Neidio i'r prif gynnwy

Uchafswm o £9,000 yn parhau ar gyfer y ffi dysgu yng Nghymru - Kirsty Williams

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn  sicrhau system ariannu sefydlog, flaengar a chynaliadwy, er gwaethaf gorfod ymateb ar yr un pryd i'r holl newidiadau dirybudd sy'n cael eu cyhoeddi yn Lloegr.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cadarnhau hefyd y bydd cynnydd yn nhrothwy ad-dalu benthyciadau israddedigion, sef o £21,000 i £25,000 -  yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus trafodaethau â Thrysorlys Ei Mawrhydi.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Fydda' i ddim yn caniatáu i'r helbul gwleidyddol a'r ansicrwydd yn Lloegr ein gwyro oddi wrth ein nod o gyflwyno system addysg uwch sy'n sefydlog ac yn gynaliadwy yng Nghymru.

“Nid yw ein sector ni'n gweithredu'n annibynnol, ac mae'n rhaid inni sicrhau sefydlogrwydd i'n sefydliadau er mwyn iddynt allu gystadlu yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

“Ar sail yr hinsawdd wleidyddol yn Lloegr, rwy wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â lefelau'r ffioedd dysgu. Yn sgil ymgynghori â'n Prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, bydd uchafswm y ffi dysgu yn parhau i fod yn £9,000. Rydyn ni hefyd ar y trywydd iawn i gyflwyno'r system gymorth decaf a mwyaf blaengar i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.

“Yn wahanol i'r Llywodraeth ar draws y ffin, rydyn ni'n darparu buddsoddiad i gefnogi myfyrwyr a phrifysgolion fel rhan o'r newidiadau hyn.

“Mae'r gyfradd llog a godir ar fyfyrwyr tra byddan nhw'n astudio yn destun pryder i mi o hyd, a bydda' i'n parhau i drafod y mater â'r swyddogion cyfatebol hynny yn Whitehall.”

I helpu prifysgolion a myfyrwyr sy'n hanu o Gymru, mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi:

  • Bydd £10m ychwanegol ar gael i CCAUC yn 2018-19, er mwyn ymdrin ag unrhyw faterion uniongyrchol sy'n codi yn sgil y newidiadau i ffioedd dysgu.
  • Bydd £6m ychwanegol ar gael i CCAUC yn y flwyddyn ariannol hon i ymdrin â goblygiadau'r newidiadau demograffig yn y tymor byr, yn ogystal â chaniatáu i CCAUC ddechrau paratoi ar gyfer goblygiadau Brexit.
  • Bydd £5m ychwanegol yn cael ei ddyrannu i CCAUC yn 2018-19 a 2019-20, er mwyn caniatáu i'n sefydliadau ddarparu bwrsarïau a grantiau i ôl-raddedigion, cyn rhoi'r pecyn newydd o gymorth i ôl-raddedigion ar waith yn llawn yn 2019/20. Bydd hynny'n helpu i gymell myfyrwyr i wella'u cynnydd ac i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru ddychwelyd i Gymru i astudio, yn unol â'n hymateb i Adolygiad Diamond. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i chynlluniau i gyflwyno'r system gymorth fwyaf blaengar i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig - bydd pob myfyriwr yn derbyn cymorth o tua £9,000 yn eu poced i helpu talu costau bob dydd, a bydd hwnnw’n cynnig cymorth cydradd ar draws pob lefel a dull astudio.