at anawsterau byw ar incwm cyfyngedig iawn o daliadau cymorth lloches, ynghyd ag amgylchiadau byw a oedd yn golygu mwy o angen am fynediad digidol. Heb ddarpariaeth rhyngrwyd yn eu llety a rennir dros dro, ac yn methu â fforddio band eang cartref, roedd y teulu’n dibynnu ar ddata symudol a ddarparwyd gan sefydliad cymorth. Gan ychwanegu at y problemau hyn, roeddent yn byw gyda theulu arall mewn amgylchedd cartref dan straen, ac roedd angen iddynt dreulio amser i ffwrdd o’r cartref gymaint ag oedd yn bosibl. Roedd ceisio ymdopi gyda dau ffôn annigonol (un heb ddigon o le storio ac un â bywyd batri annigonol) yn straen, yn enwedig gan fod y teulu am sicrhau bod modd cysylltu â nhw mewn perthynas â’r broses loches a’u bod yn gallu mynychu apwyntiadau.

Byw mewn ardal sydd â band eang cyfyngedig neu signal ffonau symudol cyfyngedig

Roedd rhai o gyfranogwyr yr astudiaeth yn byw mewn dinasoedd, ond roedd eraill mewn trefi neu bentrefi yn y cymoedd neu mewn lleoliad mwy gwledig neu anghysbell yng Nghymru. Yn ogystal â chael llai o fynediad at amwynderau megis archfarchnad, cangen banc neu lyfrgell, ac yn gorfod teithio i’w defnyddio a oedd yn golygu treulio amser a gwario arian, dywedodd teuluoedd hefyd eu bod yn wynebu problemau gyda chysylltedd rhyngrwyd ac weithiau signal ffonau symudol. Yn aml bu cyfranogwyr yn cwyno am y ddarpariaeth rhyngrwyd wael yn eu hardal, y teimlasant ei fod yn rhwystr rhag cael cysylltiad da am bris rhesymol. Roedd diffyg darparwyr yn golygu llai o ddewis wrth chwilio am fargeinion band eang a gorfod talu am gyflymder uwch i wella eu cysylltiad, er nad oedd talu mwy yn sicrhau gwasanaeth boddhaol fel y nodwyd uchod yn yr adran flaenorol. Teimlai pobl hefyd bod ganddynt lai o ‘bŵer bargeinio’ os oeddent am newid darparwyr gyda’r teimlad ei bod hi'n anodd negodi bargen well neu fygwth gadael os oedd y darparwr yn gwybod nad oedd ganddynt lawer o ddewis o ran gwneud hynny.

Mae’n eithaf cyfyngedig o ran dewis darparwr… oherwydd mae’r cysylltiad yn rhy araf yn yr ardaloedd lle rydyn ni’n byw…Dwi ddim yn gwybod os oes angen mwy o dyrau arnyn nhw neu rywbeth, dwi’n credu eu bod nhw wedi dweud mai’r mynyddoedd sy’n effeithio ar y cysylltiad mewn gwirionedd, a allwch chi ddim symud y rheini! Maen nhw wedi anghofio amdanon ni lawr fan hyn! (Rhiant)

Er bod rhai pobl yn tybio bod y ddarpariaeth wael yn gysylltiedig yn anochel â’u tirwedd leol, roedd yr ymdeimlad eu bod wedi’u gadael ar ôl. Roedd sawl cyfranogwr wedi cyferbynnu eu sefyllfa rhyngrwyd nhw gyda phrofiadau o ymweld â lleoedd neu bobl eraill â chyflymderau cyflymach (yn aml am gost is). Fe wnaeth un cyfranogwr adfyfyrio ar sgwrs a gafodd gyda pherthynas.

Fydda fe ddim yn gallu goddef hwnna yn Llundain, dyna ddywedodd e, fyddwn ni byth yn gallu defnyddio hwnna yn Llundain, tasan nhw’n rhoi’r cyflymder hwnnw inni, bydden nhw’n cael uffach o stŵr. (Rhiant)

Gallai band eang annigonol olygu galw ychwanegol ar ddata symudol, ond roedd gan bobl signal symudol cyfyngedig hefyd. Eto, roedd rhwystredigaeth o ran diffyg opsiynau am fargen well neu ddarparwr rhatach. Esboniodd pobl fod signal ffonau symudol cyfyngedig yn eu hardal yn cyfyngu ar eu hopsiynau mewn rhai achosion, dywedasant mai dim ond un neu ddau gwmni oedd yn gallu darparu signal lle roeddent yn byw felly nid oeddent yn gallu lleihau eu costau na dod o hyd i wasanaeth gwell. Roedd y ffaith bod ganddynt signal a chysylltiad annigonol wedi codi materion ymarferol yn ogystal â phryderon, er enghraifft ynghylch gallu chwilio am help os byddai eu car yn torri lawr mewn ardal anghysbell, neu mewn argyfwng meddygol.

‘Mae ofn peidio â chael signal yn bryder bywyd go iawn i mi’. ‘A dweud y gwir, dwi ddim yn mynd unman, dwi ddim yn gwneud dim byd. Mae’r cyngor yn trefnu diwrnodau rhad ac am ddim lawr yn fanna [y parc], ond alla i ddim mynd oherwydd yr ofn na fydda i’n gallu ffonio’r ambiwlans ‘na’. (Rhiant)

Y Gymraeg a thechnoleg ddigidol

Dywedodd teulu Cymraeg er eu bod o’r farn bod cynnydd i’w weld o ran cynnwys Cymraeg ar-lein, roedd problemau’n ymwneud â defnydd digidol oherwydd gellid ond defnyddio’r dechnoleg yr oedd ei hangen ar aelodau’r teulu ar gyfer gweithgareddau bob dydd, yn rhannol yn y Gymraeg, os o gwbl. Er enghraifft, dywedodd rhiant ei bod yn gallu dewis bysellbad Cymraeg ar gyfer ei iPhone ond nad oedd y gwiriwr sillafu yn gallu synhwyro camgymeriadau yn y Gymraeg. Dywedodd hefyd nad oedd y Gymraeg yn ddewis iaith ar y tabledi yr oedd ei phlant yn eu defnyddio gartref a nododd er bod plant yn defnyddio gosodiadau Cymraeg ar eu technoleg yn yr ysgol, roedd llawer o’r cynnwys digidol yn parhau i fod yn Saesneg, megis cyfathrebu’r ysgol neu apiau dysgu.

Mae rhai o’r plant ‘ma yn dod o gartrefi cwbl Gymraeg eu hiaith a ddim wedi’i gweld o’r blaen [Saesneg]. Ond wedyn, ers i’r iPads a stwff ddod allan, maen nhw wedi gorfod dysgu Saesneg, chi’n gwybod, am ei bod yna, ond wedyn allan nhw ddim mynd yn ôl at y Gymraeg ar yr iPad achos dyw hi ddim yna. (Rhiant)

Sylwodd rhiant hefyd, er bod adnoddau dysgu yn dechrau ymddangos yn y Gymraeg yn araf bach, gallent hefyd fod yn ddrutach. Roedd y cyfranogwr yn cydnabod y gallai fod problemau yn darparu ar gyfer tafodieithoedd rhanbarthol ond pwysleisiodd fod angen mwy o gynnydd o ran darparu adnoddau yn y Gymraeg er mwyn diogelu’r iaith a chefnogi’r bobl oedd am ei defnyddio.

Mae’n dechrau dod yn araf bach ond fel dwi’n dweud, os cawsoch eich geni a’ch magu yng Nghymru, aelwyd sydd ond yn siarad Cymraeg ac rydych chi am wybod rhywbeth yn ymwneud â cholig neu rywbeth felly gyda’ch babi a dydych chi ddim o reidrwydd am ddefnyddio’r Saesneg, allwch chi ddim, gan nad oes unrhyw beth ar gael yn y Gymraeg. (Rhiant)

Casgliadau a negeseuon allweddol

Mae edrych yn fanwl ar safbwyntiau’r teuluoedd eu hunain yn amlygu gwerth ymagwedd gyfannol at gynhwysiant digidol sy’n sylfaenol i’r MDLS. Pwysleisiodd cyfranogwyr dro ar ôl tro bwysigrwydd cael dyfeisiau a chysylltiad digonol, ac roeddent yn ystyried mynediad digidol yn angen pwysig, yn wir, yn 'achubiaeth' i deuluoedd yn yr oes sydd ohoni. Mae’r goblygiadau sy’n gysylltiedig â diwallu anghenion digidol teuluoedd ai peidio yn tanlinellu perthnasedd y MDLS a’i nod o alluogi pobl i ‘gyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu gyda chyfleoedd’. Rydym yn cloi gyda rhai ystyriaethau allweddol sy’n gysylltiedig â’r angen am y MDLS a’r heriau i’w gyrraedd i deuluoedd â phlant sydd wedi dod i’r amlwg o’r astudiaeth hon.

Roedd cael dyfeisiau neu gysylltiad annigonol yn anghyfleus ac yn drafferthus i deuluoedd, er enghraifft trwy orfod bod yn ymwybodol o ddefnydd a chostau dyfeisiau a chynllunio ar gyfer hyn neu ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gael mynediad i’r rhyngrwyd. Roedd hefyd yn destun pryder a straen lle’r oedd mynediad ar-lein yn hanfodol i aelod o’r teulu. Roedd diffyg mynediad digidol yn effeithio ar ryngweithio â gwasanaethau megis addysg (y gallu i wneud gwaith ysgol a chyflwyno gwaith cartref ar-lein), ar gyllid personol (roedd cysylltiad annigonol yn gwaethygu incymau cyfyngedig lle nad oedd rhieni yn gallu mynd ar-lein i wneud taliad, gan arwain at godi tâl am dalu’n hwyr), ac ar gyfleoedd am, neu brofiadau o, gyfarfodydd ar-lein gyda gwasanaethau neu asiantaethau ffurfiol.

