Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn disgrifio’n hymrwymiadau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ac i weithredu hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys Cynllun Cynefin Cymru– yn cyfrannu at y themâu canlynol:

  • rheoli tir ar lefel fferm
  • gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar lefel tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu sy’n ymateb i'r heriau ac i’r cyfleoedd sydd ar gael, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn Rhwydwaith Gweldig Cymru - Busnes Cymru.

Adran A – cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Mae'r ffenest ymgeisio hon yn cefnogi sefydlu cnydau sy’n cael eu hau yn y gwanwyn a’r haf a all arwain at welliannau ym mherfformiad amgylcheddol busnes y fferm. Maen nhw’n cynnwys gwyndynnydd cymysg, cnydau protein ac ydau heb eu chwistrellu, Mae’r holl gnydau cymwys a’r gofynion wedi’u rhestru ac mae’r taliad safonol fesul hectar wedi’i bennu. Mae rhestr lawn o’r amcanion a’r cnydau cymwys i’w gweld yn Atodiadau A a B.

Os ydych wedyn yn credu y gallech fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn a'ch bod am wneud cais, gweler Adran D Gwneud Cais i’r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y ffenest ymgeisio yn agor ar 6 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 15 Rhagfyr 2023.

Y gyllideb fras sydd wedi’i dyrannu ar gyfer y ffenest ymgeisio hon yw £1.9m.

Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi tyfu a defnyddio cnydau mewn ffordd sy’n gallu arwain at wella perfformiad amgylcheddol busnes fferm.

Amcanion y cynllun yw cefnogi ffermwyr i wneud y canlynol:

  • lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • addasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn.
  • gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
  • cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru

Mae cnydau a gweithgareddau a gefnogir drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu nodi ymlaen llaw fel rhai sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r amgylchedd a busnes y fferm.

Darllenwch y ddogfen rheolau a chanllawiau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B - Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – pwy sy’n gymwys

Rydych yn gymwys os ydych yn bodloni’r meini prawf isod

  • Rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.
  • Rhaid ichi:
    • fod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
    • bod â thri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
    • gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol

Byddwn yn edrych i weld a ydych wedi gwneud hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gynllun Glastir Organig i gadarnhau’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliadau i’r naill gynllun na'r llall neu os na allwn gadarnhau bod gennych 3ha o dir, bydd rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch datganiad o ddiddordeb i gadarnhau eich bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod naill ai’n bodloni’r amod 3ha neu’r amod 550 o oriau llafur safonol.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • godro
  • geifr
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg a phlanhigion dŵr)
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Nid ydych yn gymwys

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • os ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr)

Fodd bynnag, os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau’n cael eu rheoli ar y cyd, a bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, byddant yn cael eu hystyried yn un busnes.

Costau cymwys

Dim ond ar gyfer gweithgareddau a restrir yn y Rhestr o Weithgareddau Cymwys yn Atodiad B y byddwch yn gymwys i gael taliad.

Rhaid i weithgareddau fodloni neu ragori ar y fanyleb ofynnol a ddisgrifir.

Costau anghymwys

  • cnydau nad ydynt yn cael eu disgrifio yn Atodiad B
  • cnydau sy'n cael eu tyfu ar dir nad yw wedi'i gofrestru i'ch CRN.

Y grant mwyaf a lleiaf

Y grant mwyaf y gellir ei ddyfarnu yw £5,000.

Mae’r grant lleiaf y gellir ei ddyfarnu yn cyfateb i'r gyfradd dalu ar gyfer un hectar o gnwd cymwys.

Cewch wneud cais am fwy na’r grant mwyaf. Os byddwn yn dewis eich datganiad o ddiddordeb, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i'r uchafswm o £5,000.

Gofynion allweddol

Yr arwynebedd lleiaf y gellir gwneud cais arno yw un hectar o gnydau gorchudd.  Caiff yr arwynebedd lleiaf o un hectar gynnwys nifer o ddarnau llai o dir mewn mwy nag un parsel cae, cyn belled nad yw arwynebedd unrhyw barsel cae unigol yn is na 0.10 hectar.

Caiff ymgeiswyr rannu'r arwynebedd lleiaf o un hectar rhwng un neu fwy o barseli tir.

Rhaid tyfu pob cnwd yn unol â'r safonau a nodir yn Atodiad B.

Mae angen i'r amrywiaeth a’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir fod yn briodol i'r lleoliad.

Dim ond hadau ardystiedig y dylid eu defnyddio, a dylid eu hau ar y gyfradd hau a argymhellir.

Rhaid cynnal prawf pridd, neu rhaid bod un wedi’i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. Y gofyniad sylfaenol ar gyfer y prawf hwn yw dadansoddiad o lefelau P, K a pH. Bydd angen prawf pridd ar gyfer pob parsel cae unigol, h.y. os bydd cnwd yn cael ei dyfu mewn dau barsel cae, bydd angen dau brawf pridd ar wahân.

Bydd gofyn i chi gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i unioni unrhyw ddiffygion a welir o ran lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd nesaf. (Opsiynau 1 – 8) Gallai hyn gynnwys defnyddio calch, gwrtaith â lefelau priodol o P a K, slyri neu dail.  Rhaid eu gwasgaru yn unol â system argymell gwrtaith gydnabyddedig, megis RB209 AHDB.

Ar gyfer opsiwn 9, defnyddir canlyniadau’r prawf pridd i benderfynu ar ba gamau sydd eu hangen yn y dyfodol i unioni diffygion y welir, cyn sefydlu’r cnwd nesaf.

Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys dyddiadau trin a hau, cyfraddau hau, dyddiadau pori a chyfraddau stocio a'i gyflwyno fel rhan o'r hawliad.

Mewn sefyllfaoedd lle nad yw cnwd wedi cydio’n llwyddiannus, oherwydd tywydd garw neu ddifrod gan bla, dylech roi gwybod i RPW ar unwaith drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod yr hadau ar gael cyn derbyn y contract.

 

Cyn Datgan Diddordeb, rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried sut y byddant yn defnyddio’r cnwd, naill ai ei bori, ei gombeinio fel ŷd, ei grimpio neu ei gynaeafu fel silwair o gnydau cyfan.

Bydd y Contract ar gyfer y cyfnod hon yn dod i ben ar 28 Chwefror 2025, a dylid cyflwyno pob hawliad erbyn y dyddiad hwn. Cewch hawlio unrhyw bryd unwaith y bydd y gweithgaredd wedi’i gwblhau.

Ni fydd estyniad ar ôl 28 Chwefror 2025.

Section C - consents

Mae'n ofynnol ichi gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i’ch tir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen caniatâd gan yr awdurdodau perthnasol, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn ymgymryd â rhai gweithgareddau.

Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio unrhyw ganiatâd sydd ei angen i gynnal gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.

Noder – nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Ardaloedd dynodedig

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA):

Os oes gennych dir sydd wedi’i ddynodi’n SoDdGA (gan gynnwys ACA ac AGA) neu yn GNG, gallwch ei gynnwys yn eich contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – ond rhaid sicrhau nad yw gofynion eich Contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gwrthdaro â gofynion rheoli tir ei ddynodiad.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am reoli SoDdGAau a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae'n ofyniad cyfreithiol cael caniatâd ysgrifenedig gan CNC i gynnal gweithgareddau ar y tir hwnnw.

