Bydd unedau busnes y mae angen mawr amdanynt yn cael eu hadeiladu yn Sir Gaerfyrddin i safonau Sero Net, mewn prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru.
Bydd pum uned ddiwydiannol ynni-effeithlon yn cael eu darparu yn Ystâd Ddiwydiannol Beechwood, yn Llandeilo, ar gyfer busnesau lleol a rhanbarthol, gan gefnogi datblygiad economaidd yn yr ardal.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £3 miliwn yn y safle 7,150 troedfedd sgwâr. Mae'n cynnwys seilwaith, tirlunio, a gwaith cysylltiedig arall.
Mae'n dilyn gwaith ymgysylltu blaenorol â'r gymuned a nododd yr angen am fwy o ofod cyflogaeth.
Mae'r datblygiad – sydd wedi'i gynllunio i gyflawni 'targed Carbon Sero Net' – yn rhan o Gynllun Cyflawni Eiddo Llywodraeth Cymru ac mae'n cyflawni Menter Deg Tref Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae tyfu’r economi yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru Mae busnesau ledled Cymru wedi ei gwneud yn glir bod mannau busnes â chysylltedd da, o ansawdd uchel sydd â chynaliadwyedd yn allweddol iddynt, yn hanfodol ar gyfer ehangu a chreu swyddi.
Bydd yr unedau busnes newydd modern hyn yn helpu i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy a chefnogi trawsnewidiad Cymru i economi carbon isel.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin:
Yn dilyn gwaith ymgysylltu â'r gymuned leol a nododd angen am ofod cyflogaeth yn Llandeilo, bydd yr unedau newydd hyn yn cefnogi busnesau bach a chanolig drwy ddarparu gofod cyflogaeth sy'n addas i'r dyfodol sy'n cynnwys paneli solar a gwefrwyr cerbydau trydan. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn datblygu.
Mae Korbuild Limited, ym Mhontypridd, wedi cael ei ddewis i ddylunio ac adeiladu'r unedau. Dywedodd Mark Cotter, Rheolwr Gyfarwyddwr Korbuild:
Mae Korbuild Limited wedi ymrwymo i ddarparu Unedau Busnes o ansawdd uchel ar amser i Ystad Ddiwydiannol Beechwood. Edrychwn ymlaen at ddatblygu cysylltiadau gwaith cryf gyda phawb sy'n ymwneud â'r prosiect newydd cyffrous hwn.
