Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Pennir y meini prawf lle mae Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn gwneud cais i gael ei dynnu o gofrestr Llywodraeth Cymru o landlordiaid cymdeithasol, o dan adran 4(4) o Ddeddf Tai 1996, gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(2) o Ddeddf Tai 1996 ac fe'u cyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(4) o Ddeddf Tai 1996.

Dyddiad Dod i Rym: Chwefror 2022

Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â'r ddogfen hon at eich Rheolwr Rheoleiddio drwy'r blwch post Rheoleiddio housingregulation@llyw.cymru.

Diffiniadau

Ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Tai 1996.

Ystyr “grant” yw unrhyw grant sy'n ymwneud â thai y mae'r ymgeisydd wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru neu gyrff a'i rhagflaenodd (er enghraifft y Grant Tai Cymdeithasol).

Ystyr “Rheoleiddiwr” yw Gweinidogion Cymru ac mae unrhyw gyfeiriadau yn y ddogfen hon at “ni” neu “ein” yn cyfeirio at y Rheoleiddiwr.

Ystyr “Landlord Cymdeithasol Cofrestredig” neu “LCC” yw corff sydd wedi'i gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf 1996.

Diben

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu bodloni a'r wybodaeth y mae'n rhaid iddynt ei rhoi i'r Rheoleiddiwr, wrth wneud cais i gael eu tynnu o gofrestr Llywodraeth Cymru o landlordiaid cymdeithasol yn unol ag adran 4(4) o Ddeddf 1996. Nid yw'r ddogfen hon yn ymdrin ag achosion lle bydd y Rheoleiddiwr yn tynnu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol o dan adran 4(2) o Ddeddf 1996.

Goruchwyliaeth Reoleiddiol

Yn ogystal â darparu unrhyw wybodaeth a nodir yn y ddogfen hon, wrth wneud cais i ddadgofrestru, efallai y bydd angen i'r LCC nodi Cynllun Sicrwydd Rheoleiddiol er mwyn rhoi sicrwydd penodol i'r Rheoleiddiwr ei fod yn ystyried y meini prawf wrth ddod i'w benderfyniad i wneud cais i ddadgofrestru. At hynny, caiff y Rheoleiddiwr wneud cais i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y bwrdd neu gyfarfodydd eraill a gynullir gan yr LCC er mwyn ystyried elfennau allweddol o'r cynnig.

Cwmpas

Mae'r meini prawf yn gymwys i bob LCC a grŵp o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.

Sail Gyfreithiol

Mae adran 4 o Ddeddf 1996 yn nodi pwerau'r Rheoleiddiwr mewn perthynas â thynnu corff o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol. O dan adran 4(4) o Ddeddf 1996, caiff LCC wneud cais i gael ei dynnu o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol.

O dan adran 5(2) o Ddeddf 1996, y Rheoleiddiwr sy'n pennu'r meini prawf y dylid eu bodloni pan fydd LCC yn gwneud cais i gael ei dynnu o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol (a gallant gael eu hamrywio o bryd i'w gilydd) ac, wrth benderfynu a ddylid tynnu corff o'r gofrestr, bydd y Rheoleiddiwr yn ystyried a yw'r meini prawf wedi'u bodloni.

Mae adran 5(3) o Ddeddf 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Rheoleiddiwr ymgynghori â'r cyfryw gyrff ag sy'n cynrychioli landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r cyfryw gyrff ag sy'n cynrychioli awdurdodau lleol fel y gwêl y Rheoleiddiwr yn dda cyn iddo bennu neu amrywio unrhyw feini prawf o dan adran 5(2) o Ddeddf 1996.

O dan adran 5(4) o Ddeddf 1996, rhaid i'r Rheoleiddiwr gyhoeddi'r meini prawf ar gyfer tynnu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'r gofrestr yn y fath fodd ag sy'n briodol, ym marn y Rheoleiddiwr, i ddwyn y meini prawf i sylw cyrff sy'n cynrychioli Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a chyrff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol.

O dan adran 6 o Ddeddf 1996, caiff corff sy'n credu ei fod wedi cael cam o ganlyniad i benderfyniad y Rheoleiddiwr i'w dynnu neu beidio â'i dynnu o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol apelio yn erbyn y penderfyniad i'r Uchel Lys.

