Ar sail yr hyn rydym yn ei wybod am y coronafeirws (COVID-19), mae meddygon wedi cynghori bod y grŵp o unigolion a nodir yn y rhestr isod mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19):
- yn 70 oed neu'n hŷn (waeth beth fo'r cyflyrau meddygol)
- dan 70 gyda chyflwr iechyd sylfaenol a restrir isod (h.y. unrhyw un sy'n cael cyfarwyddyd i gael pigiad ffliw fel oedolyn bob blwyddyn am resymau meddygol):
- clefydau anadlol cronig (tymor hir), megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), emffysema neu broncitis
- clefyd cronig y galon, megis methiant y galon
- clefyd cronig yn yr arennau
- clefyd cronig yr afu, megis hepatitis
- cyflyrau niwrolegol cronig, megis clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd
- diabetes
- problemau gyda'ch dueg – er enghraifft, anemia cryman-gell neu os tynnwyd eich dueg
- system imiwnedd wan o ganlyniad i gyflyrau megis HIV ac AIDS, neu feddyginiaethau megis tabledi steroid neu cemotherapi
- dros eich pwysau’n ddifrifol (Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu fwy)
- y rhai sy’n feichiog
Yr un yw’r cyngor ar gyfer y grŵp hwn ag ar gyfer y boblogaeth yn ehangach.
Yn ogystal â hyn, mae adnodd asesu risg wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl sy’n gweithio i weld a ydynt mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau mwy difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’n helpu unigolion i ystyried beth yn union yw eu ffactorau risg personol ar gyfer y coronfeirws (COVID-19) ac yn awgrymu sut i gadw’n ddiogel.
Ceir rhai cyflyrau clinigol sy’n golygu bod unigolion mewn mwy o berygl eto hyd yn oed o gael salwch a'u gwneud yn fwy agored i effeithiau mwyaf difrifol coronafeirws (COVID-19). Nodir y grwp hwn fel y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed. Byddant yn cael eu hychwanegu at y Rhestr Gwarchod Cleifion ac yn derbyn llythyrau gyda'r cyngor diweddaraf yn uniongyrchol.