Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ar ôl cyfnod o weld perfformiad yn gostwng a nifer cynyddol o gleifion yn aros yn hirach na 62 o ddiwrnodau i’w triniaeth ddechrau, cynhaliwyd uwchgynhadledd Weinidogol i drafod yr hyn y mae angen i’r system ei wneud, ar y cyd ac yn unigol, i ymateb i hyn.

Gofynnwyd i’r byrddau iechyd gyflwyno’r cynnydd a wnaed yn erbyn eu cynlluniau adfer gwasanaethau canser, gan gynnwys eu camau gweithredu i roi sylw i’r ôlgroniad a chyrraedd y targed canser, a hynny ar yr un pryd â thrawsnewid eu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn fwy cynaliadwy.

Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir yn ei hanerchiad, gan ddweud ei bod yn credu bod ein gwasanaethau canser yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol erioed. Dywedodd nad oedd unrhyw amheuaeth bod gwasanaethau canser yn ei chael yn anodd ymdopi â’r cynnydd sylweddol mewn galw sy’n digwydd fel rhan o effeithiau’r pandemig, er gwaethaf holl ymdrechion diflino pawb sy’n gysylltiedig â nhw.

Er bod nifer o faterion lleol y mae angen rhoi sylw iddynt, mae’n amlwg hefyd bod rhai materion rhanbarthol a chenedlaethol y mae angen defnyddio dull gweithredu gwahanol i’w datrys. Nod yr uwchgynhadledd oedd nodi’r holl faterion, gan dynnu sylw at feysydd lle y gwelwyd gwelliannau, er mwyn deall pa ddysgu y gellir ei rannu, ac i chwilio am atebion i rai o’r prif bryderon o fewn y gwasanaeth.

Cyd-destun strategol

Cafodd y cyfeiriad polisi ei osod yn Cymru Iachach, ac mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn disgrifio’r canlyniadau a’r safonau disgwyliedig mewn gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn nodi 22 o ddisgwyliadau cynllunio ac atebolrwydd sydd i’w gweithredu mewn modd cyson ar draws Cymru.

Mae 21 o Lwybrau Delfrydol Cenedlaethol sy’n disgrifio’r daith ddelfrydol i gleifion ar y llwybrau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i wasanaethau canser y byrddau iechyd sicrhau bod y llwybrau delfrydol hyn yn cael eu gweithredu’n llawn, gan leihau unrhyw amrywiadau ynddynt a hefyd y cyfnodau aros i gleifion yn y pen draw.

Cafodd Cynllun Adfer Gofal a Gynlluniwyd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022. Mae’r adran ar ganser yn y cynllun adfer yn glir iawn ynglŷn â’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd yn syth er mwyn cynyddu gweithgarwch.

Mae ein dull gweithredu ar gyfer adfer gwasanaethau canser yn canolbwyntio ar leihau’r niferoedd sydd wedi cronni ar y rhestr drwy eu bod wedi aros yn rhy hir ar eu llwybr canser. Fel rhan o hynny, rhaid sicrhau bod system ar waith i gyfathrebu’n glir â chleifion ar hyd eu llwybr canser cyfan, a rhaid gweithio hefyd tuag at ddefnyddio dull gweithredu mwy cynaliadwy ar gyfer llwybrau sydd wedi eu trawsnewid i ddarparu gwasanaethau gofal canser cadarn, effeithlon, ac amserol yn y dyfodol.

Mae Rhwydwaith Canser Cymru wrthi’n datblygu Cynllun Gweithredu ar Wasanaethau Canser er mwyn cefnogi gwasanaethau ymhellach.

Yr heriau a drafodwyd

Mae sleidiau’r bwrdd iechyd wedi eu hatodi wrth yr adroddiad hwn, a dyma nodi prif elfennau’r drafodaeth a gafwyd.

Mae hyd a maint y rhestr aros ar gyfer triniaeth canser yn parhau i dyfu oherwydd y cynnydd yn y niferoedd sy’n cael eu hatgyfeirio, prinder staff, a’r llwybrau a ddiwygiwyd yn sgil y pandemig. Mae’r byrddau iechyd yn ei chael yn anodd ymateb i’r galw presennol.

Mae perfformiad y ddarpariaeth ganser yn erbyn y targed wedi disgyn i’w lefel isel presennol, sef 52.5%, ar gyfer mis Awst. Er bod byrddau iechyd yn trin mwy o gleifion, gwelwyd cynnydd yng nghanran y cleifion sy’n cael eu trin heb fod hynny o fewn y targed, gan effeithio ar y perfformiad. Mae’r ganran sy’n cael ei thrin heb fod hynny o fewn y targed wedi ei phwysoli gan faterion o fewn lleoliadau tiwmor allweddol, sef wroleg, gastroberfeddol isaf/uchaf, y fron, gynaecolegol, yr ysgyfaint, a’r croen.

