Neidio i'r prif gynnwy

Mae Distyllfa Aber Falls yng Ngogledd Cymru wedi ymuno â'r rhestr o gynhyrchwyr o Gymru sydd wedi cael statws gwarchodedig y DU am ei Wisgi Cymreig Brag Sengl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymwelodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths â'r cwmni yn Abergwyngregyn ddydd Iau i longyfarch y tîm ar ennill y statws mawreddog.

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru a sicrhaodd statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU ym mis Gorffennaf.

Sefydlwyd cynllun PGI y DU yn 2021, ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, ac mae'n sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol rhag cael eu copïo a’u camddefnyddio.

Bellach mae Aber Falls yn ymuno â Phenderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile, a Coles ar y rhestr o ddistyllfeydd Cymreig sy'n rhannu statws PGI.

Rhyddhaodd y cwmni ei wisgi cyntaf ym mis Mai 2021, gyda'u wisgi presennol yn cael ei lansio ym mis Medi yr un flwyddyn ac mae bellach yn cael ei allforio i 40 o wledydd.

Agorodd canolfan ymwelwyr newydd Aber Falls ym mis Mai 2021, gan gynnig teithiau a phrofiadau labordy jin, yn ogystal â chaffi ac ardal fanwerthu.

Ers hynny mae wedi ehangu'r ddistyllfa yn Abergwyngregyn ac wedi dechrau cynhyrchu 24 awr y dydd ym mis Ionawr eleni. Mae gan y cwmni neuadd potelu ym Mangor hefyd, ynghyd â thri warws aeddfedu yn y ddinas.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae wedi bod yn wych ymweld ag Aber Falls a llongyfarch y tîm ar weld ei Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei warchod.

Mae sector wisgi Cymru wedi ehangu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae pobl ledled y byd yn ei fwynhau.

Mae statws PGI yn un o fri ac rwy'n falch bod cynnyrch Aber Falls yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu.

Dywedodd Carole Jones, Rheolwr Cyffredinol Distyllfa Aber Falls:

Mae wedi bod yn bleser croesawu'r Gweinidog yma a rhannu ein cynnydd fel busnes. Mae'r tîm wedi gweithio'n galed dros y misoedd diwethaf, er mwyn inni ennill statws PGI.

Ein rhwystr oedd y broses botelu, a gafodd ei symud i Loegr yn 2022 oherwydd problemau yn dod o hyd i staff bryd hynny. Fe wnaethon ni bob dim yn ein gallu ac ailagor ein neuadd potelu ddechrau mis Medi; gan roi tic mawr yn y bocs olaf hwnnw.

Mae'r gwaith bellach ar ei anterth, gyda'n Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei botelu ym Mangor ar gyfer ein marchnadoedd allforio a'r DU.