Roedd cynhwysiant digidol yn gysylltiedig â chynhwysiant cymdeithasol, ac yn bwysig o ran caniatáu i rieni a phlant gysylltu, cyfathrebu a chynnal perthnasoedd â theulu a ffrindiau. Gallai hyn gael ei rwystro gan fand eang annigonol yn y cartref neu ddiffyg data symudol wrth fentro allan a pheryglu colli neu allu ymateb i negeseuon. Roedd mynediad digidol yn chwarae rhan bwysig o ran gallu cymryd cyfleoedd, er enghraifft trwy gymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein, a allai cyfrannu at lesiant ac at gyfleoedd posibl yn y dyfodol.

Mae [dysgu ar-lein] yn enfawr, yn enwedig o ran iechyd meddwl oherwydd rhai dyddiau neu rai wythnosau rydych chi’n cael wythnosau hynod o dda a gallwch chi wneud yn dda dros ben, ac ar brydiau eraill mae’n anodd codi yn y bore. Felly, mae hynny’n rhoi cyfle i chi wella eich hunan rhywfaint ond ar eich cyflymder eich hun, mae’n helpu fi i dyfu fel person. (Rhiant)

Roedd cael derbyn gliniadur wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gyfranogiad ar-lein teuluoedd nad oedd yn gallu fforddio prynu un, gan amlygu’r angen am gymorth i helpu teuluoedd gael mynediad at lefel y ddarpariaeth yn y MDLS. Wrth grynhoi'r gwahaniaeth y gallai’r MDLS ei wneud, dywedodd un rhiant pe bai ganddi liniadur i’r teulu a chysylltiad band eang dibynadwy (nad oedd ganddynt ar hyn o bryd), fe allai ‘newid eu bywydau’, nid yn unig o ran helpu gyda gwaith cartref ei phlentyn a chadw mewn cysylltiad â’r teulu, ond oherwydd mawr hoffai astudio am radd ar-lein ryw ddydd.

Mae rhai pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth feddwl am gamau nesaf y MDLS ac anghenion teuluoedd, yn enwedig y rhai ar incwm isel sy’n wynebu cyfyngiadau ariannol ond hefyd sy’n gysylltiedig â materion eraill a drafodwyd gennym yma megis iechyd ac anabledd, gwahanol sefyllfaoedd teuluol a’r ardal y maent yn byw ynddi:

  • Ni ellir cymryd yn ganiataol, ar sail nifer y dyfeisiau yn unig, fod anghenion digidol teulu yn cael eu diwallu. Er efallai bod gan deulu sawl dyfais, gallai’r rhain bod wedi’u torri, ddim yn addas i’r diben, neu ddim ar gael i’w defnyddio gan y teulu. Efallai bod cysylltiad i’r rhyngrwyd, ond rhaid iddo fod yn ddibynadwy i ganiatáu i’r teulu cyflawni’r gweithgareddau ar-lein y mae angen iddynt eu gwneud.
  • Gall amgylchiadau penodol teuluoedd olygu anghenion a gofynion ychwanegol o ran technoleg ddigidol sydd uwchlaw’r hyn sydd yn y MDLS. Felly, gellid ystyried y MDLS yn fan cychwyn.
  • Er ymddangosir bod gan deuluoedd yr hyn sydd ei angen arnynt o ran darpariaeth ddigidol, gall fforddio’r nwyddau a’r gwasanaethau hyn fod yn broblemus. Mae’n bosibl y bydd teuluoedd ar incwm isel a chyfyngedig yn hepgor hanfodion eraill neu’n cronni dyled i ddarparu ar gyfer eu hanghenion digidol. Ni ddylai bodloni’r MDLS fod ar draul meysydd eraill o angen.
  • Mae cysylltiad agos rhwng ‘tlodi digidol’ a fforddiadwyedd ac incwm isel. Mae’n glir o’r ymchwil hon pe na fyddai cyllid teulu dan straen, y byddai ganddynt fwy o siawns o ddiwallu eu hanghenion digidol, er enghraifft yn gallu prynu gliniadur, amnewid ffôn, neu fforddio band eang manyleb uwch neu fwy o ddata ffôn. Mae angen i fesurau sy’n mynd i’r afael â thlodi digidol a gweithredu’r MDLS fynd ochr yn ochr â sgyrsiau ehangach ynghylch cyfraddau nawdd cymdeithasol, lefelau cyflogau, safonau byw, a thlodi yn fwy cyffredinol.
  • Mae angen am fand eang mwy fforddiadwy nad yw’n cael ei fodloni gan dariffau cymdeithasol. Mae angen i fand eang fforddiadwy fod o gyflymder digonol i ymdopi â’r galwadau bob dydd sydd ar y rhyngrwyd (megis ffrydio, galwadau fideo, a chwarae gemau) sydd bellach yn normau cymdeithasol i deulu. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth ychwanegol i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd â darpariaeth gyfyngedig, sydd ar hyn o bryd wedi'u heithrio o 'ddewis' go iawn i fanteisio ar dariffau cymdeithasol is ac sy’n gorfod talu premiwm uwch am gyflymder cyflymach, neu beryglu cael eu gadael ar ôl.
  • Mae’r anallu i fod ar-lein yn gyfan gwbl, ac i ymgysylltu â bywyd digidol, yn fwy na dim ond anghyfleustra – gall effeithio ar gyfranogiad cymdeithasol pobl, ar eu llesiant ac ar eu cyfleoedd at y dyfodol. Soniodd un rhiant am yr angen i ystyried cysylltedd digidol yn hawl ddynol:

Os ydych chi am i bobl oroesi yn y byd hwn, mae angen bwyd arnoch chi, mae angen dŵr arnoch chi, a dyna yw eich hawliau dynol. Nawr dylai cael cysylltedd defnyddiadwy, fforddiadwy fod yna’n rhywle, oherwydd mewn gwirionedd, allwch chi ddim goroesi yn y byd hwn, yn yr oes a’r byd sydd ohoni, hebddynt. Iawn, gallwch chi oroesi’n gorfforol hebddo, ond mewn gwirionedd, yn feddyliol sut allwch chi? ….Dwi o’r farn y dylai’r effaith o beidio â chael cysylltedd gael ei hystyried yn hawl ddynol. (Rhiant)

Safbwyntiau sefydliadau rhanddeiliaid

Mae’r cyfranogwyr rhanddeiliaid y buom yn siarad â nhw wedi’u lleoli yng Nghymru ac fe’u dewiswyd fel cynrychiolwyr sefydliadau allweddol sy’n aelodau o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) sy’n gweithio gyda chymunedau sy’n debygol o fod islaw’r W-MDLS. Mae CCDC yn dwyn ynghyd sefydliadau o bob rhan o Gymru sy’n gweithio ar y cyd i sicrhau bod Cymru’n genedl o gynhwysiant digidol. Gyda thros 90 o aelodau, mae’r Gynghrair yn cynnwys sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector, cwmnïau’r sector preifat a sefydliadau academaidd, gyda phob un yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd eisiau, yn gallu cael mynediad at offer a thechnolegau digidol a’u defnyddio yn eu bywydau bob dydd a bod ganddynt yr hyder i wneud hynny.

Mae ein canfyddiadau yma yn adlewyrchu tair set o ddata a gasglwyd gennym dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys y gwaith rhanddeiliaid a wnaed gennym ledled Cymru yng Ngham 1 o’r prosiect hwn (gweler: Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol adroddiad terfynol a Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol i Aelwydydd â Phlant: Adroddiad ac Atodiad 3 am restr o’r sefydliadu hyn). Rydym hefyd wedi tynnu ar gyfweliadau arbenigol, yn ogystal â gwaith cyfweld ychwanegol, gyda sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sy’n cefnogi cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol (gweler: Atodiad 3). Ar gyfer yr adroddiad terfynol hwn, gwnaethom hefyd gynnal cyfweliadau manwl gyda phedwar sefydliad sy’n gweithio gyda chymunedau a ymyleiddiwyd yng Nghymru. Ym mhob achos, roedd y cyfweliadau yn rhai lled-strwythuredig, wedi’u cynllunio i archwilio’r rhwystrau y mae’r dinasyddion, y maent yn eu gweithio â nhw, yn eu hwynebu i fynd ar-lein a datblygu sgiliau digidol maent hefyd yn ymchwilio i’r hyn fyddai ei angen i gefnogi pobl yn effeithiol i fodloni’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.

Daw’r adran hon o’r adroddiad i’r casgliad bod rhanddeiliaid o’r farn bod angen dau beth i gefnogi dinasyddion yn llwyddiannus i oresgyn y rhwystrau a nodwyd, a gweithredu MDLS:

  • Cyllid.
  • Cyfathrebu a chydgysylltu effeithiol rhwng y sawl sefydliad sector cyhoeddus a sector gwirfoddol.

Maent yn nodi bod llawer o sefydliadau yn cynnig rhaglenni cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol yng Nghymru, ond bod angen mwy o gydgysylltu cyffredinol. Dywedodd rhai sefydliadu fod y dyblygu gwasanaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn arwain at lai o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fesul sefydliad a diffyg amrywiaeth yn y gwasanaethau sydd ar gael. Ar ben hynny, dylid datblygu targedau ar y cyd a phroses o gydgysylltu y mae pob parti yn ymwybodol ohonynt ac yn gweithio tuag atynt.

