Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau a gofynion ar gyfer darparu'r cynllun Addysg Gychwynnol i Athrawon sy’n Seiliedig ar Gyflogaeth. Blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r gweithdrefnau a’r blaenoriaethau polisi ar gyfer y Cynllun Hyfforddi Athrawon sy’n Seiliedig ar Gyflogaeth yng Nghymru. Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Gelwir y Cynllun Hyfforddi yn TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) Cyflogedig hefyd. Rhaglen achrededig o addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru yw’r TAR Cyflogedig, sy’n dyfarnu cydnabyddiaeth broffesiynol o statws athro cymwysedig (SAC).

Darperir gwybodaeth ar:

  • nifer y lleoliadau ar gyfer athrawon dan hyfforddiant
  • lefel yr arian grant sydd ar gael i gefnogi athrawon TAR Cyflogedig dan hyfforddiant
  • y gweithdrefnau a’r blaenoriaethau polisi y mae'n rhaid i'r Bartneriaeth AGA sy'n rheoli'r TAR Cyflogedig eu hystyried

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â Chynllun Hyfforddi Athrawon sy’n Seiliedig ar Gyflogaeth 2020 ('Cynllun 2020’). Mae'r Cynllun yn nodi'r gofynion statudol ar gyfer y TAR Cyflogedig. Rhaid i'r cymhwyster TAR Cyflogedig hefyd fodloni:

  • y gofynion statudol ar gyfer holl raglenni AGA Cymru
  • y gofynion statudol a nodir yng Nghynllun 2020

Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr TAR Cyflogedig

Mae athrawon TAR Cyflogedig dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi gan ysgol ac yn derbyn cyflog. Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR â statws athro cymwysedig tra'n ymgymryd â dyletswyddau cyflogaeth yn eich ysgol. Bydd eich ysgol yn darparu elfennau o’ch cymhwyster ochr yn ochr ag ysgolion eraill ym Mhartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.

Gallwch wneud cais:

  • os ydych yn gweithio mewn ysgol a gynhelir fel cynorthwy-ydd addysgu neu mewn rôl lle nad ydych yn addysgu
  • os yw eich ysgol yn cymeradwyo eich lleoliad TAR Cyflogedig
  • os ydych yn dymuno bod yn athro uwchradd ond nid ydych yn gweithio mewn ysgol ar hyn o bryd. Gallai Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored eich helpu i ddod o hyd i ysgol i’ch cymeradwyo

Sut i wneud cais ar gyfer TAR Cyflogedig

Rhaid gwneud pob cais drwy ddarparwr TAR Cyflogedig Llywodraeth Cymru, Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored. Mae gwefan y Brifysgol Agored yn rhoi manylion am y broses ymgeisio. Mae croeso arbennig i geisiadau am leoliadau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ni fydd ceisiadau a hunan-ariennir gan unigolion yn cael eu hystyried o dan unrhyw amgylchiadau.

Y Brifysgol Agored sy’n gosod y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau. Byddant yn sicrhau bod yr holl ddatganiadau a’r gwiriadau diogelu angenrheidiol wedi'u gwneud. Mae'r Brifysgol Agored yn gyfrifol am:

Y lleoedd a gynigir a'r cyllid grant sydd ar gael

Mae 110 o leoedd TAR Cyflogedig ar gael a byddant yn dechrau o 1 Medi 2025. Mae'r 110 lle ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir. Bydd lleoliadau uwchradd ar gael yn y pynciau canlynol:

  • Dylunio a Thechnoleg
  • Saesneg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth: Bioleg, Cemeg a Ffiseg
  • Cymraeg

Bydd pob lleoliad a chyllid grant cysylltiedig Llywodraeth Cymru yn para dwy flynedd.

Fel myfyriwr TAR Cyflogedig, bydd Llywodraeth Cymru yn talu eich costau hyfforddi â grant hyfforddi o £4,500 bob blwyddyn. Mae hwn ar gael i athrawon dan hyfforddiant:

  • sy’n astudio i fod yn athrawon cynradd
  • sy’n astudio i fod yn athrawon uwchradd

Os byddwch yn dewis astudio arbenigedd pwnc uwchradd, bydd yr ysgol a fydd yn eich cyflogi yn derbyn grant cyfraniad cyflog am ddwy flynedd eich lleoliad. Mae'r grant cyfraniad cyflog yn seiliedig ar bwynt 1 graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso. Gweler y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ar gyfer y flwyddyn berthnasol.

Lleoliadau cyfrwng Saesneg. Gall ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg sy'n eich cefnogi dderbyn cyllid grant sy’n 50% o bwynt 1 graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso am ddwy flynedd eich lleoliad. Gweler y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ar gyfer y flwyddyn berthnasol.

Lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu athro dan hyfforddiant sy'n dysgu sut i addysgu Cymraeg fel pwnc. Gall ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog sy’n cefnogi eich lleoliad cyfrwng Cymraeg dderbyn 100% o bwynt 1 graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso am ddwy flynedd eich lleoliad. Gall unrhyw ysgol uwchradd sy’n eich cefnogi i ddysgu sut i addysgu Cymraeg fel pwnc dderbyn 100% o bwynt 1 graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso am ddwy flynedd eich lleoliad. Gweler y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ar gyfer y flwyddyn berthnasol.

Canllawiau ar gyfer ysgolion sy’n noddi unigolyn

Ewch i wefan y Brifysgol Agored os ydych:

  • ydych yn ysgol sy'n dymuno cefnogi aelod presennol o staff nad yw’n addysgu ar y cynllun TAR Cyflogedig
  • oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda Phartneriaeth AGA y Brifysgol Agored i ddod o hyd i athro TAR Cyflogedig dan hyfforddiant i weithio yn eich ysgol

Gallwch gael nifer o athrawon TAR Cyflogedig dan hyfforddiant yn eich ysgol ar unrhyw adeg. Bydd angen i Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored a'ch ysgol ystyried yn ofalus effaith nifer o leoliadau athrawon dan hyfforddiant, ar eich ysgol ac ar yr athrawon dan hyfforddiant eu hunain. Y rheswm am hyn yw bod angen sicrhau ansawdd yr AGA y byddai pob athro dan hyfforddiant yn ei derbyn, a bod eich ysgol yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i gwblhau eu cwrs astudio a bodloni'r safonau penodedig (SAC) ar ddiwedd eu rhaglen AGA.

Dyletswyddau ysgolion sydd ag athro TAR Cyflogedig dan hyfforddiant

Mae'n rhaid i bob ysgol a gynhelir sy'n cyflogi athrawon dan hyfforddiant ar leoliad TAR Cyflogedig:

  • dalu cyflog i'r athro TAR Cyflogedig dan hyfforddiant
  • cadw at unrhyw gostau neu amodau eraill fel y'u pennir gan y strwythur cyflog ac amodau cenedlaethol ar gyfer athrawon yng Nghymru
  • talu athro TAR cyflogedig dan hyfforddiant ar o leiaf bwynt 1 graddfa gyflog athrawon heb gymhwyso
  • cadw at unrhyw ofynion eraill sydd mewn grym ar y pryd o ran cyflogaeth a deddfwriaeth

Mae'n ofynnol i ysgolion gyflogi pob athro dan hyfforddiant sydd ar y rhaglen TAR Cyflogedig am ei chyfnod llawn. Rhaid i Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored dderbyn cadarnhad o’r lleoliad ac o’r statws cyflogaeth cyn i leoliad ddechrau. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i bob lleoliad, waeth a yw’n derbyn cyllid grant ai peidio. Ni fydd Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored yn gwneud unrhyw daliadau grant cyflog hyd nes iddi dderbyn y cadarnhad hwn. Caiff unrhyw gymeradwyaeth ei dal yn ôl neu ei thynnu'n ôl os na chydymffurfir â'r gofyniad hwn.

Rhaid i ysgolion gofrestru unigolion sy'n ymgymryd â lleoliad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Dylid eu cofrestru o dan y Categori Cymorth Dysgu, a dylid gwneud hynny cyn dechrau cyfnod eu cyflogaeth. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol statudol.

Wrth ymgymryd â'u TAR Cyflogedig, bydd angen cymorth, arweiniad a mentora ychwanegol ar athrawon dan hyfforddiant. Bydd hyn yn eu galluogi i gwblhau'r cwrs astudio a chwrdd â'r safonau penodedig (SAC) ar ddiwedd eu lleoliad. Mae'n rhaid i drefniadau gweithio yr ysgol roi'r cyfle iddynt wneud hyn. Dylid cytuno ar hyn ar y cyd â Phartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.

Fel aelod o Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored, byddwch yn cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth priodol ac yn ei lofnodi. Bydd hwn yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau eich ysgol o fewn y Bartneriaeth AGA.

Rhaid i ysgolion gyflogi unigolion ar leoliad TAR Cyflogedig:

  • a all addysgu pynciau y mae ganddynt gymwysterau addas ar eu cyfer
  • sy'n cael eu haddysgu fel rhan o'r cwricwlwm i Gymru neu i lefel arholiadau cyhoeddus

Rhaid i Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored, a chi fel ysgol gymeradwyo, sicrhau y bydd lleoliad yn eich ysgol yn galluogi'r athro TAR Cyflogedig dan hyfforddiant i fodloni'r safonau penodedig (SAC) ar ddiwedd y rhaglen. Mae Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored yn gyfrifol am sicrhau bod y cymhwyster TAR Cyflogedig, a gyflwynir ledled Cymru, yn parhau i fodloni'r gofynion statudol ar gyfer dyfarnu SAC. Gall methu â gwneud hynny arwain at dynnu statws achrededig yn ôl o ran y rhaglen AGA. Felly, penderfyniad Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored, yn y pen draw, yw p’un a gaiff lleoliad ddechrau neu barhau o fewn eich ysgol.

