Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, wedi cymeradwyo cyllid newydd i adeiladu Canolfan Is-ranbarthol newydd ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cadarnhad o’r cyllid yn golygu y bydd gwaith i adeiladu’r prosiect yn dechrau’r mis nesaf.

Mae buddsoddiad o £16.050 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegiad i’r £1.869 miliwn a gyhoeddwyd eisoes i ariannu’r uned o’r radd flaenaf i ofalu am fabanod sâl a babanod sydd wedi cael eu geni’n gynnar yn y Gogledd.  

Dywedodd Vaughan Gething:

“Bydd y Ganolfan Is-ranbarthol newydd ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig yn darparu gofal o’r safon uchaf a’r canlyniadau clinigol gorau i famau a’u babanod ledled y Gogledd, gan ganoli gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd.  

“Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu cyngor arbenigol gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a argymhellodd y dylai’r bwrdd iechyd gynllunio i ddarparu gofal dwys i’r newydd-anedig mewn un safle canolog yn y rhanbarth.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld cynnydd y prosiect hwn a datblygiad yr uned newydd”.

Mae gwaith paratoi ar y safle eisoes wedi dechrau a bydd buddsoddiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o £1.869 miliwn yn talu am uwchraddio seilwaith trydanol ar safle y Canolfan Is-ranbarthol newydd ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd a chrud cynnal symudol ychwanegol ar gyfer trosglwyddo’r babanod mwyaf difrifol wael a bregus.

Mae gwaith wedi dechrau hefyd i recriwtio’r tîm a fydd yn gweithio yn y Ganolfan gan gynnwys meddygon ymgynghorol y newydd-enedig. Yn ogystal, mae’r bwrdd iechyd yn nodi’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar deuluoedd ac a fyddai’n ddefnyddiol iddynt wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal newyddenedigol.

Disgwylir i’r safle newydd agor yn 2018.