Neidio i'r prif gynnwy

Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt y calendr gwledig, ac mae’n lle delfrydol i barhau â thrafodaethau a sgyrsiau am sicrhau dyfodol cryf i ffermio a’n cymunedau gwledig, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hanesyddol wedi ei basio, a disgwyl iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn ystod yr haf, a gwaith yn mynd rhagddo ar yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy tua diwedd y flwyddyn, prif themâu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn y Sioe fydd edrych tuag at y dyfodol.

Bydd ffocws hefyd ar fod yn berchennog cyfrifol ar gi, a bydd gwybodaeth ar gael am les anifeiliaid.

Gan edrych ymlaen at y Sioe, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig:

Dyma gyfnod allweddol i’r diwydiant amaeth a’n cymunedau gwledig wrth inni symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.  Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun tua diwedd y flwyddyn hon, ac yn cyhoeddi’r cynllun terfynol yn 2024.

Drwy weithio gyda’n gilydd mae gennym gyfle unigryw na chawn ei debyg eto yn ein hoes i ddylunio’r cynllun cywir i ffermwyr ac i Gymru.  Rwyf am gadw ffermwyr ar y tir, yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan ymdrin â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr un pryd.

Mae’r Sioe’n rhoi cyfle inni barhau â’n trafodaethau am y dyfodol, ac i ffermwyr gyflwyno eu safbwyntiau gwerthfawr.

Byddwn yn annog pawb i alw heibio pafiliwn Llywodraeth Cymru i ddarganfod mwy am ein cynlluniau ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru.

Hoffwn ddymuno’n dda i drefnwyr y Sioe Frenhinol wrth iddynt ddechrau ar Sioe arall o safon fyd-eang, y mae miloedd yn ei charu ac yn ymweld â hi.