Neidio i'r prif gynnwy

Camau gweithredu yn dilyn uwchgynhadledd

Cododd y camau gweithredu canlynol o’r uwchgynhadledd:

  • LlC i drefnu cyfarfod brys gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas ag Abergele.
  • LlC i drefnu cyfarfod brys gyda Bae Abertawe mewn perthynas â rhestr o bethau na ddylai fyth digwydd Treforys.
  • LlC i egluro’r polisi ynglŷn â blaenoriaethu a thrin pawb yn eu tro. 
  • LlC i ysgrifennu i bob bwrdd iechyd i gadarnhau ein disgwyliad bod gwelyau orthopedig dewisol yn cael eu clustnodi y gaeaf hwn a phob gaeaf.
  • Y tîm adfer i adolygu a monitro cynlluniau’r byrddau iechyd.
  • LlC i gadarnhau’r disgwyliadau o ran trin pawb yn eu tro, achosion dydd, a gweithgarwch, yn ogystal â’r targedau.

Mae’r camau gweithredu hyn i gyd wedi cael eu cwblhau.

Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir iawn yn y cyfarfod bod y blaenoriaethau ar gyfer orthopedeg fel a ganlyn:

  • Gweithredu cynigion GiRFT a’r llwybrau cenedlaethol, gan gadw mewn cysylltiad â’r byrddau iechyd ynglŷn â hyn.
  • Trin pawb yn eu tro – sicrhau bod y rheini sydd wedi aros yn hiraf yn cael eu trin.
  • Sicrhau bod capasiti gweithgarwch achosion dydd mor effeithlon â phosibl – mae swyddogion yn monitro hyn yn fisol.
  • Canolbwyntio ar y rheini sydd wedi aros dros 104 o wythnosau er mwyn dileu’r achosion hyn o’r rhestrau erbyn Gwanwyn 2023.

Gwelwyd y cynnydd canlynol eisoes:

  • Mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu i’r byrddau iechyd i amlinellu’r sefyllfa o ran cleifion sy’n aros am gyfnod hir, gan ddweud y dylid rhoi’r rheini sydd wedi aros dros 104 o wythnosau yn yr un categori â chleifion brys wrth neilltuo apwyntiadau.
  • Gwelwyd gwelliant o ran nifer y llwybrau agored lle mae pobl yn aros dros 104 o wythnosau, gyda’r nifer ddiwedd mis Gorffennaf yn cael ei nodi fel 17,408, sef y nifer isaf ers mis Rhagfyr 2021. Rydym yn disgwyl gweld gwella pellach wrth i’r byrddau iechyd barhau i weithredu a chynyddu’r cyfraddau trin pawb yn eu tro, gan sicrhau bod y cleifion sydd wedi aros yn hiraf yn cael eu gweld.
  • O ran orthopedeg, mae’r data rheoli diweddaraf ar lefel Cymru gyfan yn dangos bod y gyfradd trin pawb yn eu tro yn 40% - mae hynny’n cymharu â 26% ar gyfer arbenigeddau eraill. Felly, gwelwyd gwelliant pendant ers yr uwchgynhadledd. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfradd trin pawb yn eu tro gorau ar gyfer cleifion allanol orthopedig, gyda 55% o gleifion yn dod o’r cohort.
  • Mae’r tabl isod yn dangos y gweithgarwch cleifion mewnol ac achosion dydd fesul bwrdd iechyd yn ystod y pum mis diwethaf, o’i gymharu â’r un mis cyn COVID (2022 o’i chymharu â 2019).

Gweithgarwch cleifion mewnol ac achosion dydd gan y bwrdd iechyd

Gweithgarwch cleifion mewnol ac achosion dydd gan y bwrdd iechyd (%)
    Ebrill Mai Mehefin Gorffennaf Awst
ACUHB Achosion dydd 65 58 87 60 96
  Cleifion mewnol 72 87 74 78 126
  Wedi’u cyfuno 68 72 80 69 108
BCUHB Achosion dydd 52 58 50 46 76
  Cleifion mewnol 54 75 73 70 54
  Wedi’u cyfuno 53 66 60

57

65
C&VUHB Achosion dydd 32 48 33 47 56
  Cleifion mewnol 42 62 59 58 59
  Wedi’u cyfuno 36 54 45 51 57
CTMUHB Achosion dydd 46 62 61 33 44
  Cleifion mewnol 55 52 58 46 55
  Wedi’u cyfuno 50 57 59 39 49
HDUHB Achosion dydd 46 40 60 72 124
  Cleifion mewnol 29 28 32 29 48
  Wedi’u cyfuno 38 35 47 51 88
PtHB Achosion dydd 32 48 57 105 55
  Cleifion mewnol  n/a n/a n/a n/a n/a
  Wedi’u cyfuno 32 48 57 105 55
SBUHB Achosion dydd 84 67 81 95

103

  Cleifion mewnol 52 74 63 87 69
  Wedi’u cyfuno 68 70 72 92 88
Cymru Achosion dydd 51 54 61 57 79
  Cleifion mewnol 52 64 61 60 70
  Wedi’u cyfuno 52 59 61 58 75

Gallai data gael eu diwygio

  • Mae gan Hywel Dda gapasiti ychwanegol yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Mae dwy theatr dydd newydd a ddylai ddarparu hyd at 4,600 o driniaethau ychwanegol y flwyddyn. Bwriedir i’r ddwy theatr ddechrau gweithio ganol mis Hydref.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ad-drefnu gwasanaethau orthopedig o fewn y bwrdd iechyd er mwyn darparu’r than fwyaf o driniaethau orthopedig rheolaidd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gan wneud y gwaith mwy cymhleth yn Nhreforys.
  • Mae Cwm Taf Morgannwg yn canoli gwaith orthopedig ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan wneud mwy o weithgarwch achosion dydd ar safle Ysbyty’r Tywysog Siarl.
  • Mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer capasiti ychwanegol yn y Gogledd, o bosibl yn Abergele.