Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mercher 26 Ebrill), mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi galw am gynnal uwchgynhadledd i sicrhau bod gwerslyfrau Cymraeg ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y digwyddiad arbennig yn ymdrin â phryderon ynglŷn â chyflenwi a chreu gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg ar gyfer y cymwysterau a'r cwricwlwm newydd i Gymru sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.


Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CBAC, Cymwysterau Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, consortia addysg, CYDAG ac eraill i roi sylw i sicrhau bod y gwerslyfrau a deunyddiau iawn ar gyfer system addysg Cymru yn cael eu darparu.
Bydd yr uwchgynhadledd yn edrych ar y canlynol:
  • Y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag adnoddau Cymraeg.
  • Nodi'r heriau a'r materion ynghylch dyfodol gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg mewn perthynas â diwallu anghenion cwricwlwm a chymwysterau newydd.
  • Rhoi cyfle i syniadau gael eu cynnig am y ffordd ymlaen.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rydyn ni ar ganol newid mawr ym maes addysg yng Nghymru, wrth inni ddatblygu cwricwlwm newydd a threfniadau asesu newydd.

“Roedd yn destun pryder imi glywed bod prinder o werslyfrau Cymraeg ar gael.  Dw i ddim yn disgwyl i blant sy'n sefyll eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg fod o dan unrhyw anfantais.  Rydyn ni wedi cydweithio â CBAC i edrych ar y mater hwn, a bellach mae yna arferion newydd sydd wedi helpu i leihau'r bwlch rhwng darparu gwerslyfrau Cymraeg a Saesneg.

“Ond, rwy'n cydnabod mai atebion dros dro yw'r rhain wrth inni ddiwygio'r cymwysterau ar hyn o bryd. Dw i ddim yn fodlon ar y sefyllfa bresennol.  Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd pobl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i gynnig atebion hir dymor.”