Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ychwanegu dewis diogelwch ychwanegol ar gyfer WEFO Ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ychwanegu dewis diogelwch ychwanegol i'ch cyfrif WEFO Ar-lein

Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:

  • dewiswch Mewngofnodi
  • rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair a dewiswch Mewngofnodi
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
  • dewiswch eich enw defnyddiwr
  • dewiswch Rheoli proffil
  • dewiswch Sut rydych yn cael codau mynediad
  • dewiswch Ychwanegwch ddull arall o gael codau mynediad

Dewiswch ba opsiwn sut hoffech gael eich cod cyrchu

  • dewiswch Neges destun, Galwad llais neu Ap Dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen a dewis Yn eich blaen

Os ydych chi'n dewis Neges destun

  • dewiswch Iawn a dewis Yn eich blaen
  • rhowch Rif ffôn symudol yn y DU a dewis Anfon cod cyrchu
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun a dewiswch Yn eich blaen
  • rydych chi wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Yn eich blaen

Os ydych chi'n dewis Galwad llais

  • rhowch Rif ffôn dilys yn y DU a dewiswch Anfon cod cyrchu
  • rhowch y Cod cyrchu o'r alwad llais a dewiswch Yn eich blaen
  • rydych chi wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Yn eich blaen

Os ydych chi'n dewis Ap Dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen

  • mae angen ap dilysu ar eich dyfais, dewiswch Yn eich blaen
  • i sefydlu ap dilysu, dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir ar yr ap dilysu a dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch Enw'r ap a dewis Yn eich blaen
  • rydych chi wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Yn eich blaen

Unwaith y byddwch wedi sefydlu eich dewis diogelwch, gallwch ei newid yn nes ymlaen.  Os oes angen arweiniad pellach arnoch ar sut i wneud hyn, cyfeiriwch at Sut i newid eich dewis diogelwch

Os ydych am ddileu dewis diogelwch sydd eisoes wedi'i osod a bod angen arweiniad pellach arnoch, cyfeiriwch at Sut i ddileu eich dewis diogelwch