Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio fideo a sain yn y DU

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn nodi cyfres o ymrwymiadau polisi i’w cyflawni o fewn tymor presennol y Senedd. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ‘ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru, i fynd i’r afael â’n pryderon ynghylch elfennau bregus yn y cyfryngau ar hyn o bryd a’r ymosodiadau ar eu hannibyniaeth. Byddai’r corff hwn yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg, yn enwedig yn y maes digidol ac yn annog lluosogrwydd yn y cyfryngau’

Lluniwyd yr adroddiad hwn ar gyfer y panel ac mae’n adolygu: y dirwedd ddarlledu sy’n newid; heriau a goblygiadau datblygiadau technolegol yn y dyfodol a sut bydd y rhain yn effeithio ar arferion gwylio cynulleidfaoedd a’r defnydd o sain. Yn olaf, byddwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau yng Nghymru.

Mae gwylio teledu llinol wedi bod yn gostwng, gyda’r lefelau gwylio wedi disgyn 37% ers 2010 ac wedi cyflymu dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r gostyngiad hwn wedi cael ei sbarduno gan grwpiau oedran iau, sy’n gwylio tua 75-80% yn llai o deledu nag oedden nhw ddegawd yn ôl.

Wrth wraidd y newidiadau hyn mewn arferion gwylio mae cyflwyno band eang cyflym iawn ar draws y DU ers 2008, a thwf 20x cyflymderau band eang y DU sydd wedi digwydd o ganlyniad i hynny, a oedd yn golygu bod modd dosbarthu cynnwys fideo dros y rhyngrwyd.

Mae darlledwyr wedi addasu i’r newidiadau technolegol hyn drwy lansio eu llwyfannau fideo ar-alw eu hunain, ond mae eu hadnoddau’n fach iawn o gymharu â gwasanaethau Tanysgrifio Fideo ar Alwad (SVOD) byd-eang fel Netflix, sydd wedi gwario biliynau o ddoleri yn comisiynu cynnwys gwreiddiol ac wedi tyfu’n gyflym. Erbyn hyn, mae gan dros ddwy ran o dair o gartrefi’r DU danysgrifiad i wasanaeth ffrydio.

Mae’r cynnydd cyflym mewn llwyfannau SVOD wedi cael ei ategu gan dwf llwyfannau fideo ar-lein a gwefannau cyfryngau cymdeithasol. Er bod TikTok wedi mwynhau twf trawiadol dros y blynyddoedd diwethaf, YouTube yw’r arweinydd diymwad yn y categori hwn o hyd, sy’n gweld mwy o wylio fideos na TikTok, Facebook, Instagram a Snapchat gyda’i gilydd.

Gan y bydd y tueddiadau hyn yn parhau dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn rhagweld mai hanner yr holl wylio fideos fydd teledu darlledwyr yn 2027, i lawr o 64% heddiw. Fodd bynnag, mae’r ystadegau llinell uchaf hyn yn cuddio amrywiaethau enfawr yn ôl grwpiau oedran. Rydym yn rhagweld y bydd pobl ifanc 15-24 oed yn treulio dim ond 12% o’u hamser fideo gyda rhaglenni traddodiadol darlledwyr yn 2027, a bydd yn cyfrif am hanner y bobl 45-54 oed, dwy ran o dair o’r rheini rhwng 55 a 64 oed, ac 85% o’r rheini dros 65 oed sy’n gwylio.

Mae gwrando ar y radio wedi aros yn gadarn iawn dros y degawd diwethaf, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae gwrando ymysg pobl o dan 24 oed wedi dechrau dirywio’n sylweddol. Mae dyfodiad sain ar-lein fel podlediadau a gwasanaethau ffrydio yn creu heriau a chyfleoedd.

Defnyddio fideos a sain yng Nghymru

Mae gwylio’r teledu yng Nghymru yn nodweddiadol o bob rhanbarth arall, ar wahân i’r ffaith bod y person cyffredin yn gwylio ychydig yn fwy na chyfartaledd y DU (2 awr 39 munud o’i gymharu â 2 awr 32 munud). Fodd bynnag, mae gan fwy o gartrefi deledu lloeren, ac mae lefelau gwylio SVOD hefyd ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU, er bod y boblogaeth yn gogwyddo’n hŷn.

