Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Yn dilyn cyfnod o ddirywiad ym mherfformiad offthalmoleg a nifer cynyddol o gleifion yn aros yn hirach na'u dyddiad adolygu clinigol am eu hapwyntiadau, cynhaliwyd uwchgynhadledd Weinidogol i drafod yr hyn sydd angen i'r system ei wneud ar y cyd ac yn unigol i ymateb i’r sefyllfa.

Gofynnwyd i fyrddau iechyd i gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer gwella perfformiad ac adfer eu gwasanaethau offthalmoleg yn erbyn nifer o themâu allweddol gan gynnwys camau gweithredu i fynd i’r afael â chleifion sy’n aros, a chyrraedd targed R1 gan drawsnewid eu gwasanaethau i fod yn gynaliadwy ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau rhanbarthol. Y tair thema ar gyfer trafod oedd:

  • cataractau
  • glawcoma
  • retina meddygol

Cyd-destun strategol

Agorwyd yr uwchgynhadledd gan Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Gwella ac Adfer Gofal Cynlluniedig. Eglurodd y rhesymeg ar gyfer yr uwchgynhadledd, gan nodi’r canlyniadau dymunol.

Disgrifiodd wasanaeth sy'n ei chael hi'n anodd adfer o'r pandemig gyda rhestrau aros yn tyfu a chynyddu'r risg y bydd cleifion yn colli eu golwg neu’n dioddef niwed parhaol.

All y gwasanaeth ddim parhau i wneud yr un peth o hyd, rhaid newid er mwyn adfer cydbwysedd y system unwaith eto. Mae byrddau iechyd wedi cael y dasg o ganfod a
gweithredu ffyrdd newydd o weithio. Mae angen i hyn gynnwys gweithio'n ddoethach i glirio'r cleifion sy’n aros trwy gynyddu gweithgarwch rhithwir, defnyddio staff i weithio ar frig eu trwydded a mwy o ddefnydd o wasanaethau cymunedol. Lle bo modd, dylai pob bwrdd iechyd ystyried darparu gwasanaethau’n rhanbarthol a rhannu staff ac offer arbenigol.

Mae'r cynllun cenedlaethol ar gyfer Trawsnewid Gofal a Gynlluniwyd a Lleihau Rhestrau Aros 2022-2025 a gyhoeddwyd fis Ebrill diwethaf yn nodi dyhead clir iawn ar gyfer adferiad. Mae'n glir iawn am y camau y mae angen eu cymryd nawr i gynyddu gweithgarwch. Mae ein dull adfer yn canolbwyntio ar gael gwared ar yr ôlgroniad o bobl sy'n aros yn rhy hir am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf, ac am apwyntiadau dilynol a thriniaeth, yn ogystal â gweithio tuag at ddull mwy cynaliadwy sy’n defnyddio modelau gofal sydd wedi’u trawsnewid, ymgysylltu pellach gan
ddefnyddio'r sector cymunedol a ffyrdd arfer gorau o weithio dan arweiniad clinigol a fydd yn cyflawni llwybrau a gwasanaethau mwy cadarn, effeithlon, diogel a phrydlon.

Ym mis Medi 2022, cytunodd y Gweinidog mewn egwyddor ar delerau gwasanaeth contract optometreg newydd a'r costau ariannol cysylltiedig a fydd yn caniatáu gwelliannau gwirioneddol i gleifion. Gyda hyn a'r buddsoddiad mewn offthalmoleg sydd eisoes wedi'i wneud, mae disgwyl y gellir cynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros.

Trafod heriau

Cyflwynodd yr Uned Gyflawni ddadansoddiad manwl o'r rhestrau aros presennol. Ym Medi 2022, roedd 47.5% o gleifion a ddosbarthwyd yn R1 yn aros o fewn eu dyddiad adolygu targed yn erbyn targed o 95%. Mae 113,049 o gleifion yn aros yn hirach na'r dyddiad adolygu clinigol y cytunwyd arno. O'r rhain, mae 79,070 (69.9%) yn cael eu dosbarthu fel Ffactor Risg Iechyd (HRF) R1. Roedd cyfanswm o 134,025 o lwybrau agored i gleifion, lle aseswyd y claf fel Ffactor Risg Iechyd R1, yn aros am apwyntiad cleifion allanol.

