Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi croesawu ystadegau newydd sy'n dangos perfformiad gwell gan y GIG mewn ystod o fesurau, er gwaethaf cynnydd yn y galw am wasanaethau ar hyd a lled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos: 

  • ymatebwyd i dros 80% o'r galwadau ambiwlans lle mae bywyd yn y fantol o fewn wyth munud, y nifer uchaf ar gofnod ers cyflwyno'r model clinigol newydd 
  • bod nifer y bobl sy'n profi oedi wrth drosglwyddo gofal o'r ysbyty yn parhau'n agos at y nifer isaf ar gofnod er gwaethaf cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol 
  • bod nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig ar ei isaf ers chwe blynedd 
  • bod canran uwch o gleifion wedi treulio llai na phedair awr yn yr holl gyfleusterau gofal mewn argyfwng o'r amser cyrraedd tan eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, ac fe arhosodd 922 yn llai o gleifion dros 12 awr o gymharu â'r mis blaenorol 
  • y cafwyd y perfformiad gorau ers tair blynedd ddiwedd mis Mawrth yn erbyn y targedau 26 wythnos a 36 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth 
  • bod perfformiad yn erbyn targed nifer yr atgyfeiriadau brys yr amheuir bod canser arnynt ar ei orau ers mis Tachwedd 2014 
  • bod y galw am wasanaethau'r GIG yn cynyddu ar gyfer pob gweithgarwch a mesur perfformiad sy'n cael eu monitro gan Ystadegau ar gyfer Cymru. 



Dywedodd Vaughan Gething: 

"Rydyn ni'n gweld gwelliant ar draws ystod o fesurau perfformiad gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn digwydd wrth i fwy a mwy o bobl geisio cael triniaethau drwy'r gwasanaeth iechyd sy’n cael eu cynnwys gan y mesurau hyn. 

"Rydyn ni’n buddsoddi mwy nag erioed yn y gwasanaeth iechyd. Eleni, rydyn ni wedi buddsoddi £240m yn ychwanegol yn ein gwasanaeth iechyd i fodloni'r twf parhaus yn y galw a chostau'r gwasanaethau. 

"Rwyf am ddiolch i staff y gwasanaeth iechyd am eu hymdrechion. Byddwn ni’n parhau i weithio i wella perfformiad ar gyfer cleifion, ond mae'r ystadegau hyn yn creu darlun cadarnhaol iawn i Gymru."