Y meini prawf ar gyfer tynnu LCC o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol

Mae'r meini prawf ar gyfer tynnu LCC o'r gofrestr a bennir gan y Rheoleiddiwr o dan adran 5(2) o Ddeddf 1996 fel a ganlyn:

  • mae trefniadau boddhaol ar waith er mwyn sicrhau y bydd tenantiaid yn parhau i gael eu diogelu
  • mae trefniadau boddhaol ar waith i ddiogelu buddsoddiad cyhoeddus, gan gynnwys grantiau a roddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r meini prawf hyn yn gymwys pan fydd LCC yn gwneud cais i gael ei dynnu o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol yn unol ag adran 4(4) o Ddeddf 1996. Nid ydynt yn gymwys lle mae'r Rheoleiddiwr yn tynnu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o'r gofrestr o landlordiaid cymdeithasol o dan adran 4(2) o Ddeddf 1996.

Rhagor o Wybodaeth

Efallai y bydd LCC yn penderfynu nad yw am barhau i fod yn LCC mwyach. O dan yr amgylchiadau hyn, os caiff cais a wneir gan y LCC yn unol ag adran 4(4) o Ddeddf 1996 ei gymeradwyo, gall ddadgofrestru ac ni fydd yn LCC yng Nghymru mwyach. Caiff y corff dadgofrestredig ddewis parhau fel landlord yn y sector preifat (os bydd yr LCC yn dirwyn i ben neu'n mynd yn ansolfent, bydd yn rhaid i'r LCC nodi gofynion penodol Deddf 1996 (adrannau 39-50)) neu ddod yn fath arall o endid cyfreithiol.

Caiff pob cais ei asesu yn erbyn y meini prawf a nodir waeth beth fo'r rheswm dros wneud cais. Bydd angen i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gael eu cyngor cyfreithiol eu hunain er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y meini prawf a, lle y bo'n berthnasol, ganllawiau rheoleiddwyr eraill.

Asesu cais

Nodir ar ba sail y gall LCC wneud cais i ddadgofrestru a'r wybodaeth y bydd angen i LCC sy'n gwneud cais i ddadgofrestru ei darparu er mwyn i'w gais gael ei ystyried isod.

Ddim yn ddarparwr tai cymdeithasol mwyach

Os bydd LCC yn gwneud cais i ddadgofrestru am nad yw'n ddarparwr tai cymdeithasol yng Nghymru mwyach ond y bydd yn cadw ei asedau, bydd yn rhaid i'r LCC sy'n gwneud cais ddarparu tystiolaeth nad yw'r tai a ddarperir ganddo yn dai cymdeithasol mwyach.

Meini prawf dadgofrestru – Mae trefniadau boddhaol ar waith er mwyn sicrhau y bydd tenantiaid yn parhau i gael eu diogelu

Bydd angen i'r LCC ddangos hyfywedd ariannol parhaus. Ni fyddwn yn dadgofrestru LCC na all ein bodloni o hyn. Nod y gofyniad hwn yw lleihau'r tebygolrwydd y bydd yr LCC dadgofrestredig yn wynebu ansolfedd a'r risgiau cysylltiedig i fuddiannau tenantiaid ac asedau a ariennir yn gyhoeddus.

Bydd angen i LCC sy'n gwneud cais ddarparu, o leiaf, yr wybodaeth a nodir isod i ddangos bod trefniadau boddhaol ar waith er mwyn sicrhau y bydd tenantiaid yn parhau i gael eu diogelu:

  • esboniad o'i resymau dros wneud cais i ddadgofrestru
  • copi o'r cyfrifon statudol archwiliedig diweddaraf, a ddylai fod o fewn y 12 mis diwethaf
  • amcanestyniad manwl o'r llif arian parod ar gyfer o leiaf 12 mis (efallai y bydd y Rheoleiddiwr yn gofyn am amcanestyniadau tymor hwy ond bydd yn trafod hyn â'r LCC sy'n gwneud cais)
  • cynllun rheoli asedau sy'n cadarnhau y bydd costau tebygol gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn gallu cael eu talu
  • cadarnhad o unrhyw gynlluniau datblygu yn y dyfodol a sut y cânt eu hariannu
  • cadarnhad y caiff gwasanaethau i denantiaid eu cynnal ar y lefelau presennol o leiaf
  • cadarnhad o drefniadau rheoleiddio yn y dyfodol (y Comisiwn Elusennau, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac ati)
  • tystiolaeth o ymgynghori trylwyr â thenantiaid ac ymatebion i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon
  • cadarnhad o unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu a bod benthycwyr/cyllidwyr wedi cytuno i'r LCC ddadgofrestru
  • cadarnhad ei fod wedi ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol cyn gwneud y cais ynghyd â manylion yr ymateb.