Ar lefel Cymru gyfan mae nifer y cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ond nid yw hyn yn gyson ar draws pob bwrdd iechyd gyda rhai yn sylweddol uwch na'r lefelau cyn y pandemig (Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg a Phowys) tra bod eraill yn parhau i fod yn is (Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, a Chaerdydd a'r Fro). Fodd bynnag, mae lefelau gweithgarwch cyffredinol cleifion allanol yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Unwaith eto mae amrywiaeth ar draws byrddau iechyd gyda Hywel Dda, Cwm Taf
Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro yn ei chael hi'n anodd mynd yn ôl i lefelau craidd.

Tra bo’r senario hwn yn parhau, bydd y rhestr aros yn parhau i dyfu. Mae angen deall beth sy'n gyrru'r amrywiad hwn a dysgu gan y byrddau iechyd hynny sydd wedi cynyddu eu lefelau gweithgarwch.

Hyd yn oed wrth ystyried blaenoriaethu clinigol, mae amrywiaeth sylweddol hefyd yn y niferoedd sy'n cael eu trin yn eu tro ar draws byrddau iechyd gydag Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro yn trin tua 30% o'r garfan sy’n aros dros 52 wythnos. Ni fydd yr un o'r byrddau iechyd yn cyflawni'r uchelgais Weinidogol o beidio â disgwyl mwy na 52 wythnos am apwyntiad claf allanol erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei disgwyliadau yn glir yn ei hanerchiad. Dywedodd fod yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau Offthalmig yn sylweddol ac yn peri pryder ac yn dangos bod byrddau iechyd yn cael trafferth gweld a thrin cleifion yn brydlon, a gofynnodd beth arall y gellir ei wneud i gynyddu nifer y cleifion sy'n cael eu gweld. Roedd hi'n poeni am y cynnydd yn y niwed a nodir yn sgil yr aros hir a phwysleisiodd hefyd mai offthalmoleg yw'r arbenigedd sy'n perfformio waethaf yn erbyn uchelgais 52 wythnos newydd ar gyfer cleifion allanol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Mae'r niferoedd ar y rhestr aros Offthalmoleg yn ei chyfanrwydd dros 90,000 erbyn hyn ac wedi tyfu dros 12,000 ers i adolygiad Pyott ddod i ben ym mis Tachwedd 2021. Erbyn diwedd Rhagfyr, amcangyfrifir y bydd dros 4,800 o gleifion yn aros dros 104 wythnos am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf a mwy na 19,500 yn aros dros 52 wythnos. Tynnodd y Gweinidog sylw at y gwelliannau sylweddol sydd i’w gweld ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro a gofynnodd a allai byrddau iechyd gydweithio er mwyn dysgu gan eraill.

Daeth y Gweinidog i ben drwy ofyn i fyrddau iechyd ystyried:

  • Sut mae modd cynyddu nifer y cleifion cataract sydd ar bob rhestr?
  • Beth ellir ei wneud i ranbartholi gwasanaethau?
  • Pa wasanaethau y gellid eu cefnogi gan optometreg gymunedol a sut y gellir defnyddio nyrsys, optometryddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hanfodol eraill yn fwy effeithiol? 
  • Pa fath o beth yw gwasanaeth gofal llygaid cynaliadwy. A beth sydd angen digwydd yn genedlaethol, rhanbarthol, cymunedol a lleol i gyflawni hyn?

Cyflwynodd Gwyn Williams, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg a Llywydd Coleg Brenhinol Offthalmoleg ei weledigaeth ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru gan nodi’r argymhellion fel y'u nodir gan adroddiad Pyott a gomisiynwyd gan y Rhaglen ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd. Mae Adroddiad Pyott yn tynnu sylw at sut mae angen i'n gwasanaethau ddatblygu i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i gleifion yn ogystal â'n galluogi i ailddiffinio gofal llygaid yng Nghymru. Tynnodd Gwyn sylw at yr enghreifftiau rhagorol o arfer da yng Nghymru yn ogystal â deg argymhelliad allweddol i ddarparu gwasanaeth offthalmig sy’n gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol. Roedd neges Gwyn yn glir – mae angen i ni weithredu nawr.