Parciau a Gerddi Cofrestredig, Henebion Rhestredig a Nodweddion Hanesyddol Eraill:

Rhaid ichi sicrhau nad yw gofynion eich Contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gwrthdaro â gofynion rheoli tir sydd wedi’i ddynodi’n Heneb Restredig nac yn difrodi Parciau a Gerddi Cofrestredig, Heneb Restredig na Nodweddion eraill yn yr Amgylchedd Hanesyddol. CADW yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli Henebion Rhestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig. Mae’n bosibl y bydd angen ei ganiatâd ysgrifenedig arnoch os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau ar y tir hwnnw.

Os ydych am gynnal gweithgareddau sy’n golygu aflonyddu’r tir ar nodwedd mewn Amgylchedd Hanesyddol, bydd angen arnoch ganiatâd yr Ymddiriedolaeth Archeolegol Leol yn eich ardal.

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (EIA) (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017:

Os ydych yn bwriadu aflonyddu ar lystyfiant y mae llai na 25% ohono’n rhywogaethau amaethyddol sydd wedi’u hau, efallai y bydd angen caniatâd arnoch o dan Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (EIA) (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus:

Os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau a allai gau Hawl Tramwy Cyhoeddus, bydd angen ichi gael caniatâd yr Awdurdod Lleol neu'r Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Arall:

Rhaid ichi gydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol.

Adran D – Gwneud cais i'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd

RPW Ar-lein

Dim ond drwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein y gellir gwneud cais i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8.30am – 5pm, Gwener 8.30am – 4.30pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Defnyddio newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Mae'r Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gael yn yr adran 'Ceisiadau a Hawliadau' yn eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW.  Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Asiant ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.  Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW (Taliadau Gwledig Cymru) Ar-lein ar gael ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Datblygu sgiliau a hyfforddiant cysylltiedig:

I fanteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael, ac i sicrhau bod y busnes fferm yn cael y gorau posibl o’r cynllun hwn, rydym yn argymell yn gryf fod ymgeiswyr yn cael yr hyfforddiant a'r gweithgareddau Datblygu Proffesiynol Parhaus priodol mewn perthynas â'r gweithgareddau sy'n cael eu cefnogi drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.  Yn benodol y modiwl ar briddoedd https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/tir/pridd.

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu llawer o gyrsiau â chymhorthdal ac am ddim. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais ar gael yn:  https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/

Adran E – y datganiad o ddiddordeb a'r broses ddethol

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb

Rhaid nodi pob parsel yr ydych yn bwriadu tyfu cnwd arno o dan y cynllun hwn ar wahân yn eich Datganiad o Ddiddordeb wrth y cnwd perthnasol.

Yr arwynebedd mwyaf fesul parsel y cewch hawlio arno yw maint y cae heb y nodweddion parhaol.

Canllawiau ar sut i ddatgan diddordeb ar RPW Ar-lein.

Mae Atodiad B yn rhestru'r gweithgareddau cymwys y gallwch wneud cais amdanynt o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.

Ar gyfer parseli tir a gyflwynir yn y datganiad o ddiddordeb ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, ni chewch wneud unrhyw newidiadau drwy Reoli fy Nhir RPW Ar-lein. Os caiff newidiadau eu cofrestru ar y parseli tir yn ystod y broses ymgeisio, ni fydd y rhannau hynny yn gymwys am gymorth.

Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn atgoffa atoch am ddatganiadau o ddiddordeb drafft ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y datganiad o ddiddordeb wedi’i gwblhau’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi eich prosiect yn gywir.

Sgorio

Mae angen i ymgeiswyr ddewis y tir lle bydd y gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn Amgylchedd yn cael eu cynnal, hyd at werth y grant mwyaf o £5,000, neu ar dir ychwanegol sy'n fwy na hyn. Bydd y system yn cyfrif sgôr derfynol yr ymgeisydd yn awtomatig. Bydd y prosiectau sydd â'r sgôr uchaf yn mynd yn eu blaenau.

Mae gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu sgorio yn dilyn asesiad a gynhaliwyd yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm a choedwigaeth yn fwy cadarn.
  • Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
  • Amddiffyn y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol gan wella mynediad ar yr un pryd.
  • Cyfrannu at wrthdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.

Rhoddir y sgoriau yn Atodiad C.

Yn dilyn cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, mae sgôr wedi’i rhoi i'r gweithgareddau.  Mae'r sgôr derfynol yn cael ei chyfrif drwy luosi arwynebedd y gweithgareddau rydych wedi eu dewis â sgôr y gweithgareddau, ac ychwanegu sgoriau am amcanion sylfaenol ar y parsel y bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal ynddo.  Mae matrics sgorio a sgôr enghreifftiol yn Atodiad B

Diben y broses sgorio yw galluogi Llywodraeth Cymru i drefnu’r datganiadau o ddiddordeb yn ôl faint o arian sydd ar gael ym mhob ffenest ymgeisio.

Ni chewch wneud newidiadau ar ôl ichi datgan diddordeb.  Ar ôl ichi ei gyflwyno, os oes angen ichi wneud newidiadau ac os bydd y ffenest datgan diddordeb yn parhau i fod ar agor, cewch dynnu'n ôl y datganiad o ddiddordeb a gyflwynwyd a chyflwyno un newydd cyn y dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno.

Os bydd dau ddatganiad o ddiddordeb yn ennill yr un sgôr, yr un isaf ei werth a ddewisir gyntaf.

Er mwyn cael grant, rhaid i’r datganiad o ddiddordeb ennill sgôr o 0.1 fan leiaf.

Pan fydd ceisiadau wedi cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth ac yr un safle o ran trothwy’r gyllideb sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, gan ddibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Dewis datganiadau o ddiddordeb llwyddiannus

Os caiff eich datganiad o ddiddordeb ei ddewis, cewch wybod drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Rhaid ichi dderbyn y contract o fewn 30 diwrnod calendr i'r dyddiad y cynigir y contract ichi, drwy bwyso ar y botwm glas yn hafan eich cyfrif RPW Ar-Lein.  Ni chewch gychwyn ar y gweithgareddau yn eich contract nes i'r contract gael ei gynnig ichi.

Os na fyddwch wedi derbyn eich contract o fewn 30 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Bydd manylion llawn pryd y bydd rhaid ichi dderbyn y contract, a phryd y bydd rhaid ichi gwblhau’r gweithgaredd a hawlio’r taliad yn cael eu nodi yn eich contract.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn contract.

Tynnu datganiadau o ddiddordeb yn ôl

Pan fydd busnes wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb, a oes modd ei dynnu'n ôl?

  1. Oes, os bydd y ffenest datgan diddordeb ar agor

Cewch dynnu eich cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-Lein; cewch ailgyflwyno cais cyn i'r ffenest gau 

  1. Oes – ar ôl i ffenest datgan diddordeb gau OND cyn i'r busnes dderbyn y contract.

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Os ydych wedi dewis y lleoliad anghywir neu wedi newid eich meddwl am y gweithgaredd rydych wedi'i dewis, yna rhaid ichi dynnu'ch cais yn ôl a gwneud cais arall yn y rownd nesaf.

Cofiwch fod y broses yn un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.

  1.  Nac oes – ar ôl i fusnes gael ei ddewis a chontract gael ei gynnig i'r busnes

Nid ydych yn cael tynnu’ch datganiad o ddiddordeb yn ôl ar ôl i gontract gael ei gynnig.

Nid oes modd gwneud newidiadau i weithgareddau na lleoliad y contract ar yr adeg hon.