D.S. Mae angen rhagor o wybodaeth yn ychwanegol at y rhestr uchod. Ceir rhestr ddiffiniol yn Atodiad 1.

Bydd angen i gyfrifon statudol cyfredol ac amcanestyniadau o lifau arian parod roi sicrwydd bod yr LCC sy'n gwneud cais yn ariannol hyfyw ac, os yw'n briodol, nodi sut y bydd y sefydliad yn parhau i fod yn ariannol hyfyw ar ôl iddo ddadgofrestru. Dylai'r amcanestyniadau hyn ddangos bod gan yr LCC sy'n gwneud cais yr adnoddau i gynnal a chadw'r stoc dai yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ofynion o ran cyllid cyfalaf. Mae'n amlwg bod gwasanaethau i denantiaid yn bwysig iawn ac rydym yn disgwyl i LCC sy'n gwneud cais ddangos na fydd lefelau gwasanaeth yn gostwng ar ôl iddo ddadgofrestru.

Rhaid i sefydliad sy'n gwneud cais i ddadgofrestru ymgynghori â thenantiaid ynghylch ei gynnig i ddadgofrestru. Dylai'r ymgynghoriad hwn ddilyn yr egwyddorion a'r gwerthoedd a nodir yn Y Pethau Iawn – Clywed Llais Tenantiaid.

Bydd angen inni fod yn fodlon bod y broses ymgynghori a gynhaliwyd yn briodol i faint a natur yr LCC sy'n gwneud cais. Fel arfer, byddem yn disgwyl i'r mwyafrif o denantiaid fod yn fodlon ar y cynnig a bydd angen inni gael manylion am sut yr ymatebwyd i unrhyw bryderon a godwyd.

Rhaid hysbysu tenantiaid am unrhyw newid yn eu tenantiaeth a allai ddigwydd ar ôl i'r LCC ddadgofrestru. Rhaid i LCC sy'n gwneud cais sicrhau bod cyngor priodol wedi'i roi i denantiaid ar fanteision ac anfanteision dadgofrestru, os gofynnir amdano, er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn deall unrhyw newidiadau i'w tenantiaethau a'u hawliau statudol a allai ddeillio o ddadgofrestru'r LCC. Rhaid i'r cyngor hwn gael ei ddarparu ar draul yr LCC.
Byddwn yn ystyried lefel a natur ymateb yr LCC i'r ymgynghoriad ac unrhyw gamau gweithredu y mae'r LCC yn bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â phryderon tenantiaid. Lle y bo'n gymwys, rhaid i'r wybodaeth a ddarperir egluro unrhyw hawliau statudol a gollir o ganlyniad i ddadgofrestru'r LCC. Rhaid i'r LCC roi gwybod i denantiaid a fydd yn cyflwyno hawliau cytundebol ar delerau tebyg yn lle'r hawliau statudol hyn. Bydd angen inni fod yn fodlon bod tenantiaid yr effeithir ar eu tenantiaethau wedi cytuno i'r newid(iadau) yn statws eu tenantiaeth. Dylid hefyd hysbysu tenantiaid bod dadgofrestru yn golygu na fydd y corff dadgofrestredig yn cael ei reoleiddio gan y Rheoleiddiwr tai cymdeithasol mwyach a beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol.

Yn ogystal â'r uchod, tra bydd cais yn cael ei ystyried, rhaid i LCC sy'n gwneud cais barhau i gydymffurfio â'r holl ofynion statudol perthnasol, gan gynnwys unrhyw ofynion i hysbysu'r Rheoleiddiwr am ddigwyddiadau penodol, a rhaid i'r LCC roi'r holl wybodaeth ategol i'r Rheoleiddiwr o dan y gofynion statudol perthnasol.

Fel arfer, disgwylir i LCC sy'n gwneud cais fod wedi ad-dalu pob benthyciad (gan gyrff yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus) yn llawn neu fod wedi sicrhau cytundeb y benthycwyr/cyllidwyr i ddadgofrestru'r LCC. Mae angen iddo wneud hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth fenthyciadau yn cael eu bodloni ac nad yw'r newid mewn statws yn torri unrhyw gyfamodau benthyca am ei bod yn bosibl bod y benthyciwr/cyllidwr wedi rhoi'r benthyciadau ar yr amod bod y corff yn LCC.

