Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddileu cysylltiadau oddi ar WEFO Ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut gall gweinyddwyr dynnu defnyddwyr o fewn eich sefydliad oddi ar WEFO Ar-lein.

Dim ond os oes gan eich cyfrif ganiatâd Gweinyddwr y byddwch yn gallu dileu defnyddwyr. Byddwch yn cael caniatâd Gweinyddwr os mai chi yw'r person sy'n cofrestru eich sefydliad ar WEFO Ar-lein.

Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:

  • dewiswch Mewngofnodi
  • rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair a dewiswch Mewngofnodi
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
  • dewiswch enw’r Parti Busnes
  • dewiswch Rheoli grŵp

Os mai chi yw’r defnuddwir, dewiswch Rheoli:

  • dewiswch Dileu fy Nynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth
  • dewiswch Iawn, dileu Dynodydd Defnyddiwr (ID) hwn a dewis Cadarnhau
  • manylion Dynodydd Defnyddiwr (ID) wedi’u dileu ar gyfer: (enw’r defnyddiwr), dewiswch Yn eich blaen

Os yw’r defnuddwir yn rhywun arall, dewiswch Rheoli:

  • dewiswch Dileu Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth (enw’r defnyddiwr)
  • dewiswch Iawn, dileu Dynodydd Defnyddiwr (ID) hwn a dewis Cadarnhau
  • manylion Dynodydd Defnyddiwr (ID) wedi’u dileu ar gyfer: (enw’r defnyddiwr), dewiswch Yn eich blaen