Os ydych yn derbyn contract Tyfu er mwyn yr  Amgylchedd ac yn tynnu'n ôl ar ôl ichi dderbyn y contract, bydd gwerth y contract yn cael ei dynnu o'r uchafswm grant o £5,000 sydd ar gael ichi mewn unrhyw ffenestri dilynol.

E.e. datganiad o ddiddordeb wedi'i gyflwyno ar gyfer Cyfnod 1 a chontract wedi'i dderbyn â gwerth o £3,000. Os ydych wedyn yn gwrthod y contract, y cyfanswm a fydd ar gael yn y cyfnod nesaf rydych yn gwneud cais ynddo fydd £2,000.

Adran F – amodau’r grant

Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn dod o dan nifer o ddeddfau (gweler Adran C). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r deddfau hynny.

I gael y grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd sy’n cael ei gynnig i chi, rhaid cadw at delerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich contract, ac a fydd yn cynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Bydd y contract yn para o ddyddiad y contract tan 31 Mawrth 2025.  Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r grant arwain at ganslo eich dyfarniad a/neu adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith y DU.

Ni chewch newid y contract, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Canllaw’r Cynllun.

Rhaid cwblhau gweithgareddau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda  Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro oddi wrth yr amserlen hon heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau ategol sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Ni ddylech newid yr amserlen y cytunwyd arni na newid gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad am y grant hwn am o leiaf pum mlynedd ar ôl y dyddiad pan ddaw’r prosiect i ben.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Os gofynnir i chi, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn dod o dan ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu gwmni, faint o grant a roddwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn dod o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd  yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran G – taliadau

Hawliadau

Dim ond drwy ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein y cewch wneud hawliad i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Byddwn yn eich talu pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael taliadau drwy’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd rhaid bodloni’r canlynol:

  • byddwch wedi derbyn y contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig i chi ac wedi cadw at yr holl ofynion.
  • sicrhau eich bod wedi cynnal yr holl weithgareddau a restrir yn eich contract, hynny ar ôl derbyn y contract.
  • sicrhau eich bod wedi ymgymryd â'r holl weithgareddau a restrir yn eich contract.
  • hawlio gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio – sef 28 Chwefror 2025.
  • cyflwyno'r holl ddogfennau ategol.

Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn atgoffa atoch am unrhyw hawliadau na fyddwch wedi’u gwneud drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliadau.

Ni fydd hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno drwy’r dudalen Hawlio Grantiau yn ein cyfrif RPW Ar-Lein a nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi cael eu cyflwyno.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw bryd ar ôl cwblhau’r gweithgareddau.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir cytuno ar gais i estyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.  Dylech ofyn drwy'r adran 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein, gan nodi'r rhesymau dros ofyn.  Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.

Dogfennau ategol

Gallwch gyflwyno anfonebau a dogfennau ategol drwy eu sganio a’u hanfon drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth ganlynol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio:

  • tystiolaeth o brawf pridd (copi o'r adroddiad ar y canlyniadau wedi'i ddyddio, gan gynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a chyfeirnod y cae, neu dystiolaeth i gadarnhau bod y prawf wedi’i gynnal yn y cae lle mae’r opsiwn yn cael ei dyfu).  Mae angen prawf pridd ar gyfer pob parsel unigol.
  • tystiolaeth o waith i unioni diffygion yn y pridd, os yn gymwys. (Anfoneb calch a/neu wrtaith, cofnod o’r gweithgaredd gwasgaru slyri / tail ar y cae).
  • copi o'r holl anfonebau am hadau.
  • copi o'r holl ‘docynnau’ hadau. Rhaid iddynt gynnwys manylion y cymysgedd hadau.
  • copi o'r holl anfonebau contractio (os ydych wedi defnyddio contractwyr).
  • Ffotograffau â geo-dagio o'r cae(au) yn ystod y camau canlynol:
  • Cyn trin neu ddrilio uniongyrchol yn y tir.
  • Wrth drin y tir a hau.
  • Wrth gynaeafu’r cnwd neu bori’r tyfiant cyntaf.
  • Ar gyfer opsiwn 4 – gwreiddgnwd neu gnwd pori heb ei chwistrellu – ar 15 Hydref (cae cyfan) neu ar 15 Chwefror (ymyl cae heb ei bori).
  • Ar 15 Chwefror 2023, ar gyfer hau o dan indrawn (opsiwn 9)
  • Copi o'r cofnod o weithgareddau yn y cae.

Mae canllawiau ar gyflwyno ffotograffau â geo-tag ar gael yn

https://llyw.cymru/tyfu-er-mwyn-yr-amgylchedd-canllawiau-ffotograff-geotag

Os na fydd digon o dystiolaeth yn ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, mae’n bosib y caiff eich cais ei wrthod.

Gweithgareddau heb eu cwblhau

Os bydd cyflenwr yn dweud wrthych na fydd yn gallu cael yr hadau i chi o fewn yr amserlen ofynnol, bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon’ yn eich cyfrif RPW Ar-lein a rhoi gwybod inni am y broblem.

Os na allwch gwblhau'r gweithgaredd, o fewn yr amserlen ofynnol, (e.e. hadau heb eu hau o fewn deg diwrnod ar ôl cynaeafu oherwydd tywydd garw), bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein a roi gwybod inni am y broblem cyn y dyddiad cau ar gyfer y gweithgaredd.

Mewn amgylchiadau eithriadol lle roedd yn amhosibl hau'r cnwd am gyfnod hir ar ôl cynaeafu ac nad yw’n ymarferol bellach plannu’r cnwd am resymau amgylcheddol, bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein a rhoi gwybod i ni. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.

Bydd angen tystiolaeth ddogfennol i gefnogi’r rhesymau.

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir.

Rhaid cynnal yr holl weithgareddau sydd wedi’u cymeradwyo ar ôl derbyn y contract.

Byddwch wedi cam-hawlio:

  • Os nad ydych wedi cwblhau'r gweithgareddau a restrir yn y contract.
  • Os ydych wedi sefydlu math anghywir o gnwd neu â'r fanyleb anghywir.
  • Os ydych wedi dechrau’r gwaith cyn cynnig y contract i chi.
  • Os nad ydych wedi cyflwyno'r holl ddogfennau y gofynnwyd amdanynt.

Mae’n rhaid ichi hawlio am yr holl weithgareddau a restrir yn eich contract.

Os gwelwn nad yw’r gweithgareddau hynny wedi bodloni’r fanyleb, neu os nad yw’r arwynebedd gafodd ei hau yn bodloni gofynion y contract, bydd taliadau'n cael eu lleihau i lefel y gweithgareddau a gafodd ei gynnal yn unol â'r fanyleb ofynnol.

Os gwelir bod lefel y gweithgareddau anghymwys yn fwy na 10% o'r taliad cymwys, bydd swm sy'n cyfateb i werth y gweithgareddau anghymwys yn cael ei dynnu o'ch taliad.

Er enghraifft:

Mae cwsmer yn hawlio am y gweithgaredd canlynol â chyfanswm gwerth grant o £4,968

Esiampl

Gweithgaredd

Maint

Gwerth y Grant

Porfa gymysg

18 Hectar

£4,968

Cyfanswm

 

£4,968

Yn yr enghraifft hon, ceir un hectar, gwerth £552, nad yw’n bodloni'r fanyleb (er enghraifft, ni chafodd anfoneb hadau ei chyflwyno i ddangos bod y cnwd wedi'i blannu ar y 18ha llawn ac ni chafwyd canlyniadau prawf pridd ar gyfer un parsel). Hawliwyd cyfanswm o £4,968 a gwerth y gweithgaredd na chafodd ei gynnal oedd £552. Gan fod gwerth y gweithgaredd anghymwys yn llai na 10% o'r taliad cymwys (£4,968), cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £4,416.

