Yn ystod ei hymweliad â phencadlys Iceland Food Limited yng Nglannau Dyfrdwy ddoe, dywedodd Hannah Blythyn eto am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gwastraff bwyd.
Bob blwyddyn bydd gwerth tua £660 miliwn o ddofednod yn cael eu taflu. Ymwelodd y Gweinidog ag Iceland, cwmni sy’n arbenigo mewn bwyd wedi’i rewi, i glywed mwy am ei gynlluniau i fynd i’r afael â gwastraff yn y gadwyn gyflenwi. Yn ystod yr ymweliad, cymeradwyodd ymgyrch dymhorol Love Food Hate Waste, sy’n ymwneud â dofednod.
Nod yr ymgyrch ‘Give a Cluck’ eleni yw codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl 25 i 34 oed o faint o ddofednod sy’n cael eu gwastraffu bob blwyddyn. Mae’n cynnig cyngor a gwybodaeth am sut i gadw’r cig hwn rhag ei wastraffu.
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau gwastraff bwyd cartrefi. Yn 2015 roedd lefelau gwastraff bwyd cartrefi 9% y person yn is na gweddill y DU. Yn ogystal, gostyngodd gwastraff bwyd cartrefi 12% y person rhwng 2009 a 2015. Mae hwn yn golygu na chafodd bwyd gwerth £70 miliwn ei wastraffu. Mae 99% o gartrefi yng Nghymru yn rhan o gynlluniau awdurdodau lleol i gasglu gwastraff ar wahân. Dywedodd y Gweinidog:
“Rhan fawr o’r Nadolig yw teuluoedd yn dod at ei gilydd i fwyta, ond mae’n bwysig helpu pobl i ddeall mwy am sut i gadw a rhewi bwyd yn gywir er mwyn gwastraffu llai.
“Dysgais i heddiw y bydd Iceland yn gwerthu dros 20,000 o dyrcwn wedi’u rhewi yn ei siopau yng Nghymru adeg y Nadolig. Serch hynny, bob blwyddyn yn y DU caiff 86 o filiynau o adar eu taflu, heb eu bwyta, a gwerth y gwastraff hwn yng Nghymru yw £31 miliwn bob blwyddyn.
Fel Llywodraeth Cymru, a llawer o sefydliadau’r sector bwyd a diod, mae Iceland wedi ymrwymo i Courtauld 2025, sef cytundeb gwirfoddol, uchelgeisiol i weithgynhyrchu a defnyddio bwyd a diod yn fwy cynaliadwy. Nid yw’r cwmni yn anfon bwyd sydd heb ei werthu i safleoedd tirlenwi. Yn hytrach, mae’n ei roi i’r gymuned, ei droi’n fwyd i anifeiliaid, neu mae’n ei anfon i safle treulio anaerobig.
Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cynnal ymgynghoriad ar gyflwyno targed anstatudol i haneru gwastraff bwyd yng Nghymru erbyn 2025.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rydyn ni’n falch iawn o’r ffaith mai Cymru yw un o wledydd gorau’r byd am ailgylchu. Er hynny, rydyn ni’n gwybod bod angen gwneud mwy, yn enwedig o ran mynd i’r afael â gwastraff bwyd.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol. Ond os ydyn ni am wireddu’n huchelgais i haneru gwastraff bwyd erbyn 2025, mae’n rhaid inni ennill cefnogaeth busnesau a theuluoedd. Roeddwn yn falch iawn o ddysgu am waith Iceland yn y maes hwn, a hoffwn i annog cwmnïau eraill ar draws Cymru i ymrwymo i gytundeb Courtauld."