Neidio i'r prif gynnwy

Bydd unedau diwydiannol sy'n gallu lletya hyd at 150 o swyddi yn cael eu hadeiladu yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn gwerthu darn o dir gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae TRH Ltd, sy'n arbenigo mewn datblygu eiddo, preswyl a masnachol, wedi prynu'r llain ar safle Parc Eirin yn Nhonyrefail.

Cwblhaodd y busnes o Lantrisant ddatblygiad diwydiannol tebyg yn Llandŵ yn ddiweddar.

Bydd datblygiad safle Parc Eirin, sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru, yn gweld hyd at 50,000 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol yn cael ei greu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae creu'r amodau cywir i gefnogi twf busnes yn rhan hanfodol o'n gweledigaeth ar gyfer economi wyrddach, decach a ffyniannus i Gymru gyfan.

Bydd cynlluniau TRH Ltd yn creu mannau busnes o ansawdd uchel wedi'u cysylltu'n dda, gan alluogi uchelgeisiau ehangu a chreu swyddi i fusnesau yn y rhanbarth.

Dywedodd Martyn Christopher, Cyfarwyddwr TRH Ltd:

Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau safle Parc Eirin ac i fwrw ymlaen â'r datblygiad diwydiannol newydd hwn yn Rhondda Cynon Taf.

Ar ôl cyflawni ein cynllun diweddar yn Llandŵ yn llwyddiannus, bydd y prosiect hwn yn darparu gofod diwydiannol modern, hyblyg wedi'i deilwra i anghenion busnesau sy'n ehangu.