Ond, os nad yw 6ha, gwerth £1,656, yn bodloni'r fanyleb, a’ch bod yn hawlio cyfanswm o £4,968 ac mai gwerth y gweithgaredd anghymwys yw £1,656, bydd gwerth y gweithgaredd anghymwys, sef £1,656, yn cael ei dynnu o'r hawliad gwreiddiol o £4,968 gan adael swm o £3,312. Gan fod gwerth y gweithgaredd anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys (£3,312) bydd swm sy'n cyfateb i werth yr eitem anghymwys, sef £1,656 yn cael ei dynnu o'r swm sy'n weddill hefyd. Cyfanswm y taliad sy'n ddyledus fydd £1,656.

Os bydd rhan yn unig o’r hawliad yn ddilys (e.e. dim ond un eitem sydd ddim yn bodloni’r fanyleb neu os nad oes dogfennau ategol wedi’u cyflwyno), gallai gwerth y contract nad oedd yn ddilys gael ei dynnu o’r cyfanswm sydd ar gael ar gyfer ffenest yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch unrhyw beth am eich contract, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn ichi ysgwyddo’r costau.

Troseddau

Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig.  Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i Tyf er mwyn yr Amgylchedd.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro archwilydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H – newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i reolau’r cynllun neu i’r contract

Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I – mesurau rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli 

Rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r cynllun Tyfu er mwyn yr  Amgylchedd.

Gallech gael eich dewis ar gyfer eich archwilio i gadarnhau bod y gweithgareddau wedi’u cynnal cyn talu’r arian i chi neu ar ôl ichi dderbyn y taliad.

Bydd holl fanylion eich datganiad o ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’ch datganiad o ddiddordeb a’ch hawliad yn cael eu harchwilio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr archwiliadau’n tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n peidio â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau a gallwch gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect

Rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr gynnal archwiliadau.

Cadw cofnodion

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd yn ofynnol ichi hefyd:

  • roi i Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am eich contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd a chyflwyno'r wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • sicrhau bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, mewn perthynas â'ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld.  Rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnod neu i wneud copïau neu godi darnau ohonyn nhw.

Adran J – y weithdrefn apelio a chwyno

Y weithdrefn apelio

Nid oes unrhyw sail dros apelio os bydd eich datganiad o ddiddordeb yn aflwyddiannus

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae dwy ran i’r broses apelio:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb Cam 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Bydd y taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn i chi os bydd Cam 2 yr apêl naill ai'n llwyddiannus neu'r rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth brosesu eich apêl.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn 03000 251378

E-bost: complaints@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Cewch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae,
Pen-coed,
CF35 5LJ

Ffôn 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran K – Hysbysiad Preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi grant ichi, rydym yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll eraill.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r grant presennol ichi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.

Er mwyn asesu’ch cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod arall o'r cyhoedd wneud cais i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd gofyn i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad a gafodd ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a bod pob taliad wedi'i wneud. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl rhoi’r wybodaeth i ni.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn inni 'ddileu' eich data’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw  gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran L – deddfwriaeth

Mae’r  cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cyflawni yn unol ag amrediad o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth.  Mae'r rhain wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE (REUL) a ddargedwir Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o dro i dro).

Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol.
  • cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • gallu gwrthsefyll y newid i’r hinsawdd.
  • sicrhau cydbwysedd wrth ddatblygu tiriogaethau cymunedau ac economïau gwledig, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd:

  • lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt.
  • arloesi.
  • yr Amgylchedd.

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, sef:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd.
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol.
  • y Gymraeg.

Yn ogystal, bydd ceisiadau i'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

(1)  annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig.

(2)  gwneud amaethyddiaeth yn fwy hyfyw a chystadleuol ar bob math o fferm, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd.

(3)  hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth.

(4)  adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth

(5)  hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.

(6)  hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gwaith i leihau tlodi a datblygu’r economi mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal 

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi cael eu categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran M – cysylltiadau

Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i diwallu eich anghenion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Drwy fynd i'r wefan bydd cyfle ichi gofrestru i e-newyddlen yr Adran Materion Gwledig gael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-newyddlen Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn e-newyddlen Gwlad drwy fynd i: https://llyw.cymru/hysbysiadau neu https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-newyddion-amaethyddiaeth-choedwigaeth-gwlad.

Atodiad A – Amcanion Tyfu er mwyn yr Amgylchedd

Amcanion
Opsiwn Amcanion

1. Gwyndynnydd cymysg

 

(Cyfeirir atynt hefyd fel gwyndynnydd amlrywogaeth neu ddolydd)

 

Darparu porfa amrywiol o laswellt, codlysiau a blodau â gwreiddiau dwfn gyda'r nod o:

Ddal carbon drwy gynyddu deunyddiau pridd organig.

Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy ddefnyddio llai o wrtaith anorganig a dal a chadw carbon yn yr haen pridd.

Darparu amrediad o ffynonellau neithdar a phlanhigion eraill sy'n fwyd ar gyfer pryfed peillio ac infertebratau eraill, yn enwedig os yw'r gwyndwn sy'n cael ei sefydlu’n cael ei gau am gyfnod er mwyn i blanhigion allu blodeuo. Gall rhai ohonynt helpu i reoli plâu, ond mae eraill, fel glöynnod byw a chacwn, eu hunain yn destun pryder cadwraethol.   

Darparu ffynhonnell hadau ar gyfer adar tir fferm.

Cynyddu'r dŵr sy'n ymdreiddio i'r haen pridd i leihau'r risg o lifogydd.

Cadw dŵr yn y pridd am ragor o amser i liniaru effeithiau cyfnodau hir o dywydd sych.

Darpar amrywiaeth o fwyd ar gyfer da byw, gan arwain at wella eu hiechyd a’u lles.
2. Meillion coch neu Liwsérn

Darparu ffynonellau neithdar ychwanegol ar gyfer infertebratau, yn enwedig pryfed peillio, gan gynnwys rhywogaethau dan fygythiad fel y gardwenynen feinlais a'r gardwenynen lwydfrown.

Gweler hefyd yr amcanion ar gyfer Opsiwn 3.

3. Cnydau protein (Dim rheoli chwyn)

Annog amrywiaeth o gnydau i wneud y canlynol:

Darnio tir o dan ungnwd o laswellt wedi’u gwella.

Dod â manteision amaeth-economaidd ar dir âr sy'n cael ei gylchdroi.

Darparu ffynonellau neithdar ar gyfer pryfed peillio.

Dal nitrogen o'r atmosffer a defnyddio llai o wrtaith artiffisial.

Darparu amrywiaeth o fwyd ar gyfer da byw, gan wella eu hiechyd a’u lles

Lleihau'r ddibyniaeth ar gnydau protein wedi'u mewnforio nad oes modd olrhain eu tarddiad fel arfer.
4. Gwreiddgnydau neu gnydau pori nad ydynt yn cael eu chwistrellu, gydag ymylon heb eu pori

Annog amrediad eang o blanhigion llydanddail i dyfu, gan gynnwys rhywogaethau prin fel glas yr ŷd, nodwydd y bugail a'r gludlys amryliw. 

Darparu safleoedd nythu a mannau bwydo ar gyfer adar fel yr ehedydd, y betrysen, y bras melyn a’r dylluan wen, yn ogystal â mamaliaid fel ysgyfarnogod.

