Neidio i'r prif gynnwy

Mae TUI, cwmni teithio mwya'r byd, ar fin creu 175 o swyddi yn Abertawe, gan roi hwb i'w bresenoldeb yn y ddinas, diolch i grant Cyllid Busnes o £525,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae canolfan gwasanaethu cwsmeriaid y cwmni wedi tyfu o 48 o bobl i ragor na 280 yn y tair blynedd diwethaf. Bydd y grant yn helpu i ddiogelu'r swyddi mewn canolfannau gwasanaethu yn y DU ac yn helpu'r cwmni i ehangu'i weithgarwch llwyddiannus yma yng Nghymru. 

Fel prif fusnes twristiaeth y byd, mae TUI yn deall bod cyfle go iawn iddo siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy. 

Yn 2015, lansiwyd ei strategaeth uchelgeisiol 'Better Holidays, Better World'. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar leihau effaith gwyliau ar yr amgylchedd, ar greu newid er lles pobl a chymunedau ac ar arloesi gyda thwristiaeth gynaliadwy.

Erbyn 2020, mae TUI am fod y cwmni awyrennau mwyaf carbon effeithiol yn Ewrop yn ogystal â darparu 10 miliwn o 'wyliau gwyrddach a tecach' fydd yn galluogi mwy o bobl leol i elwa ar fanteision twristiaeth.  

Mae'r cwmni wedi dechrau recriwtio cynghorwyr i helpu cwsmeriaid i ddewis eu ehediadau, gwyliau, gwestai ac yn fwyfwy, eu mordeithiau. Diolch i ymrwymiad TUI i hyfforddi a datblygu, caiff staff TUI eu helpu i ddilyn gyrfa gyffrous a ddaw â budd iddynt a chyfleoedd da am ddyrchafiad. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n helpu TUI i greu 175 o swyddi newydd yng Nghymru. Mae cynllun y cwmni i ehangu yn Abertawe yn brawf o'i enw da am roi gwasanaeth rhagorol i'w gwsmeriaid. 

"Mae ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn sector byrlymus sy'n tyfu ac yn cyflogi rhagor na 30,000 o bobl mewn rhagor na 200 o ganolfannau ledled Cymru. 

Hefyd, mae ymrwymiad TUI i gynaliadwyedd yn adlewyrchu'n hymrwymiad i'n Cynllun Gweithredu Economaidd newydd sydd â thwf, gwaith teg a datgarboneiddio yn sail iddo." 

Meddai Helen Caron, Cyfarwyddwr Dosbarthu a Mordeithiau TUI yn y DU ac Iwerddon: 

"Agoron ni ein swyddfa yn Nhŷ Alexandra, Abertawe, cartref tîm ein canolfan gyswllt, yn 2015 ac mae'n dal i fynd o nerth i nerth. Rydyn ni'n wirioneddol ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth inni ehangu'n swyddfa yn Abertawe. Daw hyn ar ôl ymchwil, meddwl a thrafod manwl a dwys am ddyfodol ein busnes a sicrhau ein bod yn rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid ac yn cyfathrebu'n effeithiol â nhw tua'r dyfodol."