Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi cyhoeddi astudiaeth Cymru Gyfan i ddarparu’r cyffur Truvada® i bob un a fyddai’n cael budd o’r driniaeth ataliol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynglŷn â Truvada®. Bydd yr astudiaeth yn rhedeg am dair blynedd o leiaf a bydd yn dechrau yn yr haf. 

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Nid oes unrhyw amheuaeth, pan fydd yn cael ei gymryd yn gywir, fod Truvada® yn lleihau nifer yr achosion o heintiadau HIV. Ochr yn ochr â gwasanaethau ataliol iechyd rhywiol, gall y cyffur helpu i leihau nifer yr achosion cyffredinol o heintio â HIV a’r achosion o drosglwyddo’r haint. Dyna yw cyngor Sefydliad Iechyd y Byd.

“Bydd yr astudiaeth yr wyf yn ei chyhoeddi yn golygu bod y cyffur ar gael i bawb y mae’n briodol yn glinigol iddynt ei gael. 

“Bydd yr astudiaeth yn ein helpu i ddysgu sut fydd orau i roi’r driniaeth ataliol angenrheidiol i leihau’r perygl o drosglwyddiadau HIV yng Nghymru, ac ateb rhai o’r cwestiynau sy’n cael eu codi gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynghylch cyfraddau achosion.”

“Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan yn grŵp arbenigol annibynnol, uchel ei barch. Dw i’n derbyn ei gyngor bod gormod o ansicrwydd ynghylch pa mor gosteffeithiol yw’r cyffur i’w argymell fel un i’w ddefnyddio’n rheolaidd yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar hyn o bryd.   

“Rwy’n gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Grŵp Arbenigol ar HIV gydweithio i gyflawni’r astudiaeth.”