Gofynnwyd i fyrddau iechyd am gynlluniau sy'n ymgorffori argymhellion adroddiad Pyott. Fodd bynnag, roedd eu gweithredu wedi bod yn araf ac felly nid ydynt yn ddigon aeddfed i allu dangos manteision go iawn i'r gwasanaeth na'r cleifion. O ganlyniad, mae'r perfformiad yn parhau i fod yn anfoddhaol.

Mae Declan Flanagan, Offthalmolegydd Ymgynghorol yn nodi rhai camau y gallai pob bwrdd iechyd eu gwneud ar unwaith i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Tynnodd sylw at y canllawiau a gyhoeddwyd gan y Coleg Brenhinol Offthalmoleg a GIRFT ar sut i ddarparu nifer uchel o lawdriniaethau cataract arferol. Mae'r canllawiau'n egluro y dylai pob rhestr safonol ddarparu o leiaf wyth triniaeth fesul rhastr. Ar hyn o bryd mae'r byrddau iechyd yn darparu rhwng 3 a 6. Teimlwyd bod yr amrywiad hwn ar draws byrddau iechyd yn nifer y triniaethau cataract fesul rhestr yn annerbyniol. Yn amlwg, mae angen sicrhau effeithlonrwydd yn y gwasanaeth er mwyn dod â gweithgarwch i lefelau sy’n cymharu â gweddill y DU.

Trafodaeth

Cafwyd trafodaeth dan arweiniad clinigwyr ynghylch y ffordd orau y gellid cefnogi adferiad y gwasanaeth. Roedd y drafodaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Yng Nghymru mae'r nifer lleiaf o offthalmolegwyr y pen o'i gymharu â gweddill y DU ac mae problemau difrifol o ran recriwtio a chadw.
  • Nid yw rhannau helaeth o'r ystad yn addas i'r diben ac felly maent yn cyfyngu ar weithgaredd.
  • Newidiadau y gellir eu gwneud heb aros am fuddsoddiad cyfalaf mewn canolfannau newydd.
  • Gellir adleoli gwasanaethau o fewn yr ystadau presennol, gan gyfuno adnoddau ar sail ranbarthol, a dylid gwneud hyn nawr
  • Byddai gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau optometrig cymunedol a darparu cyfleoedd i hyfforddi ac uwchsgilio yn helpu i recriwtio a chadw staff, ac maent yn bethau y gallwn weithredu arnynt nawr.
  • Dylai byrddau iechyd ystyried egwyddorion GIRFT.
  • Gwella prosesau atgyfeirio a rhyddhau, defnyddio cyd-gymorth a gweithio rhanbarthol.
  • Sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn effeithlon ar yr adeg briodol a chan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol – defnyddio optometryddion y stryd fawr. 
  • Cyflawni llawdriniaethau cataract arferol o fewn uchafswm o 30 munud o amser theatr, trwy symleiddio prosesau trosiant. Yn aml, bydd gofyn i staff hwyluso trosiant cyflymach ac nid yw'n berthnasol i achosion mwy cymhleth.
  • Defnyddio gwasanaethau optometreg gofal sylfaenol i adolygu cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth cataract syml / arferol.
  • Gweithredu’r argymhellion o Adolygiad Pyott y gellir eu cyflwyno nawr yn gyflym.
  • Mae mynediad at wybodeg gywir ac amser real yn hollbwysig wrth reoli gwasanaethau offthalmig.
  • Dylid ystyried ehangu gwasanaethau cornbilennol arbenigol.
  • Dylid ystyried sut a phryd y dylid datblygu gwasanaeth ar gyfer croesgysylltu i gynnwys addysg briodol i optometryddion cymunedol.
  • Gwasanaeth anaesthetig yn y theatr – Ar gyfer gwasanaeth cataract cynaliadwy, dylid argymell llwybr cataract symlach gyda gwasanaeth anaesthesiolegol a gytunwyd.
  • Cynyddu nifer y Canolfannau Rhagnodi Annibynnol a’r Canolfannau Diagnosteg a Thriniaeth Offthalmig (ODTCs).

