Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o fwy o fynediad at fyd natur wrth i ddeg safle coetir newydd ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd cymunedau a bywyd gwyllt yn elwa wrth i 389 hectar o goetir gael eu hychwanegu at y rhwydwaith goedwig sy'n tyfu.
Mae'r safleoedd yn cynnwys lleoliad amaeth-goedwigaeth gyntaf Coedwig Genedlaethol Cymru a choetiroedd sy'n darparu rhaglenni presgripsiynau gwyrdd drwy fyrddau iechyd lleol.
Mae'r deg safle fel a ganlyn:
- Llys y Fran, Sir Benfro
- Coed Parc y Moch, Gwynedd
- Penpont, Powys
- Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin
- Coedwig Castell Helygain, Sir y Fflint
- Cronfa Ddŵr Lliedi Isaf, Sir Gaerfyrddin
- Coed Uno, Sir Benfro
- Coetiroedd Pont-y-clun (Coed Ifor, Taith Gerdded Glan yr Afon a thir yn Hollies), Rhondda Cynon Taf
- Fferm Denmark, Ceredigion
- Coetiroedd Mynydd Sirhywi, Gwent
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae'n hyfryd gweld y Goedwig Genedlaethol yn tyfu a chael croesawu'r grŵp nesaf hwn o goetiroedd i'r rhwydwaith.
"Ein huchelgais yw cael mwy ohonyn nhw ledled Cymru, y gall pawb eu mwynhau.
"Mae hon yn rownd gref iawn gyda'r holl safleoedd yn cwrdd â chwe chanlyniad y Goedwig Genedlaethol, ac yn taflu goleuni go iawn ar amrywiaeth safleoedd y Goedwig honno ac ehangder yr effeithiau a'r gweithgareddau y maent yn eu cynnal.
"Byddwn yn annog safleoedd eraill i ymuno â'r Goedwig Genedlaethol er mwyn i ni allu ehangu'r rhwydwaith o goetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda. Bydd yn gyfle i agor mwy o fannau awyr agored, sy'n dda i'n lles ac yn creu swyddi gwyrdd newydd."
Ymhlith yr ychwanegiadau newydd mae Coed Uno, y safle amaeth-goedwigaeth cyntaf i ymuno â'r rhwydwaith. Mae'r coetir yn cynnal gweithdai drwy brosiect Hwb Dysgu'r Tir, gan gynnig cyfleoedd i ymwelwyr ddysgu am integreiddio coed â chynhyrchu amaethyddol.
Mae sawl safle yn cynnig rhaglenni cymunedol eithriadol, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau gwyrdd a fu o fudd i dros 200 o bobl ifanc y llynedd a mentrau iechyd mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol.
Mae Coedwig Castell Helygain yn ganolfan addysgol a lles i bobl agored i niwed, sy'n cynnig cyrsiau sy'n cael eu presgripsiynu'n gymdeithasol. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol, mae'n darparu mannau diogel sy'n helpu i ailgysylltu pobl â'u hunain, eraill a natur. Mae rheoli'r coetir a'r nentydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU wedi darparu gwell mynediad i bobl ar hyd hawliau tramwy ac wedi gwella ansawdd y coetir a gwerth bioamrywiaeth.
Dywedodd Vanessa Warrington, Coedwig Castell Helygain:
"Rydym yn hynod falch o ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Fel tirfeddiannwr, mae hwn wedi bod yn gyfle i mi wireddu'r weledigaeth ar gyfer ein coetir ac rydym ar ein ffordd i ddod yn goetir cynaliadwy, iach, bywiog gyda bioamrywiaeth gyfoethog, trwy reolaeth ymwybodol, addysg, rhaglenni lles a hyfforddiant. Mae ailgysylltu pobl â choedwigoedd nid yn unig yn helpu eu lles cyfannol ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o gysylltiad, perchnogaeth a dinasyddiaeth a fydd yn hanfodol yn y blynyddoedd i ddod."
Mae'r lleoliadau newydd hefyd yn creu coridorau bioamrywiaeth hanfodol, gydag un safle yn cysylltu â thri choetir presennol y Goedwig Genedlaethol, gan wella symudiad bywyd gwyllt ar draws y dirwedd.
Mae'r ehangiad yn nodi'r seithfed rownd o ychwanegiadau safleoedd ers lansio'r Goedwig Genedlaethol yn 2020.
Mae'r ychwanegiadau hyn yn dod â chyfanswm rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru i 70 o safleoedd coetir y tu hwnt i Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu mwy na 4,056 hectar ledled y wlad.