Mae’r galw ar wasanaethau canser, fel y mae’n cael ei fesur gan nifer y cleifion sy’n ymuno â llwybr canser, bellach yn uwch nag yr oedd cyn COVID. Nid yw’r cynnydd yn y galw yn gyson ar draws yr holl leoliadau tiwmor. Yn yr un modd, mae nifer y cleifion sy’n cael eu trin yn uwch na’r lefelau cyn COVID, gyda’r lefel driniaeth yn aml dros 120% o’r lefelau cyn COVID. Mae’r cynnydd mewn lefelau gweithgarwch yn amrywio ar draws yr holl leoliadau tiwmor:

  • Gastroberfeddol isaf – Cynnydd o 38.8% yn y galw – cynnydd o 11.8% mewn gweithgarwch
  • Gynaecoleg – Cynnydd o 11.8% yn y galw – cynnydd o 15.4% mewn gweithgarwch 
  • Y Fron – Cynnydd o 7.9% yn y galw – cynnydd o 8.7% mewn gweithgarwch
  • Gastroberfeddol Uchaf – Cynnydd o 22.5% yn y galw – cynnydd o 10.8% mewn gweithgarwch
  • Y Croen – Cynnydd o 14.7% yn y galw – cynnydd o 53.6% mewn gweithgarwch 
  • Wroleg – gostyngiad o -9.5% yn y galw – gostyngiad o -0.1% mewn gweithgarwch

Mae’n ymddangos bod cyfnodau aros yn cael eu gyrru gan oedi sy’n digwydd yn rhan gyntaf y llwybr, sef yn yr apwyntiad claf allanol cyntaf a’r ddarpariaeth ddiagnostig. Mae strategaeth ddiagnostig yn cael ei datblygu, ac fe’i cyhoeddir ar ôl cynnal ymgynghoriad.

Ymrwymiadau

Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir ynglŷn â’i disgwyliadau ar gyfer y gwasanaeth 

We must look to work differently, making use of the technology available to us and working together across health board boundaries and regions. Working differently includes looking at ways to maximise the resources we already have, pooling those resources on a regional basis, utilising tools such as FIT to help streamline pathways, ensuring straight to test pathways are embedded in our primary care provision. We need to make better use of sharing our successes and learning from each other.

Cytunwyd ar yr ymrwymiadau canlynol, a bydd y cynnydd a wneir yn eu herbyn yn cael ei fonitro’n agos:

  • Bydd y byrddau iechyd yn lleihau nifer y bobl sy’n aros dros 62 o ddiwrnodau i’w triniaeth ddechrau yn unol â thrywyddau cytûn.
  • Bydd y byrddau iechyd yn cynllunio ar gyfer cyrraedd 70% o berfformiad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
  • Bydd y byrddau iechyd yn gweithredu llwybrau mynd am brawf yn syth ac yn sefydlu clinigau diagnostig un stop, lle bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn lleihau’r angen am glinigau cleifion allanol, yn ogystal â hyd yr amser y mae’r claf yn ei dreulio yn y llwybrau diagnostig.
  • Bydd y byrddau iechyd yn gweithredu’r llwybrau delfrydol cenedlaethol, a bydd hyn yn helpu i symleiddio llwybrau, gyda ffocws penodol ar ran flaen y llwybr.
  • Bydd y byrddau iechyd yn cynllunio eu gweithlu canser i fodloni’r galw a ragwelir, yn benodol o ran oncoleg glinigol a meddygol, nyrsys canser arbenigol, ffiseg feddygol, a radiograffwyr therapiwtig.
  • Bydd y byrddau iechyd yn parhau i ddatblygu eu deallusrwydd busnes er mwyn gwella eu dealltwriaeth a’u gallu i reoli gwasanaethau.
  • Bydd y byrddau iechyd yn cynnal lefel gyfathrebu effeithlon a gwasanaethau cymorth priodol ar gyfer eu holl gleifion, ond yn benodol y rheini sydd wedi aros dros 62 o ddiwrnodau. Mae Cynghrair Canser Cymru wedi cytuno i helpu’r byrddau gyda hyn.
  • Bydd Rhwydwaith Canser Cymru a’r tîm Adfer a Gwella Gofal a Gynlluniwyd yn rhannu enghreifftiau o arferion da ar draws yr holl fyrddau iechyd, gan hwyluso’r dysgu sy’n deillio ohonynt.
  • Bydd y byrddau iechyd yn cydweithio ar sail ranbarthol a chenedlaethol i gefnogi’r gwaith o ymateb i brinder yn y gweithlu a bylchau mewn capasiti ar lefel leol.
  • Bydd y tîm Adfer a Gwella Gofal a Gynlluniwyd yn arwain y gwaith o ddatblygu atebion rhanbarthol a chydgysylltu mentrau cenedlaethol.
  • Bydd Rhwydwaith Canser Cymru yn cynhyrchu cynllun gweithredu ar wasanaethau canser.
  • Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn bod Uwchgynhadledd Ganser Weinidogol arall yn cael ei chynnal ymhen chwe mis er mwyn ailasesu sefyllfa gwasanaethau, a’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn yr ymrwymiadau hyn.