Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bu'r Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, yn cynnal Uwchgynhadledd Sgiliau yng Ngogledd Cymru, gan ddod ag arweinwyr allweddol ynghyd i baratoi gweithlu'r rhanbarth ar gyfer cyfleoedd swyddi yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daeth arweinwyr diwydiant, darparwyr addysg a hyfforddiant a phartneriaid y llywodraeth i Gampws Llangefni Grŵp Llandrillo Menai er mwyn canolbwyntio ar sut all y rhanbarth fanteisio ar brosiectau trawsnewidiol fel gorsaf bŵer niwclear Wylfa a'r parth twf Deallusrwydd Artiffisial newydd.

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y blaenoriaethau sgiliau ar gyfer Gogledd Cymru, creu llwybrau clir i bobl ifanc allu cael at yrfaoedd lleol gwerth chweil, ac uwchsgilio gweithwyr sydd eisoes mewn cyflogaeth fel y gall pawb yng Ngogledd Cymru elwa ar y cyfleoedd hyn.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, yn y gynhadledd hefyd.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:

Mae'n adeg dyngedfennol i Ogledd Cymru. Mae Wylfa, twf ynni adnewyddadwy, a pharthau buddsoddi newydd yn ail-lunio'r economi. Ni allwn elwa'n llwyr ar y cyfleoedd hyn heb fynediad at y sgiliau cywir, ar yr adeg gywir, yn y lleoedd cywir.

Roedd y trafodaethau heddiw yn hanfodol yn hyn o beth. Pan mae'r llywodraeth, diwydiant a darparwyr addysg yn cydweithio ar gynllunio ac yn rhannu'r un uchelgais, mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa well i arwain y Deyrnas Unedig at ddyfodol gwyrddach a mwy ffyniannus.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r trafodaethau hanfodol a gwerthfawr hyn heddiw.

Ein nod yw creu llwybrau clir, hygyrch fel y gall pob dysgwr symud ymlaen, a bydd yr hyn a rannwyd heddiw yn ein helpu i sicrhau bod dysgwyr ledled Gogledd Cymru yn datblygu sgiliau lefel uwch, ac yn cyfrannu at economi gref a chynaliadwy yng Nghymru.

Dywedodd Matthew Franklin, myfyriwr Peirianneg Awyrennol Lefel 3 yng Ngholeg Menai: 

Dyma gyfnod cyffrous iawn i Ynys Môn ac mae'n galonogol iawn gweld cymaint o brosiectau mawr yn dod yma. Bydd y datblygiadau hyn, gobeithio, yn darparu cyfleoedd gwych i bobl ifanc lleol ddatblygu gyrfa lwyddiannus yn yr ardal y maent wedi'u magu ynddi.