Mae'n annhebygol y byddwn yn cymeradwyo cais i ddadgofrestru:

  • os oes dyfarniad rheoleiddiol wedi'i gyhoeddi yn erbyn yr LCC sy'n gwneud cais nad yw'n cydymffurfio â statws gwyrdd ar gyfer llywodraethu (gan gynnwys gwasanaethau tenantiaid) a hyfywedd ariannol.
  • os oes gan yr LCC sy'n gwneud cais gynlluniau datblygu oni bai eu bod yn brosiectau bach iawn sy'n cael eu hariannu gan yr LCC ei hun.

Byddwn yn ymgynghori â'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd lle mae'r LCC sy'n gwneud cais yn gweithio, yn unol â'r gofynion yn adran 4(5) o Ddeddf 1996, ac yn ystyried eu barn. Efallai y byddwn hefyd yn ymgynghori â chyrff eraill gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd ac AGC er enghraifft.

Os ymgynghorir ag unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod neu grŵp arall a'i fod yn codi pryderon, byddwn yn trafod y materion â'r LCC ac yn cynnig cyfle i'r LCC sy'n gwneud cais nodi unrhyw fesurau lliniaru arfaethedig i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd.

Meini prawf dadgofrestru – Mae trefniadau boddhaol ar waith i ddiogelu buddsoddiad cyhoeddus, gan gynnwys grantiau a roddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru

Nod y Rheoleiddiwr yw cadw tai cymdeithasol os yw'n bosibl a diogelu unrhyw fuddsoddiad cyhoeddus a wnaed er mwyn darparu'r tai hynny.

Fel arfer, ni fyddwn yn dadgofrestru unrhyw LCC os bydd cymhorthdal cyhoeddus gwerth mwy na £500k wedi'i roi i'r LCC sy'n gwneud cais er mwyn iddo ddatblygu tai y mae'n dal i fod yn berchen arnynt. Mae cymhorthdal cyhoeddus yn cynnwys pob grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu'r cyrff a'u rhagflaenodd yn ogystal ag unrhyw dir a ddarparwyd gan y sector cyhoeddus am bris sy'n is na'i werth ar y farchnad agored.
Byddai disgwyl i unrhyw grant gael ei ad-dalu ar ôl i'r LCC gael ei ddadgofrestru yn unol ag unrhyw delerau ac amodau sydd ynghlwm wrth y grant. Efallai y bydd yn bosibl ystyried a ellir rhoi trefniadau eraill ar waith, megis gohirio ad-dalu grant, ar yr amod y gosodir arwystl a/neu gyfyngiad cyfreithiol priodol ar yr eiddo dan sylw (gweler isod).

Bydd angen i LCC sy'n gwneud cais ddarparu, o leiaf, yr wybodaeth a nodir isod i ddangos bod trefniadau boddhaol ar waith er mwyn sicrhau y bydd buddsoddiad cyhoeddus yn parhau i gael ei ddiogelu:

  • cofnod o gyfanswm y grant cyfalaf neu gyllid cyhoeddus a roddwyd i ddatblygu, prynu neu atgyweirio cartrefi y mae'r LCC sy'n gwneud cais yn dal i fod yn berchen arnynt.
  • cofnod o unrhyw dir a ddarparwyd gan y sector cyhoeddus am lai na'i werth ar y farchnad.
  • os na all yr LCC ad-dalu unrhyw grant, rhaid iddo nodi, yn llawn, y rhesymau dros hynny. Gallai'r rhesymau dilys gynnwys problemau parhaus o ran hyfywedd neu effaith ar lesiant tenantiaid/preswylwyr yn y dyfodol.
  • os bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i ohirio ad-dalu unrhyw grant, yr LCC sy'n gwneud cais fydd yn gyfrifol am ddarparu tystiolaeth bod yr eiddo wedi'i gofrestru â'r gofrestrfa tir a bod arwystl a/neu gyfyngiad cyfreithiol priodol, o blaid Llywodraeth Cymru, ar waith cyn i'r dadgofrestriad gael ei gadarnhau. Dylai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n gwneud cais fod yn llwyr ymwybodol o oblygiadau'r arwystl a/neu gyfyngiad cyfreithiol cyn bwrw ymlaen â'r cais i ddadgofrestru.

