Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Mudwyr, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ddathlu’r cyfraniad y mae mudwyr wedi’i wneud i Gymru, a rhybuddio’r Ysgrifennydd Gwladol i gau’r lloches yng ngwersyll Penalun, neu beryglu niweidio enw da rhyngwladol y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt AS:

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr yn adeg pan fyddwn yn myfyrio ynghylch gwerthoedd ein gwlad o ran mudwyr, p’un ai a ydynt yn dod yma drwy ddewis ynteu oherwydd bod amgylchiadau wedi eu gorfodi i wneud hynny. Mae mudwyr wedi gwneud cyfraniad mor fawr i gymdeithas Cymru, mae’n weddus ein bod yn eu hyrwyddo a’u dathlu nhw i gyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Mudwyr.

Rhaid inni beidio byth ag anghofio’r effaith a gafodd mudwyr ar ein cymdeithas. Eu gwaith ledled ein gwlad, yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ein hysgolion ac yn ein cartrefi gofal. Dyna pam yr ydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr yng Nghymru, rydym yn parchu, croesawu a gwerthfawrogi eu cyfraniad i’n cymdeithas.

Hefyd, manteisiodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y cyfle i ddatgan eto pa mor bwysig yw hi i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gofrestru ar gyfer statws preswylydd sefydlog.

Mae’r Prif Weinidog a minnau yn ailadrodd heddiw ein galwad i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw ar hyd a lled ein gwlad. Cymru yw eich cartref, bydd Cymru bob amser yn gartref ichi ac rydym am ichi aros. Mae hi felly yn hanfodol bwysig ichi gofrestru ar gyfer statws preswylydd sefydlog cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021.

Wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip rybuddio’r Ysgrifennydd Gwladol i gau’r cyn-wersyll milwrol ym Mhenalun sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety i geiswyr lloches, neu beryglu niweidio enw da rhyngwladol y DU.

Os yw Llywodraeth y DU am ddangos i’r byd ei bod yn genedl agored a chroesawgar ar ôl iddi ymadael â’r UE, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol weithredu nawr i gau gwersyll Penalun ar unwaith a symud y preswylwyr i gyfleusterau mwy addas. Mae’r amodau’n beryglus, yn anaddas ac yn anghynaladwy. Mae Cymru yn genedl noddfa a golyga hyn ein bod yn trin y rheini sy’n ceisio lloches ag urddas a pharch.

Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i weithredu nawr i wyrdroi’r amodau creulon hyn a dangos bod modd cyfiawnhau ein henw da rhyngwladol am hyrwyddo hawliau dynol.