Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn storio ac yn prosesu eich manylion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Wcráin: cynigion o gymorth).

Er mwyn rhoi cymorth i ddinasyddion Wcráin sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yno, bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu gwybodaeth am unigolion a sefydliadau sydd wedi cynnig cymorth, gan gynnwys llety, i’r rhai sy’n cyrraedd. Cesglir y data o ffynonellau lluosog, gan gynnwys yn uniongyrchol oddi wrth unigolion a sefydliadau.

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data ar gyfer y data personol y mae’n ei gasglu,. Byddwn yn prosesu’r data hwn yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio ynom.

Caiff y data ei brosesu at ddibenion datblygu a rheoli gwasanaethau cymorth hanfodol a gynigir i ddinasyddion Wcráin sy'n dod i mewn i'r DU o dan gynllun noddi Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth angenrheidiol â thrydydd partïon, megis partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru. Pan fo angen, byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol â phartneriaid yn y sector elusennol a’r sector preifat a fydd yn darparu gwasanaethau ar ein rhan. Mae’n bosibl hefyd yn byddwn yn rhannu data â Llywodraeth y DU. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â dinasyddion Wcráin unigol neu bobl sy'n gweithredu fel eu noddwyr yng Nghymru fel y gallant gael gafael ar y cymorth a gynigir. Ni fyddwn yn rhannu data personol ond i’r graddau y bydd angen hynny er mwyn cefnogi dinasyddion Wcráin, neu pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith inni wneud hynny.

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru’n cael ei storio ar weinyddion diogel. Bydd data personol, adnabyddadwy a rennir â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a phartneriaid eraill yn cael ei drosglwyddo yn unig gan ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig. Dim ond data sy'n gwbl angenrheidiol ar gyfer gweithredu'r cynllun cymorth nawdd fydd yn cael ei rannu.

Bydd data personol adnabyddadwy a ddelir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am gyfnod y cynllun noddi, ac am gyfnod o 6 mis, o leiaf, ar ôl hynny. Mae’n bosibl y cedwir y data am gyfnodau hwy, gan gynnwys gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, pan fo rhwymedigaeth statudol neu ofyniad parhaus i wneud hynny. Bydd y data yn cael ei ddinistrio’n ddiogel unwaith y bernir nad oes ei angen mwyach.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi inni er mwyn ein galluogi i’ch cefnogi, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol rydym yn ei gadw amdanoch
  • i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i ofyn bod eich data yn cael ei ddileu (o dan rai amgylchiadau)
  • i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru