Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, wedi canmol cwmni o Lannau Dyfrdwy sy'n arwain y ffordd ym maes darparu atebion morol, atebion ar y môr ac atebion o ran seilwaith, gan gynnig systemau diogelwch o'r radd flaenaf ar gyfer trosglwyddo olew a nwy o longau cargo i'r lan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu’r Gweinidog yn ymweld â gweithrediadau morol Trelleborg ym Mharc Busnes Penarlâg, sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf ar ôl cael £175,000 o gymorth cyllid busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru i symud o ddau adeilad llai i un adeilad mwy o faint, sy’n werth £2.5 miliwn i gyd.

Mae'r cam hwn, sydd wedi arwain at greu naw swydd newydd ac at ddiogelu 45 o swyddi, wedi caniatáu i'r cwmni osod gweinyddion cyfrifiadurol o'r radd flaenaf sydd wedi bod yn fodd i wella hyd yn oed mwy ar gynnyrch unigryw'r cwmni, Ship Shore Link. Mae hefyd wedi galluogi’r cwmni i symud i faes lletya data. 

Mae Trelleborg hefyd yn darparu systemau sy’n monitro perfformiad llongau ac sy’n gallu helpu gweithredwyr i leihau allyriadau a chostau rhedeg y llongau. 

Mae Glannau Dyfrdwy yn lleoliad delfrydol ar gyfer timau gwerthu a gwasanaethu rhyngwladol y cwmni, gan fod meysydd awyr Manceinion a Lerpwl o fewn cyrraedd hwylus. 

Dywedodd Dave Pendleton, Rheolwr Gyfarwyddwr gweithrediadau morol Trelleborg yn y DU:

Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r cymorth a gawson ni oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu’n cyfleusterau ym Mhenarlâg. Mae Trelleborg Marine and Infrastructure wedi bod yn gweithredu o'r ardal ers i'r cwmni gael ei sefydlu fel BBaCh bron ugain mlynedd yn ôl

Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi gweld ein busnes yn ehangu o swyddfa fach i ddod yn arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod ledled y byd am ddarparu atebion technoleg morol. Mae buddsoddi yn y safle yn cadarnhau’r ffaith bod Trelleborg o’r farn bod y rhanbarth yn parhau i gynnig y sylfaen sgiliau a'r gadwyn gyflenwi sydd eu hangen arnon ni i helpu i dyfu’n busnes.

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

Mae Trelleborg yn gwmni sy'n tyfu ac yn adnabyddus ledled y byd, ac mae gweld ei fod am aros ac ehangu yn y rhanbarth yn tystio i'r sgiliau a'r cyfleusterau sydd gennym yma yng Ngogledd Cymru.

Mae wedi bod yn wych cael clywed am ei gynlluniau ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi cymorth iddo ehangu.