Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’r buddsoddiad mwyaf gan Lywodraeth Cymru sy’n targedu’r seilwaith gofal sylfaenol a chymunedol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyd at £68 miliwn o gyllid wedi’i ddynodi ar gyfer y canolfannau. Cyn y gall y gwaith adeiladu gychwyn, bydd angen cymeradwyo cynlluniau busnes a gyflwynir gan y byrddau iechyd lleol. Y disgwyl yw y bydd pob un o’r cynlluniau wedi’u cyflawni erbyn 2021. 

Dyma’r buddsoddiad mwyaf gan Lywodraeth Cymru sy’n targedu’r seilwaith gofal sylfaenol a chymunedol. 

Bwriad y gyfres o gyfleusterau arfaethedig yw gwella gallu pobl i gael gafael ar ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at eu cartrefi. Mae darparu cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal intregredig yn un o flaenoriaethau allweddol Symud Cymru Ymlaen. 

Bwriedir defnyddio nifer o wahanol ffyrdd o fuddsoddi yn y prosiectau - bydd hyn yn cynnwys adnewyddu ac ailddatblygu safleoedd sy’n bodoli’n barod, yn ogystal â chodi adeiladau newydd.  

Mae integreiddio yn elfen allweddol o’r cynlluniau newydd hyn, ac mae’r byrddau iechyd yn bwriadu gweithio gydag amryw o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a’r trydydd sector, i ddod ag ystod o wasanaethau cyhoeddus ynghyd mewn cymunedau.  

Bydd rhan gyntaf y cynlluniau yn golygu adnewyddu ac ailddatblygu rhai o safleoedd presennol y GIG, gan gynnwys y canlynol:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg 

Canolfan Iechyd Pen-clawdd

Clinig Cymunedol Murton
Canolfan Gofal Sylfaenol Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Canolfan Iechyd Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

Canolfan Iechyd a Llesiant TredegarCanolfan Adnoddau Dwyrain Casnewydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

Ailddatblygu Clinig/Ysbyty yng nghanol Sir Ddinbych
Canolfan Gofal Iechyd Sylfaenol Waunfawr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cardiff & Vale 

Canolfan Iechyd Maelfa
Datblygiad Canolfan Cogan
Meddygfa Pentyrch

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Canolfan Iechyd Tonypandy
Datblygiad Cam 2 Dewi Sant
Canolfan Gofal Sylfaenol Aberpennar

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
Canolfan Iechyd Abergwaun
Canolfan Gofal Integredig Cross Hands

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys  

Machynlleth – ailgynllunio ac ymestyn er mwyn creu canolfan gofal sylfaenol a chymunedol
Canolfan Gofal Sylfaenol Llanfair Caereinon
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae pobl yn yr unfed ganrif ar hugain  yn disgwyl cael eu trin mewn canolfannau gofal iechyd modern a chyfoes sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau o dan yr un to. Rydyn ninnau’n cytuno – a thrwy dargedu’r buddsoddiad fel hyn, y gobaith yw gwireddu’r cyfleoedd sydd ar gael i wneud  newidiadau i wasanaethau.“Rydyn ni’n ariannu dyfodol gofal iechyd yng Nghymru, a bydd y gyfres o brosiectau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran darparu gofal i bobl yn eu cymunedau eu hunain ac yn agosach at eu cartrefi.”