Rydym yn awyddus i wella’r gyfnewidfa ar gyffordd 48.
Trosolwg
Pam rydym yn ei wneud
Cyffordd 48 yw’r brif gyffordd ar y ffordd i mewn i Lanelli a Phontarddulais.
Bydd uwchraddio’r gyffordd hon yn gwella diogelwch ac yn lleihau tagfeydd. Byddwn yn uwchraddio’r llwybr presennol ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Dechreuodd y gwaith yn ystod gwanwyn 2021. Rydym wedi:
- clirio'r llystyfiant
- adeiladu llethr ar yr A4138 a ffordd ymuno’r M4 tua'r gorllewin fel y gallwn ledu'r ffordd ac uwchraddio'r llwybr troed presennol er mwyn sicrhau y gall beicwyr a cherbydau difodur eraill ei ddefnyddio hefyd
- dechrau'r gwaith draenio
- dechrau gweithio ar y signalau traffig newydd a goleuadau stryd
- gosod y cyrbiau a'r palmentydd ar gyfer y ffordd
- gosod blychau pathewod
- gosod rhesi dros dro i gysylltu llystyfiant yn ystod y gwaith.
Camau nesaf
Yn ystod tymor yr hydref a'r gaeaf, byddwn yn:
- tirlunio ymyl y ffyrdd drwy blannu coed a phlanhigion i wella'r amgylchedd lleol ar gyfer rhywogaethau a warchodir
- lledu'r ffordd
- adeiladu llwybr troed a beicio cyfun
- gosod seilwaith gan gynnwys sylfeini arwyddion
- gosod dwythell ar gyfer gwaith uwchraddio'r system goleuadau stryd
- gosod system ddraenio dŵr wyneb.
Beth yr ydym yn ei wneud
Mae sawl agwedd ar gynllun yr A4138 a Chyffordd 48 sy’n cyfrannu at dagfeydd. Yn eu plith, y mae:
- ychydig iawn o gyfle i draffig sydd am droi i’r dde ar y ffordd ymuno â’r M4 tua’r dwyrain o’r A4138. Mae hyn yn rhwystr i draffig sy’n teithio i gyfeiriad yr Hendy
- cynllun yr A4138 o’r Hendy sydd â chyffordd ildio ar gyfer traffig sy’n ymuno â fordd ymuno’r M4 tua’r dwyrain
- cynllun ffordd ymuno’r A4138/M4 tua’r gorllewin yn ystod yr oriau brig. Mae’r gyffordd ar y lôn ar gyfer troi i’r dde yn golygu bod yn rhaid dibynnu ar ‘ewyllys da’ y traffig ar yr A4138 er mwyn gadael y ffordd ymadael yn ystod yr oriau brig
- mae disgyblaeth yn wael ar lonydd yr A4138 tua’r de o Gyffordd 48 ar yr M4 i gyfeiriad Llanelli. Nid yw’r lôn ar yr ochr dde yn cael ei defnyddio gymaint ag y gellid ei wneud
- nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer beicwyr.
Rydym am:
- leihau tagfeydd
- lleihau ciwiau yn ystod yr oriau brig
- gwella ansawdd aer
- lleihau rhwystredigaeth ymhlith gyrwyr
- gwella diogelwch
- gwella cysylltedd
- gwella amserau teithio
- gwella cyfleoedd i deithio’n llesol drwy gyfrwng llwybr cyd-ddefnyddio ar gyfer beicwyr a cherddwyr
- gwella croesfannau ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Dyma’r hyn a fydd yn cael ei wneud yn ystod y gwaith arfaethedig:
- lledu’r gerbytffordd er mwyn gwneud yr A4138 yn fwy effeithlon
- signalau traffig newydd ar y ffordd ymadael â’r M4 tua’r gorllewin ac ar gyffordd Tal-y-Coed
- mesurau i reoli’r lonydd ar yr A4138 tua’r de
- gwella pob un o gyffyrdd yr M4 â’r A4138
- gosod llwybr cerdded a beicio cyfun sy’n cysylltu â llwybr newydd rhwng yr A4138 a Llangennech
- gwelliannau amgylcheddol i gynefinoedd creaduriaid fel pathewod.