Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol nac yn ganllaw statudol ac ni fwriedir iddi fod yn gynhwysfawr. Nid oes bwriad ychwaith iddi ddisodli’r rhwymedigaethau cyfreithiol presennol sydd ar Gyff sector cyhoeddus Cymru– dylai cyrff sy’n contractio geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Nodwch hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Mehefin 2024.
  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn adeiladu ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru ac ar Ddeddf Caffael 2023, ac mae’n gyson â nhw.
  • Mae'r nodyn hwn yn rhagdybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru.
  • Mae trothwyon gwerth a nodir yn Nodiadau Polisi Caffael Cymru yn cynnwys TAW, fodd bynnag cofiwch nad yw TAW yn berthnasol i bob math o nwyddau a gwasanaethau.

1. Diben

1.1 Mae’r diweddariad hwn o WPPN 06/21 yn egluro nifer o bwyntiau lle gwyrir oddi wrth Nodyn Polisi Caffael Llywodraeth y DU PPN 06/21: Taking account of Carbon Reduction Plans (CRPs) in the procurement of major government contracts (“UKG PPN 06/21”). Mae’r rhain yn ymwneud â defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon yng Nghymru ac nid ydynt yn effeithio egwyddorion sylfaenol a bwriad arfaethedig y cynlluniau.

1.2 Mae’r gwelliannau i’r WPPN 06/21 gwreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021 wedi eu gwneud yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  • Eglurder ar sut y dylid defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon ar waith o dan Gytundebau Fframwaith a Systemau Prynu Deinamig
  • Symleiddio’r broses Cynlluniau Lleihau Carbon ar gyfer y prynwr a’r cyflenwyr drwy argymell yn gryf y gofyniad i ddefnyddio templed Cynllun Lleihau Carbon fel y mae’n ymddangos ar dudalen we UKG PPN 06/21
  • Cyhoeddi rhestr wirio cydymffurfio â Chynlluniau Lleihau Carbon i helpu prynwyr a chyflenwyr i egluro gofynion Cynlluniau Lleihau Carbon a thrwy hynny, wneud Cynlluniau Lleihau Carbon yn fwy effeithiol ac effeithlon, ac
  • Addasu’r ffigur trothwy o £5m (ac eithrio TAW) i gynnwys TAW er mwyn cyd-fynd â Nodiadau Polisi Caffael eraill Cymru.

2. Dosbarthiad a chwmpas

2.1 Cyhoeddwyd y Nodyn hwn er mwyn cynorthwyo adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, i:

  1. ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon fel maen prawf dethol cyflenwr ym mhob proses gaffael £6 miliwn a throsodd, a
  2. annog dull gweithredu’n seiliedig ar risg wrth ddefnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon mewn prosesau caffael llai na £6 miliwn. 
  3. Argymhellir bod y Nodyn hwn yn cael ei argymell fel arfer orau i holl gyrff Sector Cyhoeddus Cymru.

2.2 Gofynnir ichi ddosbarthu’r Nodyn hwn ar draws eich sefydliad a’i ddwyn at sylw penodol pobl sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.

3. Y cefndir a chanllawiau

3.1 Diwygiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ym mis Mawrth 2021 drwy gyflwyno ymrwymiad Cymru i DU sero-net erbyn 2050. Rydym hefyd wedi pennu uchelgais dros dro yn ‘Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd sector cyhoeddus Cymru’ (Gorffennaf 2021) er mwyn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn sero-net erbyn 2030.

3.2 Ar hyn o bryd, mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £7 biliwn ar gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n cael eu darparu drwy gyflenwyr, darparwyr gwasanaethau a chontractwyr. Yn bwysicach na hynny, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat mae rhwng 70% a 90% o ôl troed carbon sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer y gwasanaethau a’r nwyddau hynny sydd wedi eu caffael. Felly, mae sut y mae'r partneriaid hyn yn y gadwyn gyflenwi yn deall ac yn mynd i'r afael â’u ôl troed carbon eu hunain yn ddangosydd defnyddiol o’u parodrwydd i weithio gyda chyrff sector cyhoeddus Cymru i leihau allyriadau wrth gyflawni contractau sector cyhoeddus sy’n hanfodol o ran cyflawni’r daith at gyrraedd statws sero-net erbyn 2030.

3.3 Drwy gyflwyno Cynlluniau Lleihau Carbon fel maen prawf i bawb sy’n cynnig am gontract cyhoeddus gwerth £6 miliwn neu fwy, gall Cyrff Sector Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod darpar bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi wedi ymrwymo i weithio tuag at eu statws carbon Sero Net eu hunain erbyn 2050 a sicrhau eu hunain, wrth wneud hynny, bod cynigwyr yn debygol iawn o fod yn gweithredu mewn ffyrdd a fydd yn cynorthwyo cyrff Sector Cyhoeddus Cymru i weithio tuag at uchelgais Cymru 2030 y sector cyhoeddus o statws carbon sero net, drwy weithredu i leihau allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflawni contractau Sector Cyhoeddus Cymru.

