Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y dathliadau cenedlaethol i nodi 70 mlwyddiant y GIG yn dechrau yng Nghymru lle cafodd ei sefydlu

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd ffanffer o drympedi a sain clychau'n cyhoeddi'r gwasanaeth arbennig lle bydd y Tywysog Charles yn ymuno â staff, cleifion, ymgyrchwyr codi arian a gwirfoddolwyr ar gyfer Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd. 

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, Deon Llandaf, y Tra Pharchedig Gerwyn Capon, yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall yn croesawu'r Tywysog Charles i'r Eglwys Gadeiriol. 

Bydd mwyafrif y gynulleidfa aml-ffydd yn y gwasanaeth yn staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd gan gynrychioli'r amrywiaeth cyfoethog o bobl a'r ystod eang o sgiliau a phroffesiynau ar draws y gwasanaeth iechyd. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Rwy'n hynod falch y byddwn yn dod ynghyd i ddathlu'r gwasanaeth iechyd a gafodd ei sefydlu yng Nghymru mewn Gwasanaeth Diolchgarwch cenedlaethol. Bydd yn bleser estyn croeso cynnes i Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru.

"Bydd y gwasanaeth yn rhoi'r cyfle inni fyfyrio a diolch i'r holl bobl sydd wedi darparu a chefnogi ein gwasanaeth iechyd y mae gennym feddwl mawr ohono dros y 70 mlynedd diwethaf, ac sy'n parhau i wneud hynny heddiw. 

Bydd gosgordd er anrhydedd o staff presennol y GIG a rhai sydd wedi ymddeol o bob cwr o Gymru hefyd yn cyfarch y Tywysog Charles. Yn eu plith bydd Aneira Thomas, y babi cyntaf i'w geni dan y GIG. 

Ymysg y perfformwyr bydd Côr Tenovus Sing With Us, Trwmpedwyr Band Catrodol y Cymry Brenhinol, y Telynor Brenhinol Anne Denholm, yr unawdydd Mike Peters sydd fwyaf adnabyddus fel prif ganwr The Alarm, a darlleniadau o gerddi a gomisiynwyd yn arbennig gan gyn fardd cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam. Bydd Côr a Chymdeithas Clochyddion Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ymuno â nhw. 

Bydd y Tywysog Charles hefyd yn cyflwyno darnau arian arbennig y GIG gan y Bathdy Brenhinol i'r plant o ysgolion cynradd Cymru a enillodd cystadleuaeth arlunio GIG70. 

Dywedodd Deon Llandaf, gan edrych ymlaen at yr ymweliad Brenhinol:

“Unwaith eto, bydd yn bleser mawr inni groesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i’r Eglwys Gadeiriol wrth inni ddiolch am gyfraniad rhagorol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’n cenedl. Mae’n addas iawn mai yn yr Eglwys Gadeiriol y cynhelir y gwasanaeth hwn o ddiolchgarwch, nid yn unig am y gwasanaeth iechyd fel sefydliad ond hefyd am y dynion a’r menywod di-rif sy’n gweithio’n ddiflino i drin pobl sâl a chefnogi iechyd pawb yn ein cymunedau. 

"Yn yr Eglwys mae llesiant y teulu dynol yn cael ei roi yn nwylo diogel Duw bob dydd drwy’r addoli a’r tystiolaethu. Bydd yn adeg arbennig inni wrth nodi 70 mlwyddiant y gwasanaeth iechyd, sydd mor ddyledus i weledigaeth wreiddiol Aneurin Bevan a’r rheini sydd nawr yn ei gadw’n agos at eu calonnau. Bydd cynnal y gwasanaeth hwn ym mhresenoldeb Tywysog Cymru yn fraint fawr i bob un ohonom.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: 

"Byddaf yn falch o sefyll ochr yn ochr â staff y gwasanaeth iechyd o bob cwr o Gymru yn y dathliad arbennig hwn o'r gwasanaeth y mae gennym feddwl mawr ohono. 

"Byddwn yn diolch i bobl sydd wrth galon y gwasanaeth ac yn cofio'r holl bobl hynny o Gymru a'r tu hwnt a fu'n helpu i greu un o'n sefydliadau cenedlaethol gorau, sef y Gwasanaeth Iechyd Gwladol."