Darparu amrediad o ffynonellau neithdar a phlanhigion eraill sy'n darparu bwyd ar gyfer pryfed peillio ac infertebratau eraill. Gall rhai ohonynt helpu i reoli plâu, ond mae eraill, fel glöynnod byw a chacwn, eu hunain, yn destun pryder cadwraethol.   

Diogelu a gwella ansawdd dŵr.

Colli llai o faethynnau a llai o erydu ar y pridd dros y gaeaf.

5. Ydau a heuir yn y gwanwyn, heb eu chwistrellu

Annog amrediad eang o blanhigion llydanddail i dyfu, gan gynnwys rhywogaethau prin fel glas yr ŷd, nodwydd y bugail a'r gludlys amryliw. 

Darparu safleoedd nythu a mannau bwydo ar gyfer adar fel yr ehedydd, y betrysen, y bras melyn a’r dylluan wen, yn ogystal â mamaliaid fel ysgyfarnogod.

Diogelu a gwella ansawdd dŵr.

Darparu a gwella nodweddion tirwedd a phentalarau di-gnwd.

Darparu amrediad o ffynonellau neithdar a phlanhigion eraill sy'n darparu bwyd ar gyfer pryfed peillio ac infertebratau eraill. Gall rhai ohonynt helpu i reoli plâu, ond mae eraill, fel glöynnod byw a chacwn, eu hunain, yn destun pryder cadwraethol.       
6. Ydau gwanwyn â gwyndwn cymysg wedi'i hau o danynt.

Gweler yr amcanion ar gyfer opsiynau 1 a 5.

 

 

7. Cymysgedd o ydau a chnydau protein heb eu chwistrellu. Gweler yr amcanion ar gyfer opsiynau 3 a 5.
8. Ydau a chnydau protein heb eu chwistrellu â gwyndwn cymysg wedi'i hau o danynt. Gweler yr amcanion ar gyfer opsiynau 1, 3 a 5.

9. Hau o dan indrawn (wedi’u hau yn y gwanwyn / haf

 

 

Atal erydu pridd drwy gynnal gorchudd o borfa ar ôl cynaeafu indrawn.

Diogelu a gwella ansawdd dŵr.

Colli llai o faethynnau a llai o erydu ar y pridd dros y gaeaf.

Gwella strwythur y pridd drwy chwalu pridd wedi'i gywasgu ac annog dŵr i ymdreiddio trwyddo.   

Cynyddu'r deunydd organig mewn pridd a gwella strwythur a chyfansoddiad mwynau’r pridd drwy awyru a dal a chadw nitrogen, fel ei fod ar gael ar gyfer y cnwd a heuir y gwanwyn canlynol.

Darparu cysgodfeydd a mannau bwydo yn y gaeaf ar gyfer adar a mamaliaid bach tir fferm.

 

Atodiad B – Rhestr o opsiynau cymwys ar gyfer Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, ynghyd â’u gofynion sylfaenol (Cnydau a heuir yn y gwanwyn / haf)

Rhestr o opsiynau cymwys ar gyfer Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, ynghyd â’u gofynion sylfaenol (Cnydau a heuir yn y gwanwyn / haf)

Opsiwn

Disgrifiad a'r gofynion sylfaenol

Sgôr

Gwerth y grant (£/hectar

1.Gwyndynnydd cymysg

(Cyfeirir atynt hefyd fel gwyndynnydd amlrywogaeth neu ddolydd)

Sefydlu gwyndwn cymysg, sy'n cynnwys o leiaf 5 rhywogaeth o laswellt, 3 rhywogaeth o godlys a 3 rhywogaeth o flodau.  

(Rhywogaethau nid mathau unigol o fewn rhywogaeth).

Cyfradd hau leiaf –  25kg/hectar.

Swm mwyaf o rygwellt – 6kg/hectar.

Swm mwyaf o hadau glaswellt eraill – 9 kg/hectar.

(Swm mwyaf o hadau glaswellt – 15kg/hectar).

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH). Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir.
  • Rhaid i ddewis a chymysgedd y rhywogaethau fod yn briodol i'r lleoliad.
  • Arwynebedd lleiaf o 1 hectar (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1 hectar rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1 hectar).
  • Rhaid cadw gwyndwn cymysg am o leiaf 3 blynedd ar ôl dyddiad ei sefydlu.

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth. 
  • Hau rhwng 15 Ebrill a 31 Awst.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Cymysgu'r hadau yn yr hopran yn syth cyn hau cymysgedd hadau rhag eu gwasgaru’n anghyfartal.
  • Hau hadau ar led neu drwy ddrilio, ond dim dyfnach nag 1cm.
  • Rowlio ar ôl hau i gadw'r lleithder.
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr, ond gellir defnyddio chwynladdwyr i sbot-chwynnu neu glwt-chwynnu chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol, brwyn caled, brwyn pabwyr, danadl neu redyn.
  • Peidio â defnyddio gwrteithiau anorganig sy'n cynnwys nitrogen ar ôl i'r cnwd gael ei sefydlu tan y gwanwyn nesaf. (Argymhellir osgoi gwrtaith nitrogen er mwyn sicrhau'r manteision amaeth-economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl o'r gwyndwn amrywiol.)
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Rheoli’r borfa er mwyn cynnal amrywiaeth ynddi, i annog y gwyndwn cymysg i flodeuo a hadu a’i diogelu rhag i dda byw stablad (sathru) arni.
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys dyddiad hau, tystiolaeth o ddefnyddio gwrtaith a phlaladdwyr a dyddiadau pori neu dorri.
* https://llyw.cymru/rheoli-chwyn-niweidiol 
35 £324.00
2. Meillion coch neu Liwsérn

Sefydlu Gwyndwn Meillion Coch neu Liwsérn

Caniateir cymysgeddau o gyltifarau meillion coch.

Gellir hau meillion coch fel ungnwd neu mewn cyfuniad ag o leiaf dwy rywogaethau o laswellt

Ar gyfer meillion coch a heuir fel ungnwd, y gyfradd hau leiaf yw 12kg/hectar.

Os heuir cyfuniad o feillion coch a rhygwellt y gyfradd hau leiaf ar gyfer meillion coch yw 7kg / hectar.

Gellir cynnwys meillion Sweden yn y cymysgedd ar gyfradd hau fwyaf o 1kg / hectar ar ben y gyfradd o 7kg o feillion coch.

Ar gyfer liwsérn a heuir fel ungnwd, y gyfradd hau leiaf yw 20kg / hectar.

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH). Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig.
  • Rhaid dewis cnwd sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).
  • Rhaid cadw gwyndwn meillion am o leiaf 2 flynedd ar ôl dyddiad ei sefydlu.

Sefydlu cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Ebrill a 31 Awst.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Cymysgu'r hadau yn yr hopran yn syth cyn hau cymysgedd hadau rhag eu gwasgaru’n anghyfartal.
  • Hau hadau ar led neu drwy ddrilio, ond dim dyfnach nag 1cm.
  • Rowlio ar ôl hau i gadw'r lleithder.
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. (Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr, ond gellir defnyddio chwynladdwyr i sbot-chwynnu neu glwt-chwynnu chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol, brwyn caled, brwyn pabwyr, danadl neu redyn.
  • Peidio â defnyddio gwrteithiau anorganig sy'n cynnwys nitrogen ar ôl i'r cnwd gael ei sefydlu tan y gwanwyn nesaf. (Argymhellir osgoi gwrtaith nitrogen er mwyn sicrhau'r manteision amaeth-economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl o'r gwyndwn meillion coch.)
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Rheoli’r borfa er mwyn cynnal amrywiaeth y meillion ynddi.
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys dyddiad hau, tystiolaeth o ddefnyddio gwrtaith a phlaladdwyr a dyddiadau pori neu dorri.
32 £263.00
3. Cnydau protein (Heb reoli chwyn)

Sefydlu a chynaeafu cnwd protein heb reoli chwyn

Cnydau cymwys: Ffa maes, pys, bysedd y blaidd.