Pan gaiff grant a roddwyd i LCC sy'n dadgofrestru ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru, caiff y cyllid ei ailgylchu'n ôl i'r awdurdod lleol lle mae'r tai dan sylw wedi'u lleoli drwy Gynllun Cyflawni'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.

Sut i wneud cais

Dylid sganio ceisiadau i ddadgofrestru a dogfennaeth ategol (gweler Atodiad 1) fel ffeiliau PDF a'u he-bostio i housingregulation@llyw.cymru. Ni dderbynnir ceisiadau ar ffurf copi caled.

Os caiff cais i ddadgofrestru ei gymeradwyo, bydd y Rheoleiddiwr yn ysgrifennu at yr LCC er mwyn cadarnhau bod y cais wedi'i gymeradwyo. Bydd y Rheoleiddiwr hefyd yn ysgrifennu (lle y bo'n gymwys) at y Comisiwn Elusennau, Cofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o Gwmnïau Cydfuddiannol, Tŷ'r Cwmnïau, ac unrhyw Awdurdod Lleol y mae'r corff dadgofrestredig yn gweithredu yn ei ardal, er mwyn eu hysbysu am yr hyn y mae'r Rheoleiddiwr wedi'i wneud.

Os caiff cais ei wrthod, byddwn yn cysylltu â'r LCC er mwyn esbonio'r rheswm dros ei benderfyniad. Os yw'n briodol, byddwn yn gweithio gyda'r LCC i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a nodwyd

Atodiad 1: rhestr wirio

  • esboniad o'r rhesymau dros wneud cais i ddadgofrestru
  • Copi o'r cyfrifon statudol archwiliedig diweddaraf, a ddylai fod o fewn y 12 mis diwethaf
  • Amcanestyniad manwl o'r llif arian parod ar gyfer o leiaf 12 mis (efallai y bydd y Rheoleiddiwr yn gofyn am amcanestyniadau ymhellach i'r dyfodol ond bydd yn trafod hyn â'r LCC sy'n gwneud cais)
  • Cynllun rheoli asedau sy'n cadarnhau y bydd costau tebygol unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw yn gallu cael eu talu
  • Cadarnhad o unrhyw gynlluniau datblygu yn y dyfodol a sut y cânt eu hariannu
  • Cadarnhad y caiff gwasanaethau i denantiaid eu cynnal ar y lefelau presennol o leiaf
  • Cadarnhad o drefniadau rheoleiddio yn y dyfodol (y Comisiwn Elusennau, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac ati) Cadarnhad ei fod wedi ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol cyn gwneud y cais ynghyd â'r ymateb.
  • Tystiolaeth o ymgynghori trylwyr â thenantiaid ac ymatebion i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon
  • Cadarnhad o unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu a bod benthycwyr/cyllidwyr wedi cytuno i'r LCC ddadgofrestru
  • Cofnod o gyfanswm y grant cyfalaf neu gyllid cyhoeddus a roddwyd i ddatblygu, prynu neu atgyweirio cartrefi y mae'r LCC sy'n gwneud cais yn dal i fod yn berchen arnynt
  • Cofnod o unrhyw dir a ddarparwyd gan y sector cyhoeddus am lai na'i werth ar y farchnad
  • Os na all yr LCC ad-dalu unrhyw grant, rhaid iddo nodi, yn llawn, y rhesymau dros hynny. Gallai'r rhesymau dilys gynnwys problemau parhaus o ran hyfywedd neu effaith ar lesiant tenantiaid/preswylwyr yn y dyfodol
  • Manylion am y ffordd y caiff asedau eu gwaredu os caiff yr LCC ei ddirwyn i ben. Noder bod gofynion penodol mewn perthynas â gweithdrefnau “dirwyn i ben” a nodir yn Neddf 1996
  • Cadarnhad bod yr LCC wedi cydymffurfio â'r holl rwymedigaethau iechyd a diogelwch statudol
  • Cadarnhad o statws yr LCC fel Elusen/Cymdeithas Budd
  • Cymunedol/Cwmni â Rheolau Elusennol neu statws arall
  • Hysbysiad Canslo Gwarant
  • Cofnodion wedi'u llofnodi'r Bwrdd ac unrhyw gymeradwyaeth angenrheidiol gan randdeiliaid ar gyfer y cais i ddadgofrestru