Neidio i'r prif gynnwy

Sut i newid eich cyfrinair WEFO Ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newid eich cyfrinair ar gyfer eich cyfrif WEFO Ar-lein

Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:

  • dewiswch Mewngofnodi
  • rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair a dewiswch Mewngofnodi
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
  • dewiswch eich enw defnyddiwr
  • dewiswch Rheoli proffil
  • dewiswch Gosodiadau cyfrinair
  • dewiswch Newid or ymyl Cyfrinair
  • nodwch eich cyfrinair presennol, rhowch eich Cyfrinair newydd a'i roi eto yn Cadarnhewch y cyfrinair newydd a dewis Newid cyfrinair
  • dewiswch Yn ôl i’ch manylion neu Dychwelyd i WEFO Ar-lein