Gofynion sylfaenol:

  • Rhaid tyfu'r cnwd mewn lleoliad priodol gan ystyried y math o bridd, topograffi a mynediad ar gyfer hau a chynaeafu.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).
  • Prawf pridd wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH). Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.

Sefydlu:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau cyn 15 Mai.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. (Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Rheoli plâu gan ddefnyddio dulliau Rheoli Plâu Integredig. Pan fydd hynny'n briodol holi amaeth-economydd am gyngor.
  • Gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair).
  • Os yw'n cael ei gynaeafu fel porthiant, rhaid dadansoddi maethynnau'r cnwd porthiant i helpu i gynllunio dognau.
  • Peidio â chynaeafu’r cnwd cyn 15 Gorffennaf neu tan 12 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag yw'r hwyraf.
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Peidio â hau cnwd o dano.
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys tystiolaeth o’r dyddiad hau a chynaeafu a defnyddio gwrtaith a phlaladdwyr, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
35 £270.00
4. Gwreiddgnydau neu gnydau pori heb eu chwistrellu gydag ymylon heb eu pori

Sefydlu gwreiddgnwd neu gnwd pori heb ei chwistrellu gydag ymylon heb eu pori.

Bydd ymyl heb ei bori o 10m ar hyd o leiaf 50% o ffiniau’r caeau, a rhaid ei gadw tan 15 Chwefror 2025.

Dylid asesu’r cae i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer yr opsiwn hwn. Ni ddylid tyfu‘r opsiwn mewn caeau lle ceir hanes o erydu neu gaeau ar lethr sy’n ddigon serth i gynyddu’r perygl o erydu.

Os yw’r cae yn ffinio â chwrs dŵr, rhaid cadw ymyl heb o bori o 10m ar hyd pob cwrs dŵr. (Gallai hynny olygu y bydd mwy na’r 50% gofynnol o ymylon heb eu pori). Os oes unrhyw lethr yn y cae, rhaid i’r ymyl heb ei bori fod ar droed y llethr.

Cnydau cymwys: Erfin (rwdins), betys porthiant, maip gwyn, maip melyn meddal, maip melyn caled, cnydau bresych, rêp pori, sicori (neu gyfuniad o’r cnydau hyn).

Gellir cynnwys rhygwellt yr Eidal, rhygwellt Westerwolds neu ryg yn yr ymyl o 10m i wella gallu’r ymyl i ddal dŵr ffo.

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir.
  • Rhaid dewis cnwd sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Rhaid ystyried sut y defnyddir y cnwd a'r dyddiadau pori a chynaeafu cynharaf wrth ddewis y cnwd.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. (Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr, ond gellir defnyddio chwynladdwyr i sbot-chwynnu neu glwt-chwynnu chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol, brwyn caled, brwyn pabwyr, danadl neu redyn. (Gellir defnyddio ffwngladdwr cyn belled â’i fod yn cael ei roi ar yr had cyn eu hau). 
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Peidiwch â’i bori na’i gynaeafu tan 15 Hydref.
  • Rhaid cadw’r ymyl 10m heb ei bori tan 15 Chwefror 2025.
  • Gellir cynaeafu’r cnwd aeddfed neu ei bori yn y fan a’r lle.
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys tystiolaeth o’r gwrtaith a’r plaladdwyr a ddefnyddir a’r dyddiad hau a chynaeafu, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
28 £149.00
5. Ydau a heuir yn y gwanwyn heb eu chwistrellu

Sefydlu cnwd ŷd a heuir yn y gwanwyn, heb ei chwistrellu.

Cnydau cymwys:  haidd, gwenith, ceirch, rhygwenith, rhyg.

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir.
  • Rhaid dewis cnwd sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Rhaid ystyried sut y defnyddir y cnwd a'r dyddiadau cynaeafu cynharaf wrth ddewis y cnwd a’r math.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Mawrth a 15 Mai.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. (Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Peidiwch â hau o dan y cnwd
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr na pheiriannau chwynnu. (Gellir defnyddio ffwngladdwr cyn belled â’i fod yn cael ei roi ar yr had cyn eu hau). 
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair).
  • Peidio â chynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst neu tan 14 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag yw'r hwyraf.
  • Os yw'n cael ei gynaeafu fel porthiant, argymhellir dadansoddi maethynnau'r cnwd porthiant i helpu i gynllunio dognau.
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys tystiolaeth o’r dyddiad hau, defnyddio gwrtaith a’r dyddiad cynaeafu, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
34 £219.00
6. Ydau gwanwyn heb eu chwistrellu  â gwyndwn cymysg wedi'i hau o danynt 

Sefydlu cnwd ŷd a heuir yn y gwanwyn heb ei chwistrellu, â chymysgedd o hadau gwyndwn cymysg wedi'i hau o dano.

Cnydau  cymwys: haidd, gwenith, ceirch, rhygwenith, rhyg.

Gwyndwn cymysg wedi'i hau o dan y cnwd, gan gynnwys hyd at 5 rhywogaeth o laswellt ac o leiaf 3 rhywogaeth o godlysiau a 3 rhywogaeth o flodau.

(Rhywogaethau nid mathau unigol o fewn rhywogaeth)

Cyfradd hau leiaf –  25kg/hectar

Swm mwyaf o rygwellt – 6kg/hectar

Swm mwyaf o hadau glaswellt arall –

9 kg/hectar

(Swm mwyaf cyfanswm hadau glaswellt – 15kg/hectar)

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir (Dylid defnyddio cyfradd hau is ar gyfer y cnwd ŷd er mwyn helpu i sefydlu'r gwyndwn cymysg.)
  • Rhaid dewis cnwd ŷd a chymysgedd gwyndwn sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Rhaid ystyried sut y defnyddir y cnwd a'r dyddiadau cynaeafu cynharaf wrth ddewis y cnwd a’r math.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).
  • Rhaid cadw gwyndwn cymysg am o leiaf 3 blynedd ar ôl dyddiad sefydlu'r cnwd.

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Mawrth a 15 Mai.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. (Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr na pheiriannau chwynnu. 
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair).
  • Peidio â chynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst neu tan 14 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag yw'r hwyraf.
  • Os yw'n cael ei gynaeafu fel porthiant, argymhellir dadansoddi maethynnau'r cnwd porthiant i helpu i gynllunio dognau.
  • Rhaid rheoli’r modd y porir gwyndwn cymysg er mwyn cynnal yr amrywiaeth o rywogaethau ar gyfer y tymor sy’n dilyn.
  • Peidio â defnyddio gwrteithiau anorganig sy'n cynnwys nitrogen ar ôl i'r cnwd gael ei sefydlu tan y gwanwyn nesaf. (Argymhellir osgoi gwrtaith nitrogen er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'r gwyndwn amrywiol.)
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys y dyddiad hau a chynaeafu a thystiolaeth o’r gwrtaith a ddefnyddir, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
35 £344.00
7. Cymysgedd o ydau a chnydau protein, heb eu chwistrellu

Sefydlu cymysgedd o gnwd ŷd a heuir yn y gwanwyn / cnwd protein.

