Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi croesawu unigolion yr effeithiwyd arnynt gan yr ymarfer yn y gorffennol o fabwysiadu gorfodol i’r Senedd ar gyfer ymddiheuriad ar ran Llywodraeth Cymru am y methiannau cymdeithasol a arweiniodd at yr arferion hynny nad ydynt ar waith mwyach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ôl cydnabod ac ymddiheuro’n bersonol am brofiadau’r holl unigolion hynny yr effeithiwyd arnynt gan arferion o’r fath yng Nghymru, ac am yr effaith gydol oes arnynt, cafodd rhai ohonynt eu gwahodd gan y Dirprwy Weinidog i gyfarfod â hi.

Mae’r gwahoddiad hwn hefyd yn dod yn dilyn cyhoeddi argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol o’i ymchwiliad i ddeall profiadau menywod di-briod a’u plant a gafodd eu mabwysiadu rhwng 1949 a 1976 yng Nghymru a Lloegr. Fel rhan o’r ymchwiliad hwnnw hefyd, cafodd yr effaith ar hawliau dynol y menywod a’r plant fel yr ydym yn eu deall heddiw eu hystyried.

Mae arferion mabwysiadu gorfodol yn perthyn i’r dyddiau cyn datganoli yng Nghymru, ond mae eu heffaith yn parhau ar bawb a wnaeth eu profi.

O ganlyniad i arferion y gorffennol, cafodd llawer o fenywod eu cymell i roi gofal eu babanod yn nwylo’r awdurdodau. Roedd y menywod dan sylw yn cael eu barnu yn unol â safonau moesol cymdeithas ar y pryd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a gyflwynodd yr ymddiheuriad swyddogol yn y Senedd cyn cyfarfod â phobl a gafodd eu heffeithio:

Dw i’n gwybod bod effeithiau arferion mabwysiadu a gwahanu teuluoedd gorfodol yn dal i fod yn rhan fawr o fywydau llawer o’r unigolion sydd wedi cael eu heffeithio.

Mae’r effeithiau yn amrywiol ac yn parhau. Maen nhw’n berthnasol nid yn unig i bob menyw a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei phlentyn o dan yr arferion mabwysiadu gorfodol, ond hefyd i bob mab a merch sydd bellach yn oedolion a gafodd eu mabwysiadu pan oedden nhw ond yn fabanod, ac i aelodau o’r teulu estynedig. Dw i hefyd am gydnabod profiadau’r tad o dan arferion y gorffennol.

Mae llawer ohonyn nhw’n dal i’w chael hi’n anodd iawn i rannu eu teimladau a siarad am y tor calon sydd wedi effeithio arnyn nhw gydol eu bywydau. Oherwydd eu bod nhw’n poeni y bydd pobl yn dal i’w barnu, maen nhw wedi methu â rhannu ag eraill.

Ond nid yw’r teimladau o golled, hiraeth, dicter a phoen wedi lleddfu.

Does dim gwahaniaeth am y pwysau cymdeithasol ar y pryd, nac ychwaith beth oedd yn cael ei ystyried yn arferol mewn cymdeithas, ni ddylai’r fath greulondeb byth fod yn rhan dderbyniol o’n cymdeithas ni yma yng Nghymru.

Hoffwn i rannu fy nghydymdeimlad diffuant â phawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae’n destun gofid mawr imi, oherwydd bod cymdeithas wedi troi ei chefn arnoch chi, eich bod chi wedi gorfod profi’r arferion arswydus hyn a oedd ar waith yng Nghymru yn y gorffennol – mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn wirioneddol edifar am hyn.

Roedd Ann Lloyd Keen, cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar ran y Blaid Lafur, ac un o’r unigolion yr effeithiwyd arnynt gan fabwysiadu gorfodol yn bresennol yn y Senedd.

Dywedodd:

Mae heddiw yn ddiwrnod mor bwysig imi a’m mab. Cefais wybod mai ‘dyna fyddai orau’ pan gafodd fy mab ei roi i’w fabwysiadu. Yn anffodus, nid oedd hynny yn wir. Roedd yn erchyll, yn achos cywilydd ac roeddwn i’n galaru ac yn methu â siarad ag unrhyw un. Cefais fy ngorfodi i fyw bywyd gyda chyfrinach fawr.

Penderfynais ddod yn nyrs gofrestredig er mwyn rhoi’r math o urddas a chyfiawnder cymdeithasol i gleifion na chefais innau pan oeddwn fwyaf agored i niwed.

Yn ddiweddarach, cefais y fraint o gael fy ethol yn Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ond anghofiais i fyth mo’r teimlad o gywilydd mawr. Yn ddiweddarach, teimlais y fath lawenydd pan gefais weld fy mab arbennig unwaith eto.

Heddiw, fel Cymraes sy’n eistedd yn Senedd Cymru, i lawr y ffordd o ble y cafodd fy mab ei eni yn Abertawe, dw i’n teimlo’n dawel fy meddwl a bod fy enw i wedi cael ei glirio. Nid fy newis i oedd ei roi i’w fabwysiadu. Cafodd y dewis hwnnw, a’m mab fy hunan, eu cymryd o’n nwylo i.

Ychwanegodd Julie Morgan:

Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd. Ond gallaf sicrhau pawb fod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi cael eu cryfhau’n sylweddol ers y dyddiau hynny.

Rydyn ni wrthi’n barod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ystyried y materion sydd wedi’u nodi yn adroddiad y Cyd-bwyllgor. Rydyn ni hefyd yn cydweithio i ddatblygu gwasanaethau cymorth a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion penodol y rheini a gafodd eu heffeithio gan arferion mabwysiadu a gwahanu teuluoedd gorfodol.

Wrth inni wynebu heriau’r dyfodol, byddwn yn cofio’r gwersi a ddysgwyd o wahanu teuluoedd. Byddwn yn rhoi sylw dyledus i barhau i ddiogelu hawliau sylfaenol plant a phwysigrwydd eu hawl i gael gofal gan riant.