Neidio i'r prif gynnwy

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid y system rhoi organau drwy gyflwyno system feddal o optio allan yn 2015.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r adroddiad blynyddol heddiw yn dangos y canlynol:

  • Rhwng 1 Rhagfyr 2015 a 31 Mai 2016, rhoddodd 31 o bobl eu horganau ar ôl marw, gan roi cyfanswm o 60 o organau. Roedd 10 ohonynt yn gleifion yr ystyriwyd eu bod wedi rhoi cydsyniad tybiedig gan nad oeddent wedi cofrestru penderfyniad i naill ai optio i mewn neu optio allan - rhoddwyd dros hanner yr organau ganddynt, sef cyfanswm o 32.  Yn ystod yr un cyfnod yn 2014-15, rhoddodd 23 o bobl eu horganau.
  • Gostyngiad yn y nifer sy’n aros am drawsblaniad o 309 yn 2010-11 i 193 yn 2015-16 – sef gostyngiad o 38%.
  • Cynnydd o 50% yn nifer y cleifion sy’n byw yng Nghymru a gafodd drawsblaniad iau/afu o’i gymharu ag y llynedd.
  • Cynnydd o 19% yn nifer y cleifion sy’n byw yng Nghymru a gafodd drawsblaniad aren o’i gymharu ag y llynedd.
  • Cynnydd o 63% yn nifer y cleifion sy’n byw yng Nghymru a gafodd drawsblaniad cardiothorasig o’i gymharu ag y llynedd.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid y system rhoi organau drwy gyflwyno system feddal o optio allan yn 2015. Caiff pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na deuddeng mis ac sy’n marw yng Nghymru eu hystyried bellach fel pe baent wedi rhoi cydsyniad i roi organau, oni bai eu bod wedi optio allan. Mae hyn yn cael ei alw’n gydsyniad tybiedig.

Gall pobl sy’n dymuno bod yn rhoddwr organau gofrestru penderfyniad i optio i mewn neu wneud dim, a fydd yn golygu nad oes ganddynt wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organau. Gall y bobl hynny nad ydynt yn dymuno bod yn rhoddwr organau optio allan unrhyw bryd. 

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Roeddwn yn hynod o falch pan ddefnyddion ni ein pwerau deddfu newydd i newid y gyfraith ynghylch rhoi organau. Mae canlyniad ein camau gweithredu pendant yn dechrau dangos ac mae llawer i ymfalchïo ynddo yn yr adroddiad blynyddol heddiw. 

“Rydyn ni wedi gweld bod nifer yr organau a roddwyd wedi cynyddu ac mae 36% o boblogaeth Cymru, sef 1,113,090 o bobl, bellach ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau. Mae pethau’n datblygu fel y dylent.  Er hynny, tra bod pobl yn marw o hyd wrth iddynt aros am drawsblaniadau a allai achub eu bywydau, mae rhaid inni wneud mwy.

“Rydyn ni wedi gwneud ymdrech fawr i godi ymwybyddiaeth o’r newid yn y gyfraith sy’n ymwneud â rhoi organau ac mae’r cynnydd cyflym yn y niferoedd sydd bellach yn gwybod am y newidiadau yn dyst i’r gwaith hwnnw. Drwy'r adroddiad heddiw rydym yn gwybod bod 76% o bobl Cymru yn ymwybodol o’r newidiadau yn y system rhoi organau yn y wlad hon. Er hynny, mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i ledaenu’r neges i’r cyhoedd yng Nghymru ynghylch y mater hwn.

“Hoffwn annog pawb ledled Cymru i siarad â’u hanwyliaid am eu dymuniadau o ran rhoi organau er mwyn inni allu gweld cynnydd yn nifer y bobl y gall trawsblannu organ achub neu wella eu bywydau.”