Neidio i'r prif gynnwy

Mae Unedau Pesgi Cymeradwy (AFUau) yn darparu man ar gyfer pesgi a/neu orffen gwartheg sydd wedi’u profi’n glir o ddaliadau sydd wedi’u cyfyngu gan TB sydd heb gyfleusterau i’w magu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall gweithredwr AFU brynu gwartheg o ffynonellau lluosog. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • daliadau sydd wedi’u cyfyngu gan TB a daliadau â Statws heb TB Swyddogol (OTF),
  • crynoadau OTF (marchnadoedd gwyrdd),
  • marchnadoedd eithriedig, ac yn fwy diweddar
  •  AFUau/AFUEau.

Mae angen trwydded arnoch  gan APHA i dalu am symud unrhyw wartheg o:

  • fferm sydd wedi'i chyfyngu oherwydd TB,
  • AFU yng Nghymru, neu
  • AFU/AFUE yn Lloegr

i Arwerthiant Penodol ar gyfer TB.

Mae AFUau wedi'u cymeradwyo i safonau bioddiogelwch llym. Rhaid iddynt fod yn unedau dan do mewn Ardaloedd TB Uchel yng Nghymru. Cedwir AFUau o dan gyfyngiadau TB parhaol. Rhaid ichi gadw at yr amodau cymeradwyo bob amser. Mae trwyddedau priodol yn galluogi symud ar y safle ac oddi arno.

Ers 1 Ionawr 2021, gall anifeiliaid unigol gael un symudiad trwyddedig o:

  • un AFU yng Nghymru, neu
  • AFU/AFUE yn Lloegr

i AFU arall yng Nghymru, naill ai’n uniongyrchol neu drwy Arwerthiant Penodol i TB.

Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu AFU ar gyfer magu lloi iau. Mae hyn yn eich galluogi i brynu lloi o ddaliadau lluosog sydd wedi’u cyfyngu oherwydd TB, neu safleoedd OTF. Yna gallwch fagu'r anifeiliaid hyn tan gam priodol yn eu cylch cynhyrchu. Ar yr adeg honno, gallwch eu symud i AFU arall sy'n gallu eu magu i bwysau lladd.

Ers 1 Ionawr 2021, mae marchnadoedd yn Ardal TB Uchel Cymru wedi gallu gwneud cais am gymeradwyaeth i gynnal Arwerthiant Penodol i TB. 

Gall gwartheg o ddaliadau sydd wedi’u cyfyngu oherwydd TB, AFUau yng Nghymru, neu AFUau/AFUEau yn Lloegr fynd i Arwerthiant Penodol i TB. O’r fan honno, dim ond i AFU yng Nghymru, neu AFU/AFUE yn Lloegr, y gall yr anifeiliaid hyn fynd, neu eu hanfon yn syth i'w lladd. Mae'n bwysig deall na chaiff unrhyw anifail ddychwelyd i'w ddaliad cartref o Arwerthiant Penodol i TB, oni bai ei fod wedi tarddu o AFU/AFUE.

O 31 Rhagfyr 2022, ni fydd angen prawf croen twbercwlin cyn symud arnoch mwyach ar gyfer gwartheg:

  • sy'n symud yn uniongyrchol rhwng AFUau (â phori a heb bori), neu'n
  • anuniongyrchol drwy arwerthiant penodol i TB (marchnad oren) cymeradwy.

Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr.

Bydd prawf cyn symud clir ar gyfer gwartheg 42 diwrnod oed neu’n hŷn o fewn 90 diwrnod i symud yn dal i fod yn ofynnol ar gyfer unrhyw symudiadau i:

  • AFU/AFUE, neu
  • Arwerthiant Penodol i TB

o AFU nad yw'n cydymffurfio ag amodau cymeradwyo yn yr ymweliad archwilio diwethaf gan APHA.

Ni all unrhyw AFU nad yw'n cydymffurfio ag amodau cymeradwyo yn yr ymweliad archwilio diwethaf gan APHA symud anifeiliaid cymwys 42 diwrnod oed, neu'n hŷn o:

  • AFU/ AFUE, neu
  • Arwerthiant Penodol i TB nad ydynt wedi cael prawf cyn symud clir o fewn 90 diwrnod i'r symudiad.

Bydd angen i symudiadau gwartheg:

  • o AFU yn uniongyrchol i AFU arall neu'n
  • anuniongyrchol drwy farchnad oren

gael eu trwyddedu gan APHA o hyd.

Rhaid ichi nodi pob un o’r gwartheg â thagiau clust, yn unol â Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (fel y'u diwygiwyd). Mae'n bwysig sicrhau bod gan anifail y tagiau clust gofynnol, cyn iddo symud o safle'r fferm.