Neidio i'r prif gynnwy

Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn colli allan ar gymorth ariannol y mae ganddyn nhw’r hawl iddo, a gallai un galwad ffôn newid hynny.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae tua £1 biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae ymgyrch Llywodraeth Cymru 'Hawlia dy Arian', yn annog pobl i edrych beth gallen nhw ei hawlio, gyda chefnogaeth gyfrinachol am ddim gan Advicelink Cymru.

Ers 2020, mae mwy na £10.5 miliwn wedi cael ei roi yn ôl i bobl ledled Cymru diolch i ymgyrchoedd y gaeafau diwethaf, gan gynnwys budd-daliadau Cymru a'r DU, pensiynau, cymorth gyda chostau gofal a gostyngiadau yn nhreth y cyngor. Gallai hyd yn oed pobl sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau fod yn gymwys i gael mwy. Ar gyfartaledd, gallai hawlwyr cymwys gael tua £1,800 trwy Gredyd Pensiwn neu arbed £800 y flwyddyn ar dreth y cyngor.

Gwnaeth Eleri, cynghorydd gydag Advicelink Cymru, helpu pensiynwraig a oedd ar bensiwn y wlad a phensiwn preifat bach ac yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Doedd fawr ar ôl ganddi ar gyfer hanfodion. Ar ôl edrych yn fanwl ar ei sefyllfa, gwelwyd bod ganddi'r hawl i Gredyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor. Dywedodd Eleri: 

Mae yna ddegau o filoedd o aelwydydd ledled Cymru a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor neu gymorth ariannol arall, ond dydyn nhw ddim yn eu hawlio. Diolch byth, yn yr achos hwn, cysylltodd y fenyw ag Advicelink Cymru a sicrhau bron £1,000 y mis yn fwy o incwm gan wneud gwahaniaeth mawr i'w sefyllfa ariannol a gwneud bywyd ychydig yn haws iddi.

Byddem yn annog pawb i gysylltu â ni, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n meddwl eu bod yn gymwys i gael unrhyw beth, achos efallai eu bod yn colli allan.

Y gaeaf hwn, mae taliad o £100 ar gael i aelwydydd sy'n derbyn y Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor a’r Gostyngiad ym Mand yr Anabl. Bydd eu hawdurdod lleol yn cysylltu'n uniongyrchol ag aelwydydd cymwys felly nid oes ffurflenni i'w llenwi i wneud cais. Os nad ydych yn gymwys am y taliad hwn, siaradwch ag Advicelink Cymru am unrhyw gymorth arall allai fod ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi undebau credyd fel dewis teg yn lle benthyciadau drud. Mae £3.4 miliwn wedi'i roi i undebau credyd ers 2022 i 2023 iddyn nhw allu rhoi mwy o fenthyciadau. Mae hyn yn golygu bod rhagor na 6,200 yn fwy o fenthyciadau rhad wedi cael eu rhoi i bobl na fyddai wedi gallu cael credyd moesegol oddi wrth unrhyw le arall.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: 

Mae costau byw yn ergyd galed i aelwydydd ledled Cymru. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl i gynyddu’u hincwm ac i roi arian yn ôl yn eu pocedi. Os ydych chi'n cael trafferth i dalu costau byw pob dydd, i reoli dyledion, neu i wybod pa help sydd ar gael, mae cefnogaeth i chi hawlio'r cymorth ariannol sy'n ddyledus i chi. Rwy'n annog unrhyw un anghenus i gysylltu ag Advicelink Cymru i gael arweiniad a chyngor am ddim.

Ffoniwch Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 neu ewch i Hawlia dy arian.