Daeth y drafodaeth i'r casgliad, o ystyried yr hinsawdd ariannol anodd yr ydym ynddi ar hyn o bryd, na allwn ddibynnu ar fwy o gyllid i ddarparu'r atebion. Mae angen i'r gwasanaeth newid ac mae angen i'r newid hwnnw ddigwydd nawr. Mae argymhellion Pyott wedi rhoi glasbrint i ni o'r hyn sydd angen ei newid, ac mae'n ddyletswydd arnom i wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Ymrwymiadau

Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir am yr hyn mae’n ei ddisgwyl gan y gwasanaeth: 

Allwn ni ddim gwneud mwy o'r un peth a disgwyl canlyniadau gwahanol. Rhaid i ni geisio gweithio'n wahanol, gan ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael i ni a chydweithio ar draws ffiniau a rhanbarthau'r byrddau iechyd. Mae gweithio'n wahanol yn cynnwys edrych ar ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd gennym yn barod, lle bo hynny'n bosibl. Mae angen i ni rannu ein llwyddiannau yn well a dysgu oddi wrth ein gilydd.

Mae'r disgwyliadau a'r camau canlynol wedi eu pennu:

  • Dylai'r perfformiad yn erbyn y mesur R1 fod yn 60% erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
  • Erbyn diwedd Rhagfyr, ni ddylai unrhyw glaf aros dros 52 wythnos am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf.
  • Nid oes unrhyw glaf yn aros dros 104 wythnos am driniaeth erbyn diwedd Mawrth.
  • Lle bo modd, bydd byrddau iechyd yn ceisio cynyddu eu cynhyrchiant a'u heffeithlonrwydd o ran cataractau.
  • Cytunodd timau offthalmoleg ledled Cymru i ddatblygu a chyflwyno cynnig a fyddai'n cyflymu'r ddarpariaeth ranbarthol.
  • Gweithredu canllawiau cenedlaethol GiRFT a’r Coleg Brenhinol.
  • Byrddau iechyd i gynllunio a phenderfynu pa weithlu Offthalmoleg fydd yn angenrheidiol i ateb y galw a ragwelir.
  • Byrddau iechyd i barhau i ddatblygu eu deallusrwydd busnes  er mwyn gwella eu gafael a'u rheolaeth dros wasanaethau.
  • Byrddau iechyd ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu credadwy a llinell amser ar gyfer Open Eyes a fydd yn cael ei gytuno a'i oruchwylio gan y Tîm Gwella ac Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd.
  • Byrddau iechyd i sicrhau gwasanaethau cyfathrebu a chymorth da i bob claf. 
  • Y Tîm Gwella ac Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd i rannu enghreifftiau o arfer da ar draws pob bwrdd iechyd a hwyluso dysgu a gweithredu cenedlaethol.
  • Byrddau Iechyd i gydweithio ar sail ranbarthol a chenedlaethol i gefnogi prinder gweithlu a bylchau mewn capasiti ar lefel leol.
  • Byrddau Iechyd i bennu atebion rhanbarthol y gellir eu cyflawni ar frys, bydd y Tîm Gwella ac Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd yn goruchwylio'r cynnydd gan gydlynu unrhyw fentrau cenedlaethol angenrheidiol. 
  • Comisiynu cynllun hanfodol dan arweiniad clinigol ar gyfer gwasanaethau. Offthalmig ledled GIG Cymru sy'n adeiladu ar adroddiad Pyott. Bydd yn pennu, disgrifio a manylu ar sut y dylai'r system bresennol bontio a thrawsnewid yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol fesul cam i sicrhau gwelliannau tymor byr, canolig a hirdymor a sicrhau model cynaliadwy yn y dyfodol.