Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy'n nodi uchelgais gadarnhaol ar gyfer hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pob person anabl ledled Cymru dros y degawd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ddogfen ymgynghori, sy'n seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd ac wedi'i llywio gan egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, yn amlinellu camau gweithredu uniongyrchol a chanlyniadau hirdymor i greu newid parhaol yn y ffordd y mae cymdeithas yn mynd i'r afael â rhwystrau i gynhwysiant.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a wnaeth ddwyn ynghyd pobl â phrofiad bywyd ac arbenigedd. Mae'n mynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu pobl anabl yn eu bywydau bob dydd, gyda gweithgorau thematig yn canolbwyntio ar feysydd penodol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Bwrdd Cynghori Allanol yn darparu arbenigedd a goruchwyliaeth barhaus wrth i'r cynllun gael ei weithredu.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan yng nghymdeithas Cymru ar sail gyfartal ac yn rhydd o rwystrau, a chreu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bawb.

Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pobl anabl yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol yn eu bywyd bob dydd. Mae'r cynllun 10 mlynedd hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad i gynhwysiant a chyfranogiad gwirioneddol.

Mae gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi llywio'r cynllun hwn yn helaeth, gan sicrhau ei fod wedi'i seilio ar brofiad bywyd. Nawr mae angen i ni glywed gan gymaint o bobl anabl a sefydliadau â phosibl i sicrhau bod y cynllun terfynol yn cyflawni newid ystyrlon ledled Cymru.

Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos hwn yn croesawu mewnbwn gan unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau, gyda phwyslais arbennig ar glywed yn uniongyrchol gan bobl anabl am eu blaenoriaethau.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Awst 2025.