3.4 Atgoffir cyrff Sector Cyhoeddus Cymru:

  1. Dim ond ar gyfer gofyniad pasio/methu cymhwyster cyflenwr y dylid defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon.
  2. Ni ddylid eu defnyddio i wahaniaethu rhwng cyflenwyr gan fod y wybodaeth ar Gynllun Lleihau Carbon yn ymwneud ag ôl troed carbon y darpar gynigydd ei hun.
  3. Er bod Cynlluniau Lleihau Carbon yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr fanylu am eu Prosiectau Lleihau Carbon - Mentrau Lleihau Carbon wedi'u Cwblhau, ee systemau neu brosesau rheoli amgylcheddol sydd ganddynt yn eu lle, ac i ddarparu enghreifftiau o unrhyw brosiectau neu fentrau lleihau carbon sydd yn mynd rhagddynt o dan y pennawd hwnnw, er gwybodaeth yn unig y mae hyn. Dylid cwestiynu sut y gellid rhoi’r rhain ar waith wrth gyflawni contract cyrff Sector Cyhoeddus Cymru yn y tendr fel y gellir sgorio hynny yn erbyn y meini prawf dyfarnu cyhoeddedig ar gyfer y cyfle contractio sydd dan sylw. Bydd hyn yn sicrhau bod pob cynnig yn cael ei asesu ar yr un sail.

4. Yr hyn y mae gofyn i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ei wneud

4.1 Dylai adrannau Llywodraeth Cymru a chyrff Sector Cyhoeddus Cymru sy’n mabwysiadu WPPN 06/21 ei ddarllen ar y cyd â chanllawiau cefnogi UKG PPN -6/21 gan wyro oddi wrth hyn yn y cyswllt canlynol yn unig:

  1. Sicrhau bod cynnwys Cynllun Lleihau Carbon neu gyfwerth* yn un o’r gofynion yn ystod y cam dethol wrth gaffael contractau cyhoeddus sy’n werth £6 miliwn neu fwy.

    *DS er mwyn parhau i gydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau, dylai cyrff Sector Cyhoeddus Cymru hefyd ganiatáu cynigwyr, yn enwedig y rheini o du allan i’r DU a allai fod eisoes yn adrodd am eu hallyriadau C02e yn unol â phrotocol adrodd GHG i gyflwyno Cynllun Lleihau Carbon ar dempled gwahanol neu adrodd am eu hallyriadau C02e 1, 2, a 3.

  2. Er mwyn symleiddio'r broses Cynllun Lleihau Carbon ar gyfer prynwyr a chyflenwyr, argymhellir yn gryf y gofyniad i ddefnyddio templed Cynllun Lleihau Carbon fel y mae'n ymddangos ar dudalen we GOV.UK PPN 06/21. Bydd hyn yn sicrhau bod cyflwyniadau Cynlluniau Lleihau Carbon mewn fformat cyson a fydd yn gwneud paratoi cynllun yn symlach i gyflenwyr ac yn rhoi hyder iddynt nad yw cystadleuwyr yn cael rhywfaint o fantais o gyflwyniadau mwy cymhleth, ac yn gwneud gwiriadau prynwyr yn symlach ac felly'n gyflymach ac yn fwy effeithlon.
  3. Ar gyfer contractau sy'n llai na £6 miliwn, cynghorir cyrff sector cyhoeddus Cymru yn gryf i gymryd asesiad seiliedig ar risg a defnyddio eu disgresiwn i roi gofyniad am Gynllun Lleihau Carbon mewn contractau mewn categorïau allyriadau uchel. Y sectorau allweddol sydd â'r allyriadau amcangyfrifedig mwyaf ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yw gweithgareddau Gweithgynhyrchu, Adeiladu, Cludiant a Gweithgareddau Iechyd Dynol a Gwaith Cymdeithasol. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol ystyried gweithgareddau sy'n gydrannau pwysig o ran cyflenwi contractau na fyddant efallai'n amlwg ar unwaith o deitl categori neu gontract e.e. defnydd ynni, cludo a dosbarthu cynnyrch neu ddeunyddiau, rheoli gwastraff.
  4. Defnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon mewn Cytundebau Fframwaith - gellir gofyn am Gynllun Lleihau Carbon naill ai yn ystod cam dethol cytundebau fframwaith sydd o fewn cwmpas a threfniadau System Prynu Dynamig (DPS) neu ar y pwynt yn ôl y gofyn unwaith y bydd y trefniant ar waith os yw'r contract yn ôl y gofyn yn werth £6 miliwn neu fwy. DS Er mwyn gallu gorfodi hynny, dylid cynnwys cymal yn nodi hynny yn fframwaith y contract/DPS.
  5. Er mwyn symleiddio gwiriadau cydymffurfio â Chynlluniau Lleihau Carbon, datblygwyd rhestr wirio cydymffurfio i helpu cyrff Sector Cyhoeddus Cymru i wirio cyflwyniadau Cynlluniau Lleihau Carbon yn effeithlon ac yn effeithiol. Bydd hefyd o gymorth i gyflenwyr arfaethedig ddeall y broses asesu pan fyddant yn cyflwyno eu cynlluniau. Mae’r rhestr wirio ar gael ar dudalen llyw.cymru ar gyfer y Nodyn hwn.

5. Deddfwriaeth

  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhan 2 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 (12 Mawrth 2021)
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
  • Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020

6. Yr amserlen

Bydd y Nodyn hwn yn dod i rym o'r dyddiad y’i cyhoeddir tan iddo gael ei ddisodli neu ei ganslo.

7. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Llywodraeth Cymru

Mae'r Nodyn hwn yn cyd-fynd â'r Egwyddorion a ganlyn yn y Datganiad Polisi:

Egwyddor 6

Byddwn yn gweithredu i atal y pryderon cynyddol dros newid hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau carbon ac allyriadau sero drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030.

8. Gwybodaeth ychwanegol

Yn ogystal â'r dolenni a grybwyllir yn PPN 06/21 Llywodraeth y DU ar sut i gyfrifo allyriadau carbon, mae’n bosibl yr hoffech ystyried y canllawiau a ganlyn sy’n rhai penodol i Gymru:

9. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn hwn, cysylltwch â:

Polisi Masnachol: PolisiMasnachol@llyw.cymru.

10. Cydbnabyddiaeth

11. Cyfeiriadau