"Nid yw ansawdd dŵr da yn nod amgylcheddol yn unig. Mae'n sylfaen ar gyfer dyfodol ffermio cryf, gwydn yma yng Nghymru" – y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
Cyn yr Uwchgynhadledd Dŵr ar Faes Sioe Sir Benfro (dydd Iau 25 Medi), mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn galw am weithredu ar frys ar ansawdd dŵr.
Yn ystod yr Uwchgynhadledd, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu sut mae'n rhaid i'r llywodraeth, ffermwyr, cwmnïau dŵr a grwpiau amgylcheddol weithio gyda'i gilydd i lanhau afonydd a dyfroedd arfordirol Cymru.
Ffocws yr uwchgynhadledd ddydd Iau fydd mynd i'r afael â llygredd amaethyddol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo £52 miliwn i gefnogi gwelliannau rheoli maethynnau, gan dderbyn dros 540 o geisiadau yn y rownd ariannu ddiweddaraf. Ond megis dechrau yw hyn.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Mae dŵr yn un o'n hadnoddau mwyaf sylfaenol, i bobl ac i natur. Mae'n rhaid inni lanhau ein hafonydd. Mae'n briodol bod pobl ledled Cymru yn pryderu am gyflwr presennol ein dyfrffyrdd. Mae gormod o'n hafonydd yn rhy llygredig. Ni all hynny barhau.
Rydyn ni'n gwybod bod gwella iechyd ein hafonydd yn golygu bod rhaid inni gydweithio, ar draws pob sector o'n cymdeithas. Mae'n gofyn am weithredu gan gwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, y llywodraeth, datblygwyr, ffermwyr, sefydliadau amgylcheddol a mwy. Mae angen ymateb gan y gymdeithas gyfan, lle mae pob sector yn cymryd cyfrifoldeb am wneud yr hyn y gallwn.
O ucheldiroedd Eryri i'r porfeydd llaeth yn Sir Benfro, mae dŵr yn ganolog i amaethyddiaeth – i iechyd da byw, cynhyrchu cnydau a gwydnwch economïau lleol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Nid nod amgylcheddol yn unig mo Ansawdd Dŵr Da Mae'n sylfaen ar gyfer dyfodol ffermio cryf, gwydn yma yng Nghymru.
Mae'r rhai ohonoch sy'n gweithio yn y sector amaethyddol yn ganolog i'r ateb. Gan weithio gyda'n gilydd, mae angen i ni fynd ymhellach nag yr ydym wedi'i wneud o'r blaen, herio ein gilydd yn fwy nag yr ydym wedi'i wneud o'r blaen, ac mae angen i ni symud yn gyflym i wneud gwelliannau go iawn.
Mae hefyd yn wir y gall y ffordd rydyn ni'n rheoli tir, pridd a maetholion gael effaith ddofn ar ansawdd dŵr. Mae'r uwchgynhadledd hon yn ymwneud â chydnabod y realiti hwn – ac ymateb iddo.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi miliynau mewn gwella ansawdd dŵr ac mae wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cefnogi rhagor o gymorth i Fwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru gyda £550,000 ychwanegol — gan ariannu'r gosod monitorau ansawdd dŵr amser real i fynd i'r afael â llygredd maetholion yn ogystal â Chydlynydd Maetholion Morol pwrpasol.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn chwarae rhan ganolog mewn gwelliannau yn y dyfodol. Mae'r SFS yn cynnwys Gweithredoedd Cyffredinol ar iechyd pridd, rheoli plâu integredig a chynnal a chadw cynefinoedd – ynghyd â'r cyngor a'r arweiniad cywir, bydd y rhain i gyd yn sicrhau manteision i ansawdd dŵr.
Bydd Uwchgynhadledd Dŵr ddilynol yn cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni i barhau i ysgogi cynnydd ar y camau gweithredu wedi'u nodi yn y digwyddiad ddydd Iau.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
Gyda'n gilydd gallwn fynd i'r afael â'r her a dangos nad yw ffermio a diogelu dŵr yn groes i’w gilydd – maen nhw'n rhan o'r un dyfodol.
