Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r lefel gyffredinol o foddhad cleifion â'r GIG yn parhau i fod yn uchel iawn yn ôl canlyniadau arolwg blynyddol ar raddfa fawr a gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae arolwg Hanfodion Gofal wedi cael ei ddefnyddio i gasglu barn cleifion ynglŷn â'u profiadau wrth gael gofal.

Mae’n flwyddyn bontio eleni wrth i'r system fonitro newydd ar gyfer y Safonau Iechyd a Gofal a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2015 gael ei rhoi ar waith. Felly, hon yw'r flwyddyn olaf y caiff yr arolwg ei gyhoeddi yn y fformat hwn.

Cafodd yr arolwg ei gynnal yn holl ysbytai Cymru ac ymatebodd dros 7,700 o gleifion. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio i wella safonau gofal cleifion a phrofiad cyffredinol cleifion.

Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • roedd 99% o’r cleifion yn teimlo’u bod yn cael eu trin ag urddas a pharch
  • roedd 98% o’r cleifion yn teimlo’u bod yn cael preifatrwydd
  • roedd 98% o’r cleifion yn teimlo’u bod yn cael cymorth i fod mor annibynnol â phosibl
  • roedd 95% o’r cleifion yn teimlo’u bod yn cael gwybodaeth lawn am eu gofal
  • roedd 98% o'r cleifion yn teimlo'u bod yn ddiogel.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, am ganfyddiadau'r arolwg:

"Mae'r lefelau uchel hyn o foddhad cleifion yn galonogol iawn. Yn wir, cafodd 30 allan o’r 32 cwestiwn ymateb oedd dros 92%. Mae hyn yn newyddion da.

"Rwy'n falch o weld bod y bobl hyn yn teimlo eu bod nhw'n  cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod nhw'n teimlo'n ddiogel. Rwy'n cydnabod bod gwaith i'w wneud i sicrhau bod cleifion yn cael digon o gwsg a gorffwys er mwyn gwella. Byddwn ni'n ystyried sut y gallwn ni wella yn y maes hwn.

Er bod y canlyniadau hyn yn gadarnhaol ar y cyfan, sydd i'w ganmol, mae bob amser mwy o waith i'w wneud. Mae'n bwysig ein bod ni'n adeiladu ar y canlyniadau da hyn ac ein bod ni'n parhau i ddarparu'r ansawdd gofal y mae pobl Cymru yn ei haeddu."

Dywedodd yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio:

"Mae gan yr arolwg rôl bwysig wrth ddangos i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel ni, lle rydyn ni'n llwyddo. Ond, yn holl bwysig, mae e'n dangos inni lle y mae angen gwella pethau i’r bobl sy’n defnyddio’r GIG.

"Ryw'n falch iawn o ganlyniadau'r arolwg pwysig hwn. Mae'r lefelau uchel o foddhad cleifion yn dystiolaeth o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud bob dydd ar draws y GIG yng Nghymru."

Image removed.Gwyliwch Jean White yn sôn am yr arolwg ar ein sianel YouTube (dolen allanol)