Cnydau  cymwys: haidd, gwenith, ceirch, rhygwenith, rhyg / ffa maes, pys, bysedd y blaidd, pupys.

Dylai 50% o’r cymysgedd hadau fod yn gnwd ŷd a 50% fod yn gnwd protein. yn ôl pwysau.

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir
  • Rhaid dewis cnwd sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Rhaid ystyried sut y defnyddir y cnwd a'r dyddiadau cynaeafu cynharaf wrth ddewis y cnwd a’r math.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Mawrth a 15 Mai.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes. (Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig).
  • Peidiwch â hau o dan y cnwd.
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr na pheiriannau chwynnu.  (Gellir defnyddio ffwngladdwr cyn belled â’i fod yn cael ei roi ar yr had cyn eu hau). 
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair).
  • Peidio â chynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst neu tan 14 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag yw'r hwyraf.
  • Os yw'n cael ei gynaeafu fel porthiant, argymhellir dadansoddi maethynnau'r cnwd porthiant i helpu i gynllunio dognau.
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys y dyddiad hau a chynaeafu a thystiolaeth o’r gwrtaith a ddefnyddir, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
35 £216.00
8. Cnwd ŷd a phrotein heb eu chwistrellu â gwyndwn cymysg wedi'i hau o dano.

Sefydlu cymysgedd o gnwd ŷd / cnwd protein a heuir yn y gwanwyn.

Cnydau  cymwys: haidd, gwenith, ceirch, rhygwenith, rhyg / ffa maes, pys, bysedd y blaidd.

Dylai 50% o’r cymysgedd hadau fod yn gnwd ŷd a 50% fod yn gnwd protein. yn ôl pwysau.

Gwyndwn cymysg wedi'i hau o dan y cnwd, gan gynnwys hyd at 5 rhywogaeth o laswellt ac o leiaf 3 rhywogaeth o godlysiau a 3 rhywogaeth o flodau.

(Rhywogaethau nid mathau unigol o fewn rhywogaeth.)

Cyfradd hau leiaf –  25kg/hectar

Swm mwyaf o rygwellt – 6kg/hectar

Swm mwyaf o hadau glaswellt arall –

9 kg/hectar

(Swm mwyaf cyfanswm hadau glaswellt – 15kg/hectar)

Gofynion sylfaenol:

  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir (Dylid defnyddio cyfradd hau is ar gyfer y cnwd ŷd er mwyn helpu i sefydlu'r gwyndwn cymysg.)
  • Rhaid dewis cnwd ŷd a chymysgedd gwyndwn sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Rhaid ystyried sut y defnyddir y cnwd a'r dyddiadau cynaeafu cynharaf wrth ddewis y cnwd a’r math.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).
  • Rhaid cadw gwyndwn cymysg am o leiaf 3 blynedd ar ôl dyddiad sefydlu'r cnwd.

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Mawrth a 31 Mai.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes.
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr na pheiriannau chwynnu. 
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair).
  • Peidio â chynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst neu tan 14 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag yw'r hwyraf.
  • Os yw'n cael ei gynaeafu fel porthiant, argymhellir dadansoddi maethynnau'r cnwd porthiant i helpu i gynllunio dognau.
  • Rhaid rheoli’r modd y porir gwyndwn cymysg er mwyn cynnal yr amrywiaeth o rywogaethau ar gyfer y tymor sy’n dilyn.
  • Peidio â defnyddio gwrteithiau anorganig sy'n cynnwys nitrogen ar ôl i'r cnwd gael ei sefydlu tan y gwanwyn nesaf. (Argymhellir osgoi gwrtaith nitrogen er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'r gwyndwn amrywiol.)
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys y dyddiad hau a chynaeafu a thystiolaeth o’r gwrtaith a ddefnyddir, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
36 £336.00

9.   Hau o dan indrawn (a heuir yn y gwanwyn / haf

Sefydlu cnwd gorchudd o dan gnwd indrawn sydd eisoes yn tyfu.

Dylai'r cymysgedd hadau gynnwys o leiaf dwy rywogaeth o gnwd sydd addas i'w tyfu o dan gysgod indrawn.

Cyfradd hau leiaf –  15kg/hectar

Gofynion sylfaenol:

  • Ni ddylid gwasgaru unrhyw wrtaith artiffisial, tail na slyri rhwng cynaeafu'r cnwd indrawn a 15 Chwefror y flwyddyn ganlynol.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).
  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd nesaf.

Sefydlu’r cnwd:

  • Hau'r cnwd erbyn 10 Gorffennaf
  • Ei sefydlu rhwng rhesi o indrawn sydd wedi cydio drwy ddrilio uniongyrchol neu hau ar led wedi'i dargedu, a’i ddilyn ag oged bigau.
  • Nid yw hau ar led ar draws y cae yn gymwys.
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Rhaid cadw'r cnwd gorchudd ar y safle tan 15 Chwefror 2025.
  • Gellir pori'r cnwd, ond peidiwch â’i orbori er mwyn cadw gorchudd o gnwd dros y gaeaf a rhag stablad (sathru) y pridd.
Rhaid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae a’i gadw i'w archwilio.
36 £91.00

10. Ydau gwanwyn heb eu chwistrellu a meillion coch wedi’u hau o danynt.

Sefydlu cnwd ydau wedi’u hau yn y gwanwyn, heb eu chwistrellu, a meillion coch wedi’i hau o dano.

Cnydau cymwys: Haidd, gwenith, ceirch, rhygwellt, rhyg.

Caniateir cymysgeddau o gyltifarau meillion coch.

Gellir cyfuno’r meillion coch a heuir gydag o leiaf dwy rywogaeth o laswellt.

Ar gyfer meillion coch a heuir fel ungnwd, y gyfradd hau leiaf yw 12kg/hectar.

Os heuir cyfuniad o feillion coch a glaswellt, y gyfradd hau leiaf ar gyfer meillion coch yw 7kg / hectar.

Gellir cynnwys meillion Sweden yn y cymysgedd ar gyfradd hau fwyaf o 1kg / hectar ar ben y gyfradd o 7kg o feillion coch.

Gofynion sylfaenol

  • Prawf pridd i’w gynnal neu wedi'i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. (Rhaid o leiaf profi lefelau P, K a pH).
  • Camau wedi'u cymryd i unioni unrhyw ddiffygion a welwyd yn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd.
  • Defnyddio hadau ardystiedig yn unig ar y gyfradd hau a argymhellir (Dylid defnyddio cyfradd hau is ar gyfer y cnwd ŷd er mwyn helpu i sefydlu'r gwyndwn cymysg.)
  • Rhaid dewis cnwd ŷd a chymysgedd o feillion sy’n briodol i'r lleoliad.
  • Rhaid ystyried sut y defnyddir y cnwd ŷd a'r dyddiadau cynaeafu cynharaf wrth ddewis y cnwd a’r math.
  • Arwynebedd lleiaf o 1ha (Cewch rannu'r arwynebedd lleiaf o 1ha rhwng un neu ragor o barseli tir, cyn belled â bod pob parsel o leiaf 0.1ha).
  • Rhaid cadw gwyndwn o feillion coch am o leiaf 2 blynedd ar ôl dyddiad sefydlu'r cnwd.

Sefydlu’r cnwd:

  • Peidio ag aredig na thrin tir cyn 1 Mawrth.
  • Hau rhwng 1 Mawrth a 31 Mai.
  • Gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol.  
  • Os defnyddir bras droi neu ddrilio uniongyrchol, mae angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y borfa sydd yno eisoes.
  • Ar ôl sefydlu'r cnwd, peidio â defnyddio plaladdwyr na pheiriannau chwynnu. 
  • Cynnal llain glustogi o 1 metr ar hyd gwrychoedd/perthi, cloddiau neu gyrsiau dŵr.
  • Gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair).
  • Peidio â chynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst neu tan 14 wythnos ar ôl ei hau, p'un bynnag yw'r hwyraf.
  • Os yw'n cael ei gynaeafu fel porthiant, argymhellir dadansoddi maethynnau'r cnwd porthiant i helpu i gynllunio dognau.
  • Rhaid rheoli’r modd y porir gwyndwn er mwyn cynnal y meillion ar gyfer y tymor sy’n dilyn.
  • Peidio â defnyddio gwrteithiau anorganig sy'n cynnwys nitrogen ar ôl i'r cnwd gael ei sefydlu tan y gwanwyn nesaf. (Argymhellir osgoi gwrtaith nitrogen er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'r gwyndwn amrywiol.)
  • Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys y dyddiad hau a chynaeafu a thystiolaeth o’r gwrtaith a ddefnyddir, a’i gadw ar gyfer ei archwilio.
33 £328

 

Atodiad C – sgorio datganiadau o ddiddordeb

Cnydau a heuir yn y gwanwyn/haf
Haen SGÔR Cyfrannu at opsiynau

Llyn

4

1 - 9

Afon

4

1 - 9

Pwll dŵr

1

1 - 9

Ffos

6

1 - 9

SoDdGAau Biolegol a 300m o lain glustogi

6

1 - 9

SoDdGA Biolegol ar Arfordir ac Iseldir â Blaenoriaeth

48

1 - 9

Brân goesgoch (rheoli wedi’i dargedu)

4

3, 4, 5 & 7

Bras yr ŷd (rheoli wedi’i dargedu)

10

3, 4, 5 & 7

Gylfinir (rheoli wedi’i dargedu)

4

3, 4, 5 & 7

Cwtiad aur (rheoli wedi’i dargedu)

8

3, 4, 5 & 7

Cornchwiglen (rheoli wedi’i dargedu)

4

3, 4, 5 & 7

Turtur (rheoli wedi’i dargedu)

8

3, 4, 5 & 7

Llinos y mynydd (rheoli wedi’i dargedu)

8

3, 4, 5 & 7

Gwyniad

6

1, 2, 6, 8 & 9

Misglen berlog yr afon

4

1, 2, 6, 8 & 9

Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc

3

1, 2, 6, 8 & 9

Y gardwenynen lwydfrown

4

1 - 9

Y gardwenynen feinlais

4

1 - 9

Planhigion âr

1

3, 4, 5 & 7

Iseldir – blaenoriaeth un

6

1 - 9

Ucheldir – blaenoriaeth tri

4

1 - 9

Ffridd

2

3, 4, 5 & 7

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth un

30

1 - 9

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth dau

10

1 - 9

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth tri

3

1 - 9

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pedwar

2

1 - 9

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump

1

1 - 9

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 40–50%

1

1 - 9

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 50–60%

2

1 - 9

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 60–70%

10

1 - 9

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 70–80%

18

1 - 9

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 80–90%

32

1 - 9

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 90–100%

60

1 - 9

Lleihau'r perygl o lifogydd (Rheoliadau ynghylch storio dŵr a llif uchaf - adfer a chreu gwlyptir a golchdir)

20

1 - 9

Ardaloedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ardaloedd gwarchodedig sydd â dyddiad targed ar gyfer cyflawni amcan amgylcheddol erbyn 2015

20

1 - 9

Materion Maethynnau â Thystiolaeth

8

1 - 9

Sgôr enghreifftiol:

Mae'r ymgeisydd yn dewis yr opsiynau canlynol

Opsiwn 3 – Cnwd protein (dim rheoli chwyn) = 35 pwynt

Opsiwn 4 – Gwreiddgnwd neu gnwd porthiant heb ei chwistrellu = 28 pwynt

Opsiwn 9 – Indrawn â chnwd wedi'i hau o dano (a dyfir yn y gwanwyn neu'r haf) = 36 pwynt

2.4ha o Opsiwn 3 wedi'i ddewis ym mharsel cae A gyda'r amcanion sylfaenol canlynol:

SoDdGAau biolegol a llain glustogi 300 metr (6 phwynt)

Afon sensitif (4 pwynt)

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump (1 pwynt)

1.6ha o Opsiwn 4 wedi'i ddewis ym mharsel cae B gyda'r amcanion sylfaenol canlynol:

Llinos y mynydd (rheoli wedi'i dargedu) (8 pwynt)

Afon sensitif (4 pwynt)

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump (1 pwynt)

2.2ha o Opsiwn 4 wedi'i ddewis ym mharsel cae C gyda'r amcanion sylfaenol canlynol:

Ffos (6 phwynt)

Afon sensitif (4 pwynt)

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump (1 pwynt)

5.7ha o Opsiwn 9 wedi'i ddewis ym mharsel cae D gyda'r amcanion sylfaenol canlynol:

Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc (3 phwynt)

Afon sensitif (4 pwynt)

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump (1 pwynt)

Mae'r sgoriau wedi cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

2.4 (ha o opsiwn 3) X (35 pwynt (opsiwn 3) + 6 phwynt (SoDdGA + Llain glustogi 300 metr) + 4 pwynt (Afon sensitif) + 1 pwynt (Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump))

Felly: 2.4 X (35 + 6 + 4 + 1 = 46)

Felly: 2.4 X 46 = 110.4

Sgôr Parsel Cae A = 110.4 pwynt

 

1.6 (ha o Opsiwn 4) X (28 pwynt (Opsiwn 4) + 8 pwynt (Llinos y mynydd (rheoli wedi'i dargedu) + 4 pwynt (Afon sensitif + 1 pwynt (Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump))

Felly: 1.6 X (28 + 8 + 4 + 1 = 41)

Felly: 1.6 X 41 = 65.6

Sgôr Parsel Cae B = 65.6 phwynt

 

2.2 (ha o Opsiwn 4) X (28 pwynt (Opsiwn 4) + 6 phwynt (Ffos) + 4 pwynt (Afon sensitif) + 1 pwynt (Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump))

Felly: 2.2 X (28 + 6 + 4 + 1 = 39)

Felly: 2.2 X 39 = 85.8

Sgôr Parsel Cae C = 85.8 pwynt

 

5.7 (ha o Opsiwn 9) X (36 pwynt (Opsiwn 9) + 3 phwynt (Cen ar hen goed ar ymylon ffyrdd a thir parc) + 4 pwynt (Afon sensitif) + 1 pwynt (Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump))

Felly: 5.7 X (36 + 3 + 4 + 1 = 44)

Felly: 5.7 X 44 = 250.8

Sgôr Parsel Cae D = 250.8 pwynt

Sgôr derfynol wedi’i chyfrifo drwy adio sgoriau parseli cae unigol (A+B+C+D) = (110.4 + 65.6 + 85.8 + 250.8) = 512.6 wedi’i rannu â 11.9 (cyfanswm arwynebedd (ha)) = 43.08

Sgôr terfynol = 43.08