Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Gymru symud tuag at gyfnod atal byr ar y feirws y penwythnos hwn, galwodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, ar gymunedau i ddod ynghyd mewn ffordd ddiogel i gefnogi’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Jane Hutt:

Yn ystod cyfnod clo llym y DU gyfan yn gynharach eleni, daeth gwirfoddolwyr, mudiadau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol ynghyd gydag ysbryd ac argyhoeddiad i gefnogi cymunedau lleol. Fydden ni ddim wedi gallu parhau i ymdopi cystal heb eich help, eich cefnogaeth a’ch gwaith caled chi.

Rydych chi eisoes wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol ar draws cymunedau Cymru. Mae grwpiau cymunedol wedi dangos pa mor dda y mae gwirfoddolwyr yn cydweithio, a dw i am gymeradwyo a dathlu’r ymdrechion a wnaed, a’ch annog i barhau i gefnogi eich cymunedau lleol o’ch cartref, os yw’n rhesymol ymarferol, neu drwy aros mor agos at eich cartref â phosibl. 

Mae rheolau’r cyfnod atal byr yn caniatáu inni ddarparu gofal neu gymorth i berson sy’n agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys nôl bwyd a meddyginiaeth ar eu cyfer. Ond mae’n bwysig nad ydych yn rhoi eich hunain na’r person rydych yn darparu gofal iddo mewn perygl.

Wrth siarad â phobl Cymru ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Dyma’r foment i ddod ynghyd, i chwarae ein rhan ac ymegnïo gyda’n gilydd i ddiogelu’r GIG ac arbed bywydau. Er na fydd yn hawdd, mi wnawn ni hyn gyda’n gilydd.

Ruth Marks, Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Mae gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig o ran cynorthwyo’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed a chymryd y straen oddi ar ysgwyddau’r GIG.

Wrth i ni symud nawr i gyfnod byr o gyfyngiadau cenedlaethol, bydd angen cymorth ar lawer o unigolion a grwpiau, ac yn sicr bydd ddigon o bobl neu grwpiau sy'n barod i helpu. Boed hynny drwy gasglu siopa, cyflwyno presgripsiynau drostynt neu roi caniad cyfeillgar iddynt.

Gellir cael canllawiau ar sut i wirfoddoli’n ddiogel ac yn effeithiol ar Gwirfoddoli Cymru.

Ar ddiwedd y cyfnod atal byr, caiff cyfres newydd o reolau cenedlaethol eu cyflwyno, yn ymwneud â chwrdd ag eraill a sut y bydd y sector cyhoeddus a busnesau yn gweithredu. Caiff gwybodaeth am wirfoddoli ei darparu hefyd.