Buddsoddodd y BBC ac ITV £27.5 miliwn mewn cynnwys yn benodol ar gyfer Cymru yn 2021 (heb gynnwys cyfraniad y BBC i S4C), ac mae’r rhan fwyaf ohono ar gyfer rhaglenni newyddion a materion cyfoes. Tra bo’r ffigwr hwn wedi gostwng, mae’r holl gyllidebau cynnwys wedi cael eu gwasgu. Mae bodlonrwydd â darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall, ond mae ITV yng Nghymru yn tangyflawni’n sylweddol o gymharu ag STV yn yr Alban o ran y canfyddiadau eu bod yn darparu rhaglenni am eu gwledydd eu hunain.

Dim ond 4% o gyfanswm yr amser gwylio teledu yw gwylio rhaglenni Cymreig y BBC ac ITV, gyda’r gwylio’n gogwyddo’n drwm tuag at y rheini dros 65 oed. Fel yr holl wylio teledu, mae hyn yn gostwng dros amser, ond ar gyfradd ychydig yn arafach.

Mae S4C yn cyfrif am 1% yn unig o’r teledu sy’n cael ei wylio a 3% ymysg siaradwyr Cymraeg, ond mae gwylio wedi aros yn eithaf cyson dros y pum mlynedd diwethaf. Chwaraeon yw’r genre sy’n cael ei wylio fwyaf. Mae ei wasanaeth ar-alw, Clic, yn rhannol drwy ei bartneriaeth â’r BBC a bod ar yr iPlayer wedi bod yn llwyddiannus. Mae gan Clic bresenoldeb ar lwyfannau ar-lein fel YouTube a TikTok hefyd.

Mae dros chwarter yr oedolion yn cael gafael ar newyddion am Gymru drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Facebook, ac mae TikTok yn boblogaidd iawn ymysg oedolion ifanc yng Nghymru.

Rydym yn rhagweld y bydd cyfran gwylio darlledwyr yn 2027 ychydig yn uwch yng Nghymru nag ar draws y DU (52% o’i gymharu â 51%), yn rhannol oherwydd proffil y boblogaeth hŷn. O ran rhaglenni traddodiadol darlledwyr, dim ond 14% o’r gwylwyr dan 24 oed fydd yn eu gwylio yn 2027 (hanner awr bob dydd) a llai na 30% o bobl 25-44 oed. I’r gwrthwyneb, bydd hynny yn 86% o’r gwylio ar gyfer pobl dros 65 oed, sydd ychydig dros bum awr y dydd.

Mae’r nifer sy’n gwrando ar y radio ledled Cymru yn debyg i’r DU, ond mae’r BBC yn llawer mwy poblogaidd. Dim ond 8% o’r gwrando ar y radio y mae BBC Radio Wales a BBC Cymru yn ei gael, gyda thri chwarter o oriau gwrando BBC Radio Wales i’r rheini dros 65 oed. Mae’r ddwy orsaf yn darparu gwasanaeth da, ond nid ydynt yn diwallu anghenion pobl iau ddi-Gymraeg ac mae BBC Sounds yn annhebygol o fod yr ateb fel y mae heddiw.

Mae gan radio masnachol lleol ychydig dros 20% o wrando ar y radio, ond ychydig iawn o ddyletswyddau sydd arnynt i gynhyrchu rhaglenni yng Nghymru, heb sôn am yn Gymraeg. O ystyried model masnachol gorsafoedd bach, credwn y byddai’n anodd iawn newid rhwymedigaethau trwydded i gynyddu’r lefel o Gymraeg, oni bai ei fod yn werth chweil yn ariannol. Efallai y bydd y cwmni radio’n dewis rhoi’r drwydded yn ôl.

Y goblygiadau ar gyfer cryfhau’r cyfryngau yng Nghymru

Wrth i wylio teledu, ac i raddau llai, gwrando ar y radio, barhau i newid o ddarlledu i fod ar-lein, mae hyn yn gosod heriau mawr ar y model darlledu cyfan. Er y bydd pobl hŷn yn parhau i wylio a gwrando ar gymaint o gyfryngau darlledu ag erioed, mae pobl iau yn symud fwyfwy i lwyfannau eraill, boed hynny’n SVOD, YouTube, cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau cerddoriaeth ar-lein a phodlediadau, y rhan fwyaf ohonynt y tu allan i system reoleiddio’r DU.

Mae’n amlwg bod y BBC ac ITV yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl hŷn yng Nghymru drwy eu rhaglenni teledu Cymreig a byddant yn parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, y broblem yw sut mae sicrhau’r un canlyniad i gynulleidfaoedd iau a fydd yn gwylio llai a llai o deledu. Mae’r BBC ac ITV wedi buddsoddi’n helaeth yn yr iPlayer ac ITVX a bydd y rhaglenni ar gyfer Cymru ar gael ar y llwyfannau hyn. Fodd bynnag, nid yw dosbarthu cynnwys rhwng eu hasedau darlledu eu hunain yn ddigon.

Mae angen i ITV, y BBC ac S4C sicrhau bod y cynnwys hwn ar gael ar TikTok, YouTube, Facebook a lle bynnag arall mae’r gynulleidfa ar gael. Cyflawnir hyn i gyd drwy negodi gan na all llywodraeth y DU orfodi’r llwyfannau i gario unrhyw gynnwys penodol, nac eistedd o gwmpas y bwrdd negodi. Fodd bynnag, mae cwmnïau fel YouTube eisiau cynnwys premiwm, sy’n ddiogel o ran brand ac enw da ar eu llwyfannau a gallant gymell darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus drwy fargeinion melysach ar gyfer rannu refeniw a chytundebau gwerthu hysbysebion sy’n galluogi tai gwerthu i werthu hysbysebion o gwmpas eu cynnwys ar y llwyfannau, neu drwy fwy o amlygrwydd ar algorithmau’r llwyfan. Mae’r BBC ac ITV yn debygol o daro bargeinion ar draws eu holl gynnwys, felly mae’n bwysig bod cynnwys sy’n cael ei wneud yn benodol ar gyfer Cymru o fewn hyn. Nid yw S4C yn ddigon mawr, a byddai’n elwa o ddosbarthu eu cynnwys i’r llwyfannau hyn drwy’r BBC, ITV a hyd yn oed C4.

Mae angen partneriaethau sain gyda’r BBC a radio masnachol oherwydd tarfu ar ddosbarthiad sain. Bydd pobl hŷn yn parhau i wrando ar y radio a byddant yn cael gwasanaeth da gan y BBC. Mae pobl iau yn symud tuag at bodlediadau ac mae dadl gwasanaeth cyhoeddus glir dros wneud i BBC Sounds gario nifer sylweddol o bodlediadau Cymraeg. Fodd bynnag, ychydig iawn o bodlediadau gan gyflenwyr annibynnol sydd gan y BBC ar hyn o bryd. Dylai hyn newid a dylid annog y BBC (a’r sector masnachol) i ffurfio partneriaethau â chwmnïau cynhyrchu sain neu sefydliadau lleol ledled Cymru i ddatblygu podlediadau y gellir cael gafael arnynt drwy BBC Sounds yn ogystal ag apiau a gwefannau eu gorsafoedd radio. Gyda’r cynnydd mewn seinyddion clyfar a Google/apple mewn ceir, mae cwmnïau technoleg yr Unol Daleithiau yn dechrau dod, yn ymarferol, yn borthorion ar gyfer gwrando ar radio yn y DU. Rhaid i ddarlledwyr ddod i drefniadau gyda’r llwyfannau cyfryngol hyn er mwyn i ddefnyddwyr allu dod o hyd i’w cynnwys. Er bod chwaraewyr mwy o faint fel y BBC, Global a Bauer yn gallu dod i ryw fath o gytundeb, mae’n anoddach i gwmnïau llai a phobl sy’n creu podlediadau, sy'n cryfhau’r achos dros annog partneriaethau o’r fath ymhellach.