Ail leoliad mewn ysgol fel rhan o gymhwyster TAR Cyflogedig

Mae'r meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru yn nodi y dylai pob athro dan hyfforddiant gael profiad mewn o leiaf ddwy ysgol yn ystod eu rhaglen AGA. Gall hyn fod yn anoddach mewn addysg gychwynnol athrawon sy’n seiliedig ar gyflogaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn ofynnol ar gyfer pob cymhwyster AGA yng Nghymru er mwyn dyfarnu SAC. Bydd ysgolion eraill o fewn Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored, fel ysgol bartner arweiniol, yn cael eu defnyddio at y diben hwn. Bydd manylion lleoliad yr ail ysgol yn cael eu cytuno gennych chi fel yr ysgol gyflogi a Phartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.

Lleoliadau myfyrwyr TAR Cyflogedig rhan-amser

Wrth ystyried lleoliadau TAR Cyflogedig rhan-amser, rhaid i ysgolion a fydd yn cyflogi’r unigolyn drafod y cais gyda Phartneriaeth AGA y Brifysgol Agored. Rhaid i'r Bartneriaeth AGA fod yn fodlon y byddai'n bosibl i'r myfyriwr TAR Cyflogedig rhan-amser gael cyfleoedd i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar waith yr ysgol a gallu cyflawni SAC.

Mae’n annhebygol y byddai’r rhai sy’n gweithio’n rhan-amser, beth bynnag fo’u profiad addysgu blaenorol, yn gallu cyflawni SAC drwy’r TAR Cyflogedig. Fodd bynnag, rhaid i geisiadau gael eu hystyried gan Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored ochr yn ochr â’r ysgol sy’n cymeradwyo’r unigolyn fesul achos.

Canllawiau ar gyfer Partneriaeth AGA TAR Cyflogedig

Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored yw darparwr Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Hyfforddi Athrawon sy’n Seiliedig ar Gyflogaeth 2020 ledled Cymru. Mae telerau ac amodau'r cytundeb hwn wedi'u nodi mewn llythyr cynnig grant a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Y grantiau hyfforddi a chyflog sydd ar gael

Mae'r grantiau hyfforddi ar gael i ddarparwr AGA TAR Cyflogedig Llywodraeth Cymru at ddibenion y TAR Cyflogedig. Dylent dalu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gostau hyfforddi athrawon dan hyfforddiant ar y rhaglen TAR Cyflogedig.

Mae grantiau cyflog ar gael i ysgolion uwchradd a gynhelir sy'n cyflogi athrawon TAR Cyflogedig dan hyfforddiant. Mae'r grant yn gyfraniad tuag at gostau'r ysgol wrth gyflogi unigolion ar y rhaglen TAR Cyflogedig. Nid talu'r holl gostau cysylltiedig yw’r bwriad, ac nid yw’n daliad ar gyfer yr unigolyn dan sylw. Bydd Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored yn dosbarthu'r grantiau cyflog yn unol â'r telerau a'r amodau a nodir yn y cytundeb grant.

Bydd cyfraniadau ar gyfer lleoliadau athrawon TAR Cyflogedig rhan-amser dan hyfforddiant yn cael eu talu ar gyfradd gyfwerth, pro rata.

Gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol Agored ddychwelyd unrhyw grant hyfforddi a grant cyflog, neu ran ohono, os bydd y lleoliad, am unrhyw reswm, yn para’n llai na’r cyfnod a nodwyd pan roddwyd y grant. Bydd yn ofynnol dychwelyd unrhyw swm nas defnyddiwyd pan ddaw’r lleoliad i ben. Ceir rhagor o fanylion yn y cytundeb grant.

Cyfyngiadau ar ymgymryd â’r TAR Cyflogedig

Ni chaniateir ymgymryd â'r TAR Cyflogedig tra byddwch yn cael eich cyflogi mewn Sefydliad Addysg Bellach. Ni fydd modd cyflawni SAC mewn sefyllfa felly.

Ni chaniateir ymgymryd â'r TAR Cyflogedig tra byddwch yn cael eich cyflogi mewn Uned Cyfeirio Disgyblion. O dan reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, ni chaniateir ymgymryd â lleoliadau AGA mewn Uned Cyfeirio Disgyblion i gyflawni SAC.