Neidio i'r prif gynnwy

Sut i adfer eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adfer eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth ar gyfer eich cyfrif WEFO Ar-lein os ydych wedi'i anghofio neu os yw eich cyfrif wedi'i gloi.

Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:

  • dewiswch Mewngofnodi
  • dewiswch Rwyf wedi anghofio’m Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth
  • dewiswch Na, adfer fy Nynodydd Defnyddiwr (ID) a dewis Yn eich blaen
  • rhowch eich Cyfeiriad e-bost a dewis Yn eich blaen
  • rhowch y Cod cadarnhau sydd wedi'i e-bostio atoch a dewis Cadarnhau
  • rhowch eich Cyfrinair a dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
  • dewiswch Mewngofnodi