Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 21 Mai, cyfarfu Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn rhithwir am y tro cyntaf a dim ond am yr eildro eleni.

Gellir dod o hyd i'r hysbysiad yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/887061/2020-05-21_JMC_EN__Communique_UPDATED.pdf (wefan allanol)

Ychydig ddyddiau cyn y JMC (EN) cafodd pob un o'r Llywodraethau Datganoledig y testun cyfreithiol hirddisgwyliedig gan Lywodraeth y DU.  Cawsom gopïau ymlaen llaw ddiwrnod yn unig cyn iddo gael ei gyhoeddi, sy'n gyfan gwbl annerbyniol.  Rydym wedi bod yn galw ers wythnosau lawer i Lywodraeth y DU rannu'r testun hwn gyda ni. Mae'n ddefnyddiol gweld y testunau cyfreithiol yn y diwedd a deall y paramedrau y mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag atynt yn y trafodaethau hyn ond rydym yn anghytuno'n sylfaenol â'u dull gweithredu.  Mae eu dull gweithredu fel y'i cadarnhawyd gan y testun cyfreithiol yn rhoi ideoleg o flaen y realiti economaidd. Mae eu dull gweithredu’n rhoi sofraniaeth o flaen cynnal perthynas economaidd agos â phartner masnachu pwysicaf Cymru. Gan fod gennym gyfrifoldeb dros weithredu llawer o agweddau ar y berthynas yn y dyfodol, rydym wedi datgan dro ar ôl tro, fod angen i Lywodraeth y DU a'r UE gael sicrwydd y gellir gweithredu beth bynnag fydd yn deillio o'r trafodaethau yn y pen draw ar draws pob rhan o'r DU.

Canolbwyntiodd y JMC (EN) yn gyntaf ar negodiadau. Galwais eto am saib i’r negodiadau presennol ac ymestyn y cyfnod pontio, yng ngoleuni'r pwysau ar bob Llywodraeth wrth ymateb i COVID-19. Gan fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gynnal y negodiadau ochr yn ochr â'r ymateb i COVID-19, gwneuthum y pwynt unwaith eto fod yr ymgysylltu hyd yma ar drafodaethau wedi methu â chyrraedd y nod o ran sicrhau bod buddiannau pob rhan o'r DU yn cael eu cynrychioli. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni’r addewidion a wnaed ar gyfer rôl uwch yn ystod y cyfnod hwn o negodiadau.

Cyn y cyfarfod, cyhoeddodd Llywodraeth y DU'r Papur Gorchymyn: The UK's Approach to the Northern Ireland Protocol.  Mae'r Papur Gorchymyn yn gosod y paramedrau bras ond yn methu â rhoi'r manylion y mae eu hangen i ddeall sut y caiff Protocol Gogledd Iwerddon ei roi ar waith.  Mae'r ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Arsyllfa Polisi Masnach y DU yn gynharach eleni yn nodi rhai pryderon allweddol inni yng Nghymru ac mae'r rhain yn parhau i fod yn faterion byw.  Pwysais ar Lywodraeth y DU yn y JMC (EN) i ddarparu eglurder ar frys ynghylch goblygiadau'r protocol ar borthladdoedd Cymru ac ar fusnesau yng Nghymru gan ganolbwyntio ar y rhai a gyhoeddwyd yn ein hymchwil a gomisiynwyd.  Er gwaethaf cytundeb Llywodraeth y DU ei bod yn hanfodol inni gydweithio i sicrhau bod y trefniant ar brotocol Gogledd Iwerddon yn gweithio'n ymarferol, maent wedi methu â'n cynnwys ni yn y ffrwd waith hon a dim ond wedi rhannu’r Papur Gorchymyn oriau cyn iddo gael ei gyhoeddi.

O ran materion parodrwydd, croesewais y broses o rannu gwybodaeth am rai o'r prosiectau y mae Llywodraeth y DU wedi'u sefydlu erbyn diwedd y cyfnod pontio. Mae'n hanfodol na chollir rhagor o amser ac anogais Lywodraeth y DU i gydnabod pwysigrwydd sefydlu cydweithio effeithiol ar faterion parodrwydd gan adeiladu ar y dull gweithredu a oedd ar waith yn ystod y gwaith cynllunio ar gyfer “dim cytundeb”.

Yn olaf, pwysleisiais y dylai'r gwaith ar yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol ailgychwyn: yn enwedig gwaith ar ddatrys anghydfodau. Roedd cytundeb ar hyn, gan gynnwