Neidio i'r prif gynnwy

Sut i newid manylion eich proffil defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif WEFO Ar-lein

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer defnyddwyr sydd am newid manylion eu proffil defnyddwyr ar eu cyfrif WEFO Ar-lein. I gael arweiniad ar sut i newid eich cyfrinair neu ar sut i newid eich dewisiadau diogelwch, ewch i ganllawiau WEFO Ar-lein

I newid eich proffil defnyddiwr, bydd angen ichi fewngofnodi i'ch cyfrif WEFO Ar-lein

  • ewch i mewngofnodi i WEFO Ar-lein:
  • dewiswch Mewngofnodi
  • o dudalen Porth y Llywodraeth, rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch Cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, yna dewiswch Mewngofnodi
  • os ydych wedi sefydlu mwy nag un cod mynediad, dewiswch Neges destun, Galwad llais neu Ap Dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen, yna dewiswch Parhau
  • Rhowch y cod mynediad, yna dewiswch Parhau, a byddwch yn cael eich mewngofnodi i WEFO Ar-lein
  • dewiswch eich enw defnyddiwr

I newid eich Rhif ffôn, eich Rhif ffôn symudol neu Deitl eich Swydd

  • dewiswch Golygu yn yr adran Manylion personol
  • rhowch y Rhif ffôn newydd, y Rhif ffôn symudol newydd, Teitl newydd eich Swydd, yna dewiswch Cyflwyno

I newid eich Cyfeiriad presennol

  • dewiswch Golygu yn yr adran Manylion Cyfeiriad
  • dewiswch Golygu cyfeiriad presennol yna dewiswch Parhau
  • nodwch Rhif yr Adeilad neu Enw’r Adeilad, eich Cyfeiriad gan gynnwys Tref neu Ddinas, Sir, Cod Post, dewiswch Gwlad o'r gwymplen, yna dewiswch Cyflwyno

Newid eich Cyfeiriad i gyfeiriad presennol sy'n gysylltiedig â'r Parti Busnes

  • dewiswch Golygu yn yr adran manylion Cyfeiriad
  • dewiswch Cyfeiriad presennol sy'n gysylltiedig â'r Parti Busnes yna dewiswch Parhau
  • chwiliwch am y cyfeiriad cywir yna pwyswch Dewis

I newid eich Dewisiadau Iaith

  • dim ond os ydych yn cael cyllid oddi wrth WEFO y dylech lenwi’r adran hon
  • dewiswch Golygu yn yr adran Dewisiadau Iaith
  • dewiswch eich dewis iaith ar gyfer Galwadau ffôn, Gohebiaeth ysgrifenedig, Negeseuon e-byst, Cyfarfodydd yna dewiswch Cyflwyno