Rhwystrau i fynd ar-lein a datblygu sgiliau digidol

Nododd gwaith blaenorol Cam 1 a’r cyfweliadau cyfredol sawl rhwystr y mae dinasyddion yn eu hwynebu o ran mynd ar-lein a datblygu eu sgiliau digidol. Fel y nodwyd yng Ngham 1, roedd sefydliadau yn dadlau bod COVID-19 wedi bod yn ganolbwynt ac yn gatalydd ar gyfer nodi a mynd i’r afael â materion cynhwysiant digidol. Dechreuodd y daith i ‘ddigidol yn gyntaf’ dros ddegawd yn ôl – lle disgwylir i ddinasyddion ddefnyddio’r rhyngrwyd a dyfeisiau digidol i gael mynediad at, a derbyn cymorth gan, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, ystyriwyd COVID-19 yn drobwynt allweddol lle bu’n rhaid i sefydliadau yn sydyn ystyried ffyrdd newydd o weithio a sut y maent yn cefnogi’r rhai y maent yn gweithio gyda nhw.

Cydnabu sefydliadau rhanddeiliaid sawl rhwystr sy'n atal dinasyddion mwy agored i niwed rhag ymgysylltu ar-lein:

  1. Diffyg darpariaeth seilwaith addas. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gysylltedd a chyflymder rhyngrwyd digonol.
  2. Mae dyfeisiau nad ydynt yn addas i’r diben yn rhwystro cyfleoedd unigolion i gael profiad cadarnhaol a gwella eu sgiliau digidol.
  3. Derbyniwyd adroddiadau gan randdeiliaid o brofiadau o lygad y ffynnon, lle nad oes gan y teuluoedd y maent yn eu cefnogi na’r sefydliadau trydydd sector eu hunain ddigon o gymorth ariannol i fynd i’r afael â materion cynhwysiant digidol. Dadleuasant y gallai hyn brofi’n anffafriol o ran cyflawni Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru.
  4. Ystyrir bod sgiliau ac addysg ddigidol yr un mor bwysig â dyfeisiau gan eu bod yn gwella galluoedd digidol dinasyddion.

Seilwaith: Cysylltedd a Chyflymder rhyngrwyd

Yn ystod y cyfweliadau, nododd sefydliadau fod y bobl y maent yn gweithio gyda nhw angen y rhyngrwyd ar gyfer ystod o dasgau bob dydd gan gynnwys dysgu, talu biliau, siopa, adloniant, dod o hyd i wybodaeth a chyfathrebu â ffrindiau a theulu trwy'r cyfryngau cymdeithasol (e.e., Facebook, Instagram, TikTok). Dywedodd cyfranogwyr fod diffyg seilwaith digidol i rai aelwydydd, yn anffodus, yn parhau i fod yn rhwystr allweddol sy’n eu hatal rhag cyflawni tasgau sylfaenol bob dydd. Mae angen rhyngrwyd cyson a dibynadwy fel y gwelir yn y dyfyniad isod:

Felly, yn wahanol i fyw yng nghanol Caerdydd, lle gallwch osod cebl ffeibr lawr i’r dyfnder sydd eisoes yn yr heol, a gyda ni, o le dwi’n byw i’m cyfnewidfa leol mae’n bellter o tua 5 milltir (P2).

Hyd yn oed gyda’r seilwaith ar waith, mae cysylltedd araf neu becynnau data cyfyngedig yn broblemus, gan olygu bod unigolion yn llai tebygol o ymgysylltu’n ddigidol oherwydd profiadau negyddol. Dywedodd rhai sefydliadau fod angen i gysylltedd fod yn y ddigonol ar gyfer yr hyn y mae pobl angen ei wneud, gan amlygu pwysigrwydd sicrhau y gall pob aelod o’r teulu fod ar-lein ar yr un pryd:

Cyflymder digonol i ganiatáu i bob aelod o’r aelwyd wneud beth bynnag maen nhw am ei wneud ar yr un pryd? Os oes pedwar yn y teulu, a allai’r pedwar yn y teulu fynd ar-lein ar yr un pryd a gwneud beth bynnag? Dwi ar alwad nawr, a allai fy ngwraig fod yn gweithio o gartref ar yr alwad? A allai fy merch fod ar y ffôn heb iddo fyffro, neu’n gwneud beth bynnag sydd angen iddyn nhw ei wneud? (P1).

Nodwn fod y MDLS wedi diffinio rhyngrwyd digonol fel hyn:

Gyda digon o ddibynadwyedd a chyflymder i gefnogi holl aelodau'r teulu i gael mynediad i'r rhyngrwyd ar yr un pryd.

I fynd i’r afael â’r diffyg seilwaith addas hwn, nododd sefydliadau fod dinasyddion sydd wedi’u hallgáu’n troi at lyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a neuaddau pentref fel rhai o'r prif bwyntiau mynediad. Yn enwedig ar gyfer aelodau cymunedau sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, gan eu bod nid yn unig yn cynnig cysylltedd cyflym a chynlluniau benthyca dyfeisiau (gweler y dyfyniad isod), maent hefyd yn ganolfannau canolog ar gyfer cyrsiau hyfforddi sgiliau digidol a sgiliau eraill. Mae P4 wedi sefydlu canolfan gymunedol eu hunain fel banc data digidol.

Mae gwasanaeth llyfrgell y Cyngor Sir yn rhoi mynediad i ni at fenthyca iPads i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau, ac mae hynny’n cynnwys mynediad at gysylltedd (P2).

Un canfyddiad diddorol o’r cyfweliadau oedd ehangder yr anghenion ymhlith ac o fewn y gwahanol gymunedau y mae sefydliadau’n gweithio gyda nhw. Er enghraifft, mae poblogaethau penodol, megis pobl ddigartref, yn wynebu rhwystrau mwy difrifol i fod ar-lein gan eu bod yn cael trafferth cael mynediad at gysylltedd pan fyddant i ffwrdd o’u cysgodfa. Ar ben hynny, mae un sefydliad yn rhan o Fwrdd Iechyd ledled Cymru ac yn cefnogi pobl gyda chyflyrau hirdymor, megis effeithiau blinder cronig, poen parhaus ac effeithiau COVID hir. Yn yr achos hwn, mae darpariaeth gysylltedd ddigonol yn y llyfrgell leol yn golygu y gellir ei defnyddio fel lleoliad diogel i ddinasyddion nad oes ganddynt gysylltedd gartref, i gael mynediad at ymgynghoriadau gofal iechyd:

Rydym hefyd yn defnyddio’r cysylltiad â’r gwasanaeth llyfrgell i gael mynediad at leoliadau diogel y mae pobl yn gallu eu defnyddio ar gyfer ymgynghoriadau gofal iechyd [ar-lein] (P2).

Mae mynediad at wasanaethau iechyd ar-lein ar gyfer aelodau agored i niwed y gymuned ledled Cymru, h.y., pobl â symudedd cyfyngedig, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell neu’r henoed, yn cyflwyno opsiwn gwirioneddol ar gyfer goresgyn rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau’r GIG. Dywedodd P3, ers COVID-19, eu bod bellach yn gallu cyrraedd buddiolwyr na allent eu cyrraedd o’r blaen, er enghraifft pobl â phroblemau symudedd nad oedd yn gallu mynychu llawer o’r gweithgareddau y maent yn eu darparu. Maent yn cynnig cyflenwi rhaglenni cymysg gan ddefnyddio dulliau lluosog i gyflenwi dysgu trwy gyfuno rhyngweithio wyneb yn wyneb â gweithgareddau ar-lein.

Rydym yn gweithio gyda nhw ar draws nifer o wasanaethau yn y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gael mynediad at ymgynghoriadau rhithwir (P2).

Mynediad at ddyfeisiau sy’n ‘addas i’r diben’

Er mwyn bod ar-lein, mae’n angenrheidiol i ddinasyddion gael mynediad at ddyfeisiau sy’n ‘addas i’r diben’. Hynny yw, eu bod mewn cyflwr boddhaol i’w defnyddio ar gyfer y swyddogaeth y bwriadwyd iddynt eu cyflawni. Mae’r defnydd o dechnoleg ddarfodedig a dyfeisiau annigonol yn ychwanegu rhwystrau ychwanegol i’r rhai sy’n cychwyn ar eu teithiau ymgysylltu digidol ac mae hefyd yn cael effaith negyddol ar deuluoedd sy’n dibynnu ar y dyfeisiau hyn ar gyfer rhyngweithio ar-lein bob dydd.

Yn ôl y sefydliadau a gyfwelwyd, nid yw nifer o bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol bob amser yn prynu eu dyfais gyntaf, ond yn hytrach yn derbyn hen ddyfais gan aelod o’r teulu, cymdeithas dai, neu lyfrgell leol. Fodd bynnag, yn achos hen ddyfeisiau sy’n cael eu trosglwyddo o un person i’r llall, nid yw’r rhain bob amser mewn cyflwr addas i’w galluogi i gyflawni tasgau sylfaenol (gweler y dyfyniadau isod gan P1). Mae hyn i bob pwrpas yn ychwanegu rhwystr ychwanegol rhag cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen i allu gweithredu’n iawn mewn cymdeithas ddigidol. Mae defnyddio dyfeisiau hen neu sydd wedi’u difrodi yn cael yr effaith negyddol o beri i ddefnyddwyr amhrofiadol gredu mai nhw sydd ar fai ac nid y ddyfais sy’n hen neu wedi’i difrodi a gall hyn rwystro eu cynnydd. 

Eich ŵyr yn rhoi ei ddyfais i chi neu rywun sy’n rhoi eu dyfais i chi, mae ‘na reswm pam eu bod yn rhoi’r ddyfais i chi, ac fel arfer mae oherwydd ei bod wedi torri neu mae’n araf neu mae’r sgrîn wedi cracio neu lwyth o bethau felly. Yn ystod y cyfnod clo, fe gynhalion ni lwyth o ddigwyddiadau ar-lein, coginio rhithwir a’r holl bethau felly, a gwelsom yn aml y byddai’r camerâu yn sobor o wael, byddai’r meicroffon yn wael (P1).

…edrychwch, mae gen i grac enfawr yn fy sgrîn, a gallaf ond gweld gwaelod chwith yr hyn chi’n dangos i mi… Nawr, beth sy’n digwydd pan maen nhw’n defnyddio dyfeisiau fel ‘na? Eto, mae’n mynd yn ôl i dwi’n rhwystredig, dwi’n ddig, mae pethau’n cymryd amser maith. Dywedais wrthych nad oedd ei angen arnaf. Felly, mae angen cael yr offer cywir yn nwylo’r bobl gywir, mwy byth pan fyddwch wedi’ch allgáu oherwydd pan fyddwch yn clicio’r botwm hwnnw a dyw hi ddim yn gweithio neu mae’n cymryd oes i lwytho, mae pobl yn tybio eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn anghywir (P1).

Er mwyn darparu mynediad at ddyfeisiau i ddinasyddion, yn aml mae’n rhaid i sefydliadau gydweithio a mynegbostio dinasyddion i bartïon allanol sy’n gallu cynnig offer iddynt. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyfathrebu â’i gilydd yn rheolaidd ac yn gyson. Er enghraifft, mae un sefydliad y buom yn siarad â nhw wedi partneru gyda llyfrgell leol sy’n benthyca iPads. Un darn o adborth a dderbyniwyd gennym oedd eu bod wedi’i hyrwyddo ac y bu’n llwyddiannus, fodd bynnag fe wnaeth pawb yr un peth wedyn gan olygu bod pob cynllun wedi cael llai a llai o bobl. Digwyddodd hyn oherwydd nad oedd cyfathrebu, mae’n rhaid cael cydweithio.

Mae mynegbostio defnyddwyr i sefydliadau eraill o bwys penodol i’r rhai sy’n cael trafferth gyda chyflyrau iechyd penodol, er enghraifft, mae sefydliad yn cynnig bysellfyrddau wedi’u haddasu, darllenwyr sgrîn, dyfeisiau â sgriniau mwy o faint ac yn treulio amser gyda defnyddwyr yn gosod y dyfeisiau digidol hyn ac yn egluro iddynt sut i’w defnyddio:

Felly, er enghraifft, rydym wedi defnyddio nhw (dyfeisiau) yn enwedig gyda phobl sy’n ymgysylltu â’r gwasanaeth awtistiaeth integredig a gyda rhai o’r gwasanaethau seicoleg mwy difrifol fel bod pobl yn gallu derbyn cymorth yn eu cartrefi yn hytrach na chael eu rhoi mewn sefyllfaoedd a allai achosi mwy o straen iddynt lle, er enghraifft, y byddai’n rhaid iddynt deithio i Ysbyty Cymunedol neu i leoliad prysur ble efallai na fyddant yn teimlo’n hynod o gyfforddus neu’n hyderus yn ymgysylltu (P2).

Fforddiadwyedd a chyllid

Cyfeiriodd sefydliadau a gyfwelwyd ar gyfer Cam 1 a Cham 2 y prosiect dro ar ôl tro at gostau i ddinasyddion a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Hynny yw, fforddiadwyedd pecynnau rhyngrwyd a dyfeisiau (a brynwyd gan ddinasyddion neu a roddwyd gan sefydliadau cymorth) yn ogystal â chyllid ar gyfer sefydliadau lleol y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Dyma’r ddau brif rwystr y gwelwyd eu bod yn cael effaith uniongyrchol ar alluoedd digidol y dinasyddion y maent yn gweithio gyda nhw.

Mae’r costau sy’n gysylltiedig â thalu am gontractau rhyngrwyd a dyfeisiau’n creu rhwystr mawr i’r rhai sydd ar incwm is. Yn hyn o beth, soniodd nifer ei bod yn sylfaenol bod dinasyddion yn cael mynediad i’r rhyngrwyd am bris rhesymol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae prinder argaeledd contractau rhyngrwyd fforddiadwy i aelwydydd incwm isel, fel y dengys yn y dyfyniad isod. Mae hyn o bwys penodol wrth ystyried yr argyfwng costau byw lle mae angen i ddinasyddion flaenoriaethu talu am anghenion sylfaenol eu haelwydydd megis bwyd a biliau, cyn ystyried costau eraill megis talu am becyn cysylltu i’r rhyngrwyd.

Chi’n gwybod, dwi’n credu ‘mod i’n talu rhywbeth fel £30 y mis, ond mae pobl yn talu £40 £50 hyd at £60 ac wedyn ble mae’r cynlluniau rhyngrwyd fforddiadwy? Ond gallwn i siarad am gynlluniau rhyngrwyd fforddiadwy drwy’r dydd. Dydy’r rheina hyd yn oed ddim digon rhad (P1).

Yn ddiweddar, cyflwynwyd tystiolaeth am ddiffyg fforddiadwyedd “tariffau cymdeithasol” ar gyfer mynediad i’r rhyngrwyd mewn pedwar cyhoeddiad diweddar. Mae’r rhain yn cynnwys adroddiadau gan yr awduron presennol, Promising Trouble, a BT. Casgliad yr adroddiadau hyn yw bod tariffau cymdeithasol y tu hwnt i feini prawf fforddiadwyedd llawer o ddinasyddion ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai sydd ar incwm isel neu sy’n ddibynnol ar fudd-daliadau megis Credyd Cynhwysol.

Yn yr un modd, mae cynaliadwyedd sefydliadau’r trydydd sector yn cael ei effeithio’n fawr gan y cyllid sydd ar gael. Yn enwedig gan mai o rai o’r ffynonellau cyllid hyn y mae aelodau o staff yn cael eu cyflogi i gyflawni dyletswyddau cynhwysiant digidol gyda’u defnyddwyr gwasanaeth. Soniodd un o’r cyfranogwyr o sefydliad y sector gwirfoddol, oherwydd diffyg cyllid, nad oedd yn bosibl iddynt barhau yn eu rôl fel swyddog cymorth cynhwysiant digidol ac fe’u symudwyd i swydd wahanol. Mae diffyg cynaliadwyedd cyllid i gadw gweithwyr cynhwysiant digidol yn eu swyddi yn ei dro wedi effeithio ar y defnyddwyr gwasanaeth ar lawr gwlad.

Felly, symudais i rôl wahanol, a doedd dim modd iddynt cyllido swydd swyddog cymorth digidol llawn amser (P3).

Eto, mae’r canfyddiad hwn yn gyson â’r hyn a welwyd yn rhanbarthau eraill o’r DU. Nododd adroddiad diweddar gan y tîm Cyfryngau Digidol a Chymdeithas ar ymyriadau cynhwysiant digidol ym Manceinion Fwyaf, Peilot Cynhwysiant Digidol Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf: Adroddiad Ymchwil, fod sefydliadau sy’n ymgymryd â gwaith cynhwysiant digidol yn wynebu heriau staffio. Yn aml, roedd y gefnogaeth ar gyfer rolau cynhwysiant digidol arbenigol yn brin. Er enghraifft, i gefnogi swyddog cynhwysiant digidol llawn amser mewn sefydliad darparu tai cymdeithasol. Hefyd, roedd diffyg rolau uwch arwain â chyfrifoldeb dros gynhwysiant digidol. Yn aml, roedd arweinwyr cynhwysiant digidol ar lefel is ac o fewn un ‘coes’ o’r sefydliad. Er enghraifft yn rhan ‘addysg’ neu ‘seilwaith’ y sefydliad. Roedd y problemau hyn yn achosi gwrthdaro ac yn rhwystr i gyflawni. Roeddent hefyd yn atal cydgysylltu gwell â grwpiau rhanddeiliaid eraill, o lywodraeth leol i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd.

Yn ôl rhai o’r sefydliadau a gyfwelwyd, yn aml iawn darperir cymorth digidol o fewn cymunedau gwledig gan sefydliadau’r trydydd sector, llyfrgelloedd cyhoeddus a chanolfannau cymunedol. Dywedodd P4 fod sefydliadau’r trydydd sector yn cyflenwi rhan eang o’r gwasanaethau digidol sydd ar gael yng Nghymru a dadleuodd fod angen i’r llywodraeth fuddsoddi mwy yn y trydydd sector i gyflenwi gwasanaethau digidol.

Dwi o’r farn bod angen i awdurdodau lleol, naill ai trwy Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, fuddsoddi mewn digidol…Felly dwi o’r farn mai peth da fyddai cael cyllid i allu cefnogi sefydliadau’r trydydd sector i gyflenwi hyfforddiant sgiliau digidol, recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi unigolion…Rydym yn dibynnu ar gymorth gan y sector elusennol ac mae angen cydnabod mai’r trydydd sector sy’n gyrru hyn (P4).

Yn gyffredinol, dadleuodd y sefydliadau sy’n gweithio gyda chymunedau agored i niwed fod angen mwy o gyllid i gyflawni’r gwaith cynhwysiant digidol y mae sefydliadau’n ei wneud. Soniodd cyfranogwr yr oedd cyllid ar gael iddynt yn rhwydd fel sefydliad cyn dechrau pandemig COVID-19, fodd bynnag ymddangosai bod cymorth ariannol wedi lleihau yn ddiweddar ac roedd hynny wedi effeithio ar lefel y ddarpariaeth gwasanaeth y mae’r sefydliadau hyn yn gallu ei chynnig:

Dwi’n cadw mynd yn ôl at COVID oherwydd gwnaeth bopeth newid, ac o ran digidol; roedd ar arian ar gael. Ond ers hynny, dwi’n teimlo bod yr hwb digidol, yr ymgyrch i gael digidol ar yr agenda wedi pylu rhywfaint (P4).

Er mwyn mynd i’r afael â rhwystr fforddiadwyedd dyfeisiau a mynediad i’r rhyngrwyd, gall sefydliadau megis y Banc Data Cenedlaethol (gwasanaeth a ddarperir gan Sefydliad Good Things), a chynlluniau ailddefnyddio/ailgylchu eraill, ddarparu mynediad at ddata a dyfeisiau yn rhad ac am ddim i ddinasyddion. Soniodd P4 am gynllun benthyca deufis lle rhoddir cyfle i unigolion brynu’r dyfeisiau hyn am gost is yn dilyn y cyfnod deufis. Yn aml bydd unigolion yn eu prynu gan eu bod wedi dod yn gyfarwydd â nhw, fodd bynnag os na allant eu prynu oherwydd y gost, bydd P4 yn cynnig ymestyn y cynllun benthyca. Mae gwerthu’r dyfeisiau hyn o fudd i’r sefydliad hefyd oherwydd gallant brynu stoc newydd a chael gwared ar stoc hŷn felly ‘i ni mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill’ (P4)

Yn hyn o beth, mae angen i awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru fagu dull cydgysylltiedig i rannu gwybodaeth am yr adnoddau a’r mentrau sy’n cynnig data yn rhad ac am ddim a chynlluniau benthyca dyfeisiau. Er mwyn i hyn ddigwydd, dylid sefydlu sianelu cyfathrebu yn ffurfiol a fydd yn cyfrannu at y syniad o gydweithio tuag at darged ar y cyd.

Sgiliau ac addysg ddigidol

Os a phan fydd unigolion yn cael eu darparu â dyfeisiau sy’n ddigonol i gael mynediad i’r rhyngrwyd, mae’n bwysig darparu’r sgiliau cywir i bobl. Nododd sefydliadau, mewn cymdeithas lle mae datblygiadau digidol yn symud yn gyflym, ei bod yn anodd iawn i ddinasyddion gadw i fyny gyda’r nodweddion a’r swyddogaethau diweddaraf fel y dengys yn y dyfyniad isod. Mae dysgu sgiliau digidol hefyd yn dibynnu’n helaeth ar allu cael y bobl i ddysgu’r unigolion.

Falle bydd pobl yn dechrau gwneud y tasgau hyn, ond cyn hir maen nhw’n mynd i ofyn mwy o gwestiynau. Maen nhw’n mynd i weld eisiau mwy o bethau. Wrth i fwy a mwy o dechnoleg ymddangos, siawns yw bydd angen i chi ddysgu hynny hefyd i wneud bywyd yn haws, yn well byth. Ac felly, dyna’r math o daith y mae angen iddyn nhw fynd arni (P1).

Un o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r cyfweliadau yw pwysigrwydd addysgu dinasyddion am fanteision defnyddio'r rhyngrwyd. Yn aml, mae'n annhebygol y bydd unigolion nad ydynt yn llythrennog yn y cyfryngau, yn enwedig y rhai dros 60 oed, yn cydnabod manteision bod ar-lein a'r effaith y gall hyn ei chael ar eu llesiant bob dydd, eu mynediad at wasanaethau iechyd ac ar eu set sgiliau (fel y dengys yn y dyfyniad isod). Soniodd sefydliadau am wahanol strategaethau y maent yn eu defnyddio i gael pobl i gymryd rhan yn eu digwyddiadau cynhwysiant digidol, mae rhai o’r rhain yn cynnwys cynllunio cyrsiau neu weithgareddau sy’n ystyried materion o berthnasedd personol i’w defnyddwyr, megis chwarae miwsig ar-lein, chwiliadau penodol ar Google, cymryd ac anfon lluniau.

Sut all rhywun sydd ddim yn gwybod beth yw manteision y Rhyngrwyd gyfiawnhau talu rhwng 15 ac 20 punt? Am rywbeth nad ydych chi’n gwybod beth ydyw (P1).

Chi’n gwybod, tasa chi’n dod ata i a dweud, o, mae rhaid i ti brynu’r peth ‘ma. Mae’n £20 y mis, a bydd yn newid eich bywyd. Byddwn i siŵr o fod yn dweud. Dwi wedi byw hebddo tan nawr. Dwi’n mynd i gario ‘mlaen fel ydw i. Dyna fyddai pobl yn ei ddweud, edrycha, dwi ‘di byw fy mywyd. Dwi’n 50 oed, dwi’n 60 oed. Dwi ddim wedi gweld ei angen, felly, mae’n achos o’u haddysgu, a’u gwneud yn ymwybodol o’r manteision a’u caniatáu i wneud penderfyniad gwybodus (P1).

Ar ben hynny, mae’n bwysig addysgu unigolion i ddeall sut i brynu’r offer angenrheidiol, er enghraifft, dywedwyd bod hyd yn oed camu mewn i siop i brynu cyfrifiadur yn anodd pan ofynnir i bobl pa fath o RAM neu gerdyn cof sydd eu hangen arnynt. Yn ogystal â hyn, mae’n bwysig addysgu dinasyddion sut i gael y gwerth gorau am eu harian pan fyddant yn dewis offer a phecynnau data.

Bodloni’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Er mwyn bodloni’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (fel y’i diffinnir yn y paragraff rhagarweiniol) dadleuodd cyfranogwyr fod angen cydweithio cydgysylltiedig rhwng cyrff statudol, sefydliadau’r trydydd sector ac unrhyw bartïon eraill a allai fod yn gyfrifol am ddarpariaeth cynhwysiant digidol (gweler hefyd yr adroddiad o Gam 1 y prosiect).

Mae tystiolaeth yn dangos bod gwaith cydweithredol gyda llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yn llwyddiannus o ran darparu cysylltedd digonol, gweithgareddau ac amgylchedd diogel i ddinasyddion. Fodd bynnag, mae profiadau yng Nghymru ac ar draws rhannau eraill o’r DU wedi dangos y dylid cynnwys cyrff megis cymdeithasau tai a darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd yn y gwaith hwn. Mae Darparwyr Tai Cymdeithasol yn bartneriaid delfrydol ar gyfer y gwaith o fynd i’r afael ag allgáu digidol. Mae ymchwil yn dangos bod cyfran sylweddol o’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol neu sydd â phrinder sgiliau digidol  yn byw mewn rhyw fath o dai cymdeithasol neu’n derbyn cymorth budd-daliadau yn y sector rhentu (er enghraifft, gweler Yates et. al. (2020) a Tyrell et. al. (2023). Felly mae gan Ddarparwyr Tai Cymdeithasol rôl strategol o ran darparu ystod eang o wasanaethau, rhyngweithio â’r prif ddarparwyr gwasanaethau eraill, a’u gwybodaeth o lygad y ffynnon am anghenion eu tenantiaid. Bydd mynd at bartneriaid gyda’r math hwn o broffil yn caniatáu lledaenu gwybodaeth i rannau helaeth o’r boblogaeth. Yn yr un modd, mae profiadau o waith partneriaeth gyda Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd, megis y cynllun peilot a gyflwynwyd gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf, yn dangos enghraifft ddiddorol o sut i archwilio gwahanol ffyrdd o weithredu polisïau cynhwysiant digidol.

Pan ofynnwyd iddynt am ffyrdd effeithiol o helpu dinasyddion i gyflawni Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, soniodd cyfranogwyr am rwydweithiau a mentrau presennol megis  Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru a Chymunedau Digidol Cymru fel enghreifftiau o arfer da sy’n cynnig atebion ymarferol i faterion cynhwysiant digidol ar lawr gwlad. Pwysleisiodd P3 fanteision bod yn rhan o’r Rhwydwaith Cynghrair Digidol o ran partneru â sefydliadau i gefnogi orau buddiannau’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

Ro’n i wedi sôn amdano yn gynharach, Cymunedau Digidol Cymru, maen nhw wedi bod yn wych, a dwi’n credu bod y Rhwydwaith Cynghrair Digidol yn eithaf defnyddiol o ran partneru â sefydliadau a chlywed am fentrau i fatha cefnogi’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw (P3).

Un sylw pwysig a wnaed oedd y syniad o bennu targed ar y cyd oherwydd ar hyn o bryd, yn ôl cyfranogwyr, mae’n ymddangos bod diffyg cyfathrebu a chydgysylltu rhwng nifer o sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol sy’n cynnig rhaglenni cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol tebyg yn yr un ardal ddaearyddol.

…ond un peth a fyddai’n fuddiol iawn yn fy marn i fyddai pennu targed ar y cyd (P1).

Byddai hyn o fudd oherwydd ar hyn o bryd mae pobl yn gwneud gwaith digidol gwirfoddol fel unigolion a phe byddai sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth, byddai hynny’n fwy tebygol o gael mwy o effaith. Dadleuwyd ei bod yn hanfodol i sefydliadau a gwirfoddolwyr digidol ar lawr gwlad fod yn glir ynghylch y targed hwn.

Er bod cyfranogwyr yn gytûn bod Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru yn ddymunol ac yn fesur cadarnhaol mewn egwyddor, mynegodd un cyfranogwr bryder ynghylch syniad sylfaenol canfyddedig o safoni sy’n gynhenid yn y cysyniad, trwy ddadlau bod angen ei gydbwyso trwy gydnabod amrywiaeth y rhai y mae’r MDLS yn effeithio arnynt. Dadleuodd y sefydliadau fod sefydlu dull hyblyg yn ddymunol ar gyfer y MDLS gan y bydd hyn yn golygu cydnabod unigoliaeth y rhai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i gyflawni eu nodau eu hunain o fewn eu galluoedd eu hunain. Mae hyn yn berthnasol i bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd, y rhai sydd â lefel is o lythrennedd, yn ogystal â’r rhai nad ydynt am gael unrhyw gysylltiad â materion digidol.

… rydym yn ceisio eu helpu i gael y gorau allan o’r bywyd sydd ganddyn nhw ac yn eu helpu i fyw’r bywyd gorau y gallan nhw a dyna, yn debyg iawn, yw nod y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, dwi o’r farn ei bod yn ymwneud â chydnabod bod pobl am ddysgu mewn gwahanol ffyrdd ac am gael mynediad at bethau mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol leoedd (P2).

Hoffem nodi bod yr hyblygrwydd hwn mewn gwirionedd yn gynhenid i’r MDLS. Bwriedir iddo fod yn fan cychwyn am drafodaethau gydag aelwydydd, cymunedau a darparwyr gwasanaethau ynghylch anghenion penodol aelwydydd. Ac yn enwedig, lle gallai fod anghenion ychwanegol oherwydd pethau fel anabledd, salwch hirdymor, neu gaffael ail iaith. Yr hyn a gymerwn o’r sylwadau yw’r angen i gyfathrebu’n glir yr agwedd hyblyg hon wrth gyflwyno ymyriadau sy’n seiliedig ar y MDLS neu wrth ddefnyddio’r MDLS fel meincnod.

Wrth sefydlu MDLS, dywedodd un sefydliad ei bod yn bwysig o’r cychwyn cyntaf nad yw pobl yn cael eu gadael allan, er enghraifft mae angen cydnabod aelodau o’r gymuned nad ydynt am ymgysylltu, ac nid yn unig pobl hŷn (dros 60 oed). Sylw P2 oedd y gall safonau bod yn eithaf anhyblyg am eu bod yn gorfodi pobl mewn i flwch a’i bod yn bwysig bod gwasanaethau’n darparu atebion wedi’u teilwra sy’n gweddu i anghenion unigol dinasyddion, er enghraifft mae P4 yn adeiladau tabledi digidol yn unol â buddiannau’r defnyddiwr. Mae mabwysiadu dull hyblyg yn hanfodol, gan olygu eich bod yn gweithio gydag unigolion:

… Mae’n ymwneud â chydnabod nad oes un ateb sy’n addas i bawb. Mae’n mynd i fod yn ddull graddedig os hoffech chi, dull mwy eang (P2).

I grynhoi, tanlinellodd cyfranogwyr yr angen i gyrff statudol a sefydliadu’r trydydd sector gydweithio i gyflawni’r defnydd gorau o’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.

Casgliadau a negeseuon allweddol

Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn seiliedig yn bennaf ar ganfyddiadau cyfweliadau a gynhaliwyd gydag aelodau CCDC sy’n gweithio gyda chymunedau a ymyleiddiwyd sy’n debygol o fod islaw’r W-MDLS, yn ogystal ag ar adfyfyriadau ar y cyfweliadau gan randdeiliaid o Gam 1 y prosiect. Mae’r cyfweliadau wedi ceisio nodi a thrafod y rhwystrau sy’n atal dinasyddion agored i niwed ac sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, y mae’r sefydliadau’n gweithio â nhw, rhag mynd ar-lein a chael eu galluogi’n ddigidol. Y rhwystrau a nodwyd oedd:

  • seilwaith (cysylltedd a chyflymder rhyngrwyd)
  • mynediad at ddyfeisiau ac offer
  • fforddiadwyedd
  • cyllid
  • cydgysylltu
  • sgiliau ac addysg ddigidol

Mae’r rhain yn faterion tra hysbys ym maes polisi cynhwysiant digidol ond yn amlwg mae gwahaniaethau bach penodol yng nghyd-destun Cymru.

Pwysleisiwyd bod cysylltedd i’r rhyngrwyd yn peri problem benodol i ranbarthau daearyddol anghysbell Cymru. Mae’r diffyg hwn yn atal dinasyddion rhag cyflawni tasgau sylfaenol bob dydd ar-lein megis siopa, bancio ac apwyntiadau iechyd, i enwi ond rhai. Hyd yn oed ar ôl cysylltu i’r rhyngrwyd, nid oes gan unigolion fynediad bob amser at ddyfeisiau dibynadwy, addas i’r diben ar gyfer cyflawni tasgau gan fod y rhain yn aml yn rhai ail law. Mae’r sefydliadau y buom yn siarad â nhw yn gweithio tuag at ddarparu offer i’r rhai y maent yn gweithio â nhw, er enghraifft trwy gynlluniau benthyca iPad mewn llyfrgelloedd lleol, fodd bynnag mae angen atebion hirdymor.

O ran fforddiadwyedd a chyllid, mae pecynnau rhyngrwyd yn parhau i fod yn gostus a chyda’r argyfwng costau byw, rhaid i ddinasyddion allu fforddio diwallu eu hanghenion sylfaenol yn ogystal â gallu fforddio cysylltedd rhyngrwyd dibynadwy. Cytunodd sefydliadau fod angen cyffredinol i’r llywodraeth fuddsoddi mwy i gefnogi dinasyddion gyda’r offer sydd eu hangen arnynt i fynd ar-lein. Pwysleision nhw y byddai’r trydydd sector yn benodol yn elwa o hyn am eu bod yn cwmpasu maes eang o’r gwasanaethau digidol sydd ar gael yng Nghymru. Dadleuon nhw fod angen mwy o gyllid i gefnogi gwirfoddolwyr a’r rhai sydd ar lawr gwlad i gyflawni’r MDLS.

Wrth ystyried y galw cynyddol am fynediad at adnoddau ar-lein, mae’n bwysig addysgu dinasyddion am fanteision gael cysylltedd yn ogystal â’u haddysgu â’r sgiliau digidol i ddiogelu eu hunain ar-lein. Pwysleisiodd y sefydliadau a gyfwelwyd gennym bwysigrwydd rhwydweithiau cymorth megis llyfrgelloedd fel rhywle i gael mynediad at gysylltedd rhyngrwyd dibynadwy, sesiynau cymorth ar-lein a chynlluniau benthyca tabledi. Amlygodd un cyfweliad bwysigrwydd cymorth digidol fel proses barhaus i grwpiau agored i niwed wrth ystyried natur gyflym y gymdeithas yr ydym yn byw ynddi lle mae technoleg yn datblygu drwy’r amser. Wrth sefydlu MDLS fe wnaethant bwysleisio pwysigrwydd ailasesu’n barhaus o ystyried y newid cyson hwn.

Un o’r rhwystrau y bu sefydliadau’n canolbwyntio arno yw’r ffaith bod caffael sgil newydd a defnyddio dyfeisiau nad ydynt bob amser yn addas i’r diben, fel y soniwyd uchod, yn codi ofn ar bobl nad oes ganddynt brofiad o ddyfeisiau digidol. Nodwyd bod dyfeisiau diffygiol yn brif rwystr yn y broses o addysgu sgiliau digidol i bobl. Mae hyn yn arwain at rwystredigaeth a dinasyddion yn meddwl mai nhw sydd ar fai am beidio â gwybod sut i ddefnyddio offer, yn hytrach na’r ffaith bod yr offer yn hen a/neu’n araf.

Yn ôl cyfranogwyr, mae diffyg cyfathrebu a chydgysylltu go iawn rhwng llawer o sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol sy’n cynnig rhaglenni cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol tebyg yn yr un ardal ddaearyddol. Mae dyblygu’r gwasanaethau hyn yn arwain at niferoedd isel yn cymryd rhan yn y gweithgareddau fesul sefydliad a diffyg amrywiaeth yn y gwasanaethau a gynigir. Byddai modd i ddull cydgysylltiedig ymhlith y sefydliadau a’r darparwyr gwasanaethau nodi’r anghenion presennol a chreu atebion wedi’u teilwra ar gyfer y meysydd hynny. Wrth ystyried hyn, argymhellodd sefydliadau fod cydweithio rhwng partneriaid yn bwysig i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y MDLS. Yn ogystal â hyn, dylid datblygu dull ar y cyd i leihau’r dyblygu hwn y mae pob parti yn ymwybodol ohono ac yn gweithio tuag ato. Fel y dywedodd P3, mae aelodaeth o Rwydwaith Cynghrair Digidol yn caniatáu partneru â sefydliadau. Un argymhelliad yw’r syniad y gellid gweithredu’r targed ar y cyd drwy CCDC.

Yn olaf, nodwyd bod cymdeithasau tai yn bartner delfrydol ar gyfer mynd i’r afael ag allgáu digidol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a dylid annog eu cyfranogiad. Mae’n hanfodol cydnabod efallai na fydd rhai aelodau o’r gymuned yn dymuno ymgysylltu’n ddigidol, a dylid eu hystyried wrth osod safon o’r fath. Mae’n berthynas ddwy-ffordd lle mae angen cefnogi unigolion i oresgyn eu hofnau o fod ar-lein.

Casgliadau cyffredinol

Wrth siarad â theuluoedd islaw’r MDLS a chyda rhanddeiliaid sy’n gweithio gydag aelwydydd o’r fath rydym yn dod i sawl casgliad allweddol:

  • Mae’n amlwg o bosibl, ond mae allgáu digidol, ac allgáu cymdeithasol ac anghydraddoldebau cyfoeth/tlodi yn anwahanadwy. Fodd bynnag, fel nododd teuluoedd a rhanddeiliaid, mae allgáu digidol yn mwyhau’r problemau hyn yng nghyd-destun cymdeithas fwyfwy digidol.
  • Fe wnaeth sgyrsiau gyda theuluoedd atgyfnerthu perthnasedd a phwysigrwydd elfennau offer, sgiliau ymarferol a sgiliau diogelwch y MDLS.
  • Mae’r MDLS yn fan cychwyn sylfaenol ond mae angen i ymyriadau ystyried yr heriau penodol y mae gwahanol aelwydydd yn eu hwynebu wrth fodloni’r MDLS. Yn yr un modd, mae angen ystyried anghenion ychwanegol aelwydydd penodol (megis y rhai lle mae aelod ag anabledd).
  • Mae’r gwaith gyda theuluoedd yn amlygu pwysigrwydd mynediad digidol ar gyfer bywyd cyfoes, a’r goblygiadau lle nad oes mynediad, nid yn unig oherwydd y gwahaniaeth y mae’n ei wneud o ran cyfleustra tasgau bob dydd, cyfathrebu a threfniadaeth deuluol, ond oherwydd yr effaith y mae’n ei chael ar eu cynhwysiant digidol, eu llesiant a’u cyfleoedd.
  • Nododd teuluoedd a rhanddeiliaid fod fforddiadwyedd yn rhwystr allweddol. Fel y nodwyd yn adroddiad Cam 1, Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol: adroddiad terfynol, nid yw fforddiadwyedd yn rhan o ddiffiniad y MDLS sy’n amlinellu’r hyn sydd ei angen ar bobl. Mae fforddiadwyedd yn ymwneud â chael yr adnoddau ariannol i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae’n parhau i fod yn un o’r prif rwystrau i fynediad digidol a gwasanaethau digidol ar gyfer aelwydydd incwm isel a grwpiau agored i niwed.
  • Roedd yn glir o’r ymchwil a wnaed gyda theuluoedd nad oes un ateb sy’n addas i bawb a bod anghenion yn amrywio. Er enghraifft, mae aelwydydd yn wynebu rhwystrau ychwanegol, ac mae ganddynt anghenion ychwanegol, lle mae rhiant a/neu blentyn ag anabledd neu gyflwr iechyd, lle mae’n aelwyd Cymraeg ei hiaith, neu pan fyddant yn byw mewn ardal sydd â darpariaeth ryngrwyd wael. Mae'r MDLS wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg ac i adlewyrchu cyfansoddiad y teulu, ac fe wnaeth yr ymchwil gyda theuluoedd amlygu ystyriaethau heriau penodol i’r rhai mewn gwahanol amgylchiadau teuluol a sefyllfaoedd byw. Mae hefyd wedi’i gynllunio i fod yn fan cychwyn cyffredinol y gellir wedyn symud ymlaen at nodi anghenion ychwanegol.
  • Mae rhanddeiliaid a theuluoedd fel ei gilydd wedi nodi, er yn eu croesawu, nad yw’r tariffau cymdeithasol presennol yn addas i’r diben. Dywedodd teuluoedd nad oeddent yn ddigonol ar gyfer anghenion aelwydydd (o ran cyflymder/cyfraddau data) a nododd rhanddeiliaid nad oedd modd i rai grwpiau eu fforddio ar hyn o bryd. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymchwil a wnaed gan awduron yr adroddiad yma, Promising Trouble a BT.
  • Mae rhanddeiliaid a theuluoedd wedi mynegi pryderon ynghylch argaeledd ac ansawdd seilwaith i gefnogi mynediad.
  • Fel gyda llawer o’r gwaith blaenorol ar allgáu digidol, canfu'r ymchwil nad yw darparu dyfeisiau neu gysylltedd tymor byr yn unig, yn ddigon i sicrhau ymgysylltu digidol parhaus ar gyfer aelwydydd incwm is a grwpiau agored i niwed. Fel y mae’r MDLS yn awgrymu, mae angen hefyd darparu cymorth i oedolion a phlant i ennill sgiliau ymarferol a sgiliau hanfodol.
  • Mae rhanddeiliaid sy’n ceisio cefnogi aelwydydd gyda chynhwysiant digidol wedi nodi rhwystrau allweddol i’w gwaith, ac i gefnogi cyflawni MDLS yng Nghymru:
    • Cyllid ar gyfer gweithgareddau cymorth yn enwedig am y tymor hir yn hytrach na fesul prosiect
    • Cydgysylltu yr angen i gydgysylltu’r hyn sy’n cael eu cynnig mewn rhanbarthau a lleoliadau i gynyddu gwerth ymyriadau i’r eithaf. Serch hynny, wrth ystyried eu gwaith arall, mae’r tîm ymchwil yn nodi yr ymddengys bod y cydgysylltu presennol yng Nghymru lawer yn uwch nag yn rhannau eraill o’r DU, yn enwedig o ran y ddarpariaeth bresennol yn Lloegr ac eithrio Manceinion Fwyaf.
    • Sgiliau ac addysg ddigidol mwy o gefnogaeth ar gyfer cyflenwi sgiliau ac addysg ddigidol wedi’u teilwra, ar draws gwahanol gymunedau a grwpiau oedran.

Felly, byddem yn cynnig yr adfyfyrdodau canlynol ar botensial polisi’r MDLS yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r W-MDLS yn darparu fframwaith ar gyfer asesu anghenion dinasyddion a’r ymyriadau polisi gorau posibl ar lefel yr aelwyd, cymunedau a chenedl Gymru. Nid “rhestr offer a sgiliau” yn unig mo’r MDLS, yn hytrach mae’n fan cychwyn ar gyfer ystyried i ba raddau y mae aelwydydd penodol yn syrthio islaw safon a bennwyd yn ystyriol ac ar lefel genedlaethol.  Crëwyd y safon hon i ddynodi pwynt y gallai unrhyw ddiffyg penodol sydd islaw’r pwynt hwnnw gael effaith ar allu aelwyd i ymgysylltu â chymdeithas fwyfwy digidol.

Gallai diffyg dyfeisiau gyfyngu mynediad at addysg, neu gallai diffyg sgiliau arwain at beryglu diogelwch ar-lein.  Mae’r MDLS hefyd yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch anghenion aelwydydd o fewn grwpiau penodol, megis rheini sy’n cynnwys aelod ag anabledd neu le mae’r Saesneg yn ail iaith. Mae hefyd yn offer ar gyfer asesu cynhwysiant digidol mewn cyd-destun.

Gallai’r cyd-destun hwnnw fod yn dechnegol, megis diffyg argaeledd band eang, neu’n gymdeithasol, megis diffyg cymorth hyfforddiant digidol i oedolion yn lleol.  Gyda’i gilydd, mae’r nodweddion hyn yn darparu sail i lunwyr polisi ac ymarferwyr nodi’r rhwystrau allweddol y mae aelwydydd neu gymunedau yn eu hwynebu ac ystyried yr ymyriad gorau yn y cyd-destun. Felly, gellir defnyddio MDLS i Gymru i ddarparu llinellau sylfaen ar gyfer y genedl ac ar gyfer cymunedau penodol yn ogystal â’i ddefnyddio yn offeryn i asesu anghenion penodol aelwyd.

Mae’r gwaith ymchwil hwn yng Nghymru wedi amlygu meysydd allweddol lle gall y MDLS fod o gymorth wrth feddwl am bolisi cyfredol, gan gynnwys yr angen:

  • am gydbwysedd rhwng mynediad at fand eang a mynediad at ffonau symudol ar gyfer pob cymuned yng Nghymru
  • I gefnogi hyfforddiant sgiliau ymarferol a sgiliau hanfodol, mewn amgylcheddau ysgolion ac mewn amgylcheddau ôl-18
  • I adeiladau ar, a chynyddu cydgysylltu o fewn, ymhlith, a rhwng llywodraeth a grwpiau cymunedol sy’n ceisio cefnogi’r bobl hynny nad ydynt ar-lein neu nad oes ganddynt y sgiliau digidol angenrheidiol
  • I bwyso am ddewisiadau amgen i’r tariffau cymdeithasol presennol fel man cychwyn ar gyfer mynediad

Atodiad 1: Y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol i gartrefi â phlant

Nwyddau a gwasanaethau digidol

Band Eang Cartref

  • Gyda digon o ddibynadwyedd a chyflymder i gefnogi holl aelodau'r teulu i gael mynediad i'r rhyngrwyd ar yr un pryd.

Ffôn symudol a data

  • Ffôn clyfar lefel mynediad fesul rhiant a phlentyn oedran ysgol uwchradd + data 5GB y mis yr un.
  • 3GB ychwanegol o ddata bob mis os oes ganddynt blentyn oedran cyn-ysgol neu oedran ysgol gynradd.

Gliniadur/tabled

  • Gliniadur lefel mynediad fesul cartref rhiant (rhieni) a phlentyn cyntaf yn rhannu un ddyfais.
    Dyfais ychwanegol i bob plentyn oed ysgol arall.

Clustffonau

  • Set o glustffonau i blant oed ysgol.

Teledu a thanysgrifiad teledu

  • Sgrîn deledu clyfar, lefel mynediad 32”.
    Gwasanaeth tanysgrifio teledu lefel mynediad (e.e. Netflix, Disney+) yn ogystal â thrwydded deledu.

Seinydd clyfar

  • Seinydd clyfar lefel mynediad.

Consol gemau fideo a thanysgrifiad

  • Consol gemau fideo a thanysgrifiad gemau ar-lein lefel mynediad.

Sgiliau

Mae angen y sgiliau a amlinellir isod ar rieni, ac mae lliwiau’n dynodi’r oedran/cam erbyn pryd y mae angen i blant ddechrau datblygu’r sgiliau hyn, yn ôl rhieni a phobl ifanc.

Sgiliau ymarferol a gweithredol

Defnyddio dyfeisiau digidol, rhaglenni a'r rhyngrwyd

  • Defnyddio swyddogaethau dyfais (Cyn-ysgol).
  • Defnyddio apiau a rhaglenni (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
  • Lawrlwytho apiau a rhaglenni (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
  • Arbed ac adennill dogfennau (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
  • Cysylltu dyfeisiau â'r rhyngrwyd/mannau poeth (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
  • Newid gosodiadau (Blynyddoedd hŷn yr ysgol uwchradd).

Ymgysylltu ar-lein

  • Defnyddio Zoom/Teams/Google classrooms (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
  • Cyflawni chwiliadau porwr (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
  • Defnyddio apiau ysgol (gwaith cartref, cyfathrebu rhwng y cartref a’r ysgol) (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).
  • Creu cyfrif e-bost ac anfon ebyst (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).
  • Archebu a ffurflenni ar-lein (e.e., apwyntiadau) (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).
  • Taliadau heb arian/ar-lein (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).

Rheoli a monitro dyfeisiau digidol a'r defnydd o ddata

  • Creu a didoli ffeiliau a ffolderi (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
  • Diffodd dyfeisiau yn iawn (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
  • Dileu hen ffeiliau i reoli storio dyfeisiau (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
  • Monitro a rheoli defnydd data ffonau (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).

Sgiliau ar gyfer Deall a Rheoli Risgiau Digidol

Rheoli diogelwch

  • Defnyddio cyfrineiriau diogel (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
  • Gwybod am bryniannau mewn-ap a'u hosgoi (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
  • Defnyddio nodweddion diogelwch ffôn o gwmpas y lle (e.e. ‘tap triphlyg’ neu ‘SOS’) (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).
  • Monitro gweithgarwch bancio ar-lein (Blynyddoedd hŷn yr ysgol uwchradd).
  • Dileu manylion cerdyn banc er mwyn osgoi prynu damweiniol (Blynyddoedd hŷn yr ysgol uwchradd).
  • Gwybod sut i gymhwyso rheolaethau rhieni (Rhieni).

Rhyngweithio ag eraill

  • Gwerthuso pa fanylion i'w rhannu ar-lein (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
    Nodi risgiau (e.e., sgamiau, cysylltiadau anniogel, pobl sy’n swyno trwy dwyll, pobl sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein) (Blynyddoedd cynnar yr ysgol).
    Gwerthuso ceisiadau ffrind (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
    Rheoli pwysau cymdeithasol ac amser ar-lein (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).

Rhannu a derbyn gwybodaeth

  • Gwerthuso ansawdd gwybodaeth (e.e., adnabod camwybodaeth/dadwybodaeth neu ddelweddau afrealistig) (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
    Gwybod sut i osgoi ac adrodd cynnwys amhriodol/sarhaus (Blynyddoedd hŷn yr ysgol gynradd).
    Deall ôl-troed digidol (Blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd).

Atodiad 2: dulliau ar gyfer ymchwil teuluoedd ac aelwydydd

Roedd yr ymchwil wedi cynnwys wyth cyfweliad gyda theuluoedd â phlant o oedran dibynnol. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda rhiant/gwarcheidwad neu rieni a phlant. Roedd cwestiynau’r cyfweliadau’n rhai lled-strwythuredig a hyblyg i ganiatáu i’r plant a gymerodd rhan ymateb i gwestiynau pan yr oeddent yn teimlo’n gyfforddus, ond heb ddisgwyl bod angen iddynt fod yn bresennol drwy gydol y cyfweliad. Cynhaliwyd y cyfweliadau yng nghartref y teulu, ac eithrio un a gynhaliwyd mewn gofod preifat mewn man cyfarfod cymunedol. Roedd plant a phobl ifanc yn bresennol yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfweliadau ac wedi cymryd rhan i raddau amrywiol - roedd y rhai a gymerodd ran rhwng saith a phedwar ar bymtheg oed.

Cymeradwywyd gweithdrefnau ar gyfer caniatâd a chydsyniad ar sail gwybodaeth gan Bwyllgor Cynghori ar Foeseg Prifysgol Loughborough. Cafodd taflenni gwybodaeth ar wahân i gyfranogwyr eu teilwra ar gyfer rhieni ac ar gyfer plant o wahanol oedrannau; roeddent hefyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cadarnhaodd cyfranogwyr ifanc 15 oed neu’n iau eu cydsyniad, naill ai trwy ysgrifennu eu henw ar ffurflen gydsynio neu gan ddefnyddio sticeri, yn dibynnu ar eu hoedran. Roedd cyfranogwyr ifanc 16 oed a hŷn wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar sail gwybodaeth. Roedd rhieni wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar sail gwybodaeth am eu cyfranogiad nhw yn ogystal ag am gyfranogiad eu plant a gymerodd rhan yn yr ymchwil.

Cafodd cyfranogwyr eu recriwtio gyda chymorth Cwmpas, asiantaeth ddatblygu sy’n hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru. Fe wnaethant rannu gwybodaeth am yr ymchwil gyda’u rhwydwaith o sefydliadau ac fe wnaeth staff y sefydliadau hynny nodi  cyfranogwyr posibl. Roedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn aelwydydd y gallai eu hamgylchiadau effeithio ar eu hanghenion digidol, yn ogystal â’u gallu i ddiwallu’r anghenion hynny yng nghyd-destun MDLS. Roedd hyn yn golygu cynnwys teuluoedd a oedd yn wynebu heriau wrth geisio cael mynediad at yr ystod o ddyfeisiau, cysylltiad i’r rhyngrwyd, neu at y sgiliau a gwybodaeth a amlinellir yn fframwaith y MDLS. Cafodd teuluoedd eu recriwtio’n fwriadus i’r ymchwil er mwyn cynnwys yr elfennau allweddol hyn cyn belled ag y bo modd o fewn yr astudiaeth raddfa fechan hon, ac i ddal yr amrywiaeth yn anghenion teuluoedd ar draws ystod o brofiadau.

Roedd gan yr wyth teulu a gymerodd rhan rhwng un a phump o blant (yn byw gartref) rhwng 3 a 19 oed ac roeddent yn cynnwys: aelwydydd rhiant sengl a chyplau; rhieni a oedd mewn gwaith cyflogedig a’r rhai nad oeddent; rhieni â chyfrifoldebau gofalu; pobl a oedd yn ymgymryd â gwaith gwirfoddol; rhieni a / neu blant â chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol; teuluoedd o gefndir ethnig lleiafrifol; teuluoedd yn byw mewn cartrefi wedi’u rhentu (o’r sector cymdeithasol, preifat, neu dros dro) ac mewn cartrefi a oedd yn eiddo iddynt; ac o ardaloedd trefol a gwledig Cymru, gan gynnwys teulu sy’n siarad Cymraeg.

Atodiad 3: casglu data rhanddeiliaid

Roedd yr ymchwil yn cynnwys pedwar cyfweliad gyda sefydliadau rhanddeiliaid sy’n gweithio gydag aelwydydd islaw’r MDLS. Mae’r canfyddiadau hefyd yn tynnu ar y cyfweliadau blaenorol gyda sefydliadau rhanddeiliaid o Gam 1 y prosiect. Roedd cwestiynau’r cyfweliadau’n rhai lled-strwythuredig a hyblyg i ganiatáu archwilio pynciau yn fanwl.

Mae’r tîm hefyd wedi bod yn cynnal cyfweliadau tebyg gyda sefydliadau ledled y DU ac fe wnaeth mewnwelediadau o’r rhain gefnogi dehongliad y canfyddiadau o Gymru. Mae manylion pob sefydliad wedi’u rhestru yn yr adran isod. Cymeradwywyd gweithdrefnau ar gyfer caniatâd a chydsyniad ar sail gwybodaeth gan Bwyllgor Cynghori ar Foeseg Prifysgol Lerpwl.

Cam 1: sefydliadau a gyfwelwyd

  • Cyngor Caerdydd (Gwasanaethau Cymorth Digidol)
  • The Big Issue
  • Swansea MAD
  • Citizens Online
  • Learning Foundation
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • RNIB
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Prifysgol De Cymru
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Computer Recyclers Wales
  • ComputerAid
  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
  • UNITE North West Retired Members Branch 
  • Medrwn Mȏn
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Diverse Cymru
  • RWG Mobile
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Powys
  • Ystradgynlais Mind
  • ProMo Cymru

Cam 2: cyfweliadau cynhwysfawr

  • Cymdeithas Tai Newydd Housing Association 
  • Gwasanaeth Byw’n Dda Powys  
  • SVCymru 
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro PAVS 

Cyfweliadau polisi cynhwysiant digidol eraill y DU

  • Cyngor Dinas Birmingham
  • Northfield
  • Llywodraeth Cymru
  • Smart Lyte
  • Glasgow Golden Generation 
  • Education Scotland
  • Pontydysgu
  • CWMPAS
  • Llyfrgelloedd Coventry / Libraries Connected
  • Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon / Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg
  • Internet Matters
  • Awdurdod cyfun Rhanbarth Dinas Lerpwl
  • Ability Net
  • Promo Cymru
  • The Brain Charity
  • Red Chair Highland
  • Ofcom
  • BGC
  • Mencap

Cydnabyddiaethau

Rydym yn ddiolchgar i Cwmpas, Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, a’r sefydliadau a fu’n allweddol wrth recriwtio cyfranogwyr ar gyfer yr ymchwil. Mae hyn yn cynnwys: Cyngor Sir Ceredigion; Cymunedau Digidol Cymru; Faith in Families; Homestart Cymru; Academïau Dysgu Dwys Cymru; Cymdeithas Tai Linc Cymru; Cymdeithas Tai Merthyr Tudful; Tai Trivallis Housing; Tai Wales and West.

Yn bwysig, hoffem ddiolch i’r staff yn Sefydliadau Cymru ac yn enwedig y teuluoedd a gymerodd rhan yn y cyfweliadau, a roddodd mor hael eu hamser ac a rannodd eu safbwyntiau a’u profiadau gyda ni.

Hoffem hefyd ddiolch i’n cydweithwyr academaidd a gwaith amrywiol sydd wedi bod yn seinfyrddau ac yn gyfeillion beirniadol ynghylch y gwaith. Ac yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, hoffem ddiolch i’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, yn enwedig Lisa Thomas a Stephen Thomas am eu holl fewnbwn i’r prosiect a’r adroddiad.

Rydym yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn. Hefyd, am gefnogaeth Sefydliad Nuffield a Nominet ar gyfer y gwaith ymchwil ledled y DU i ddatblygu Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn y DU (MDLS). Mae’r safbwyntiau a fynegir yn rhai’r awduron ac nid o reidrwydd rhai’r Sefydliad neu Nominet.

Ynglŷn â'r adroddiad hwn

Awduron

  • Rebecca Harris
  • Katherine Hill.
  • Patricia Barrera.
  • Simeon Yates.
  • Chloe Blackwell.

Sefydliadau

  • Loughborough University.
  • University of Liverpool.
  • Cwmpas.
  • Good Things Foundation.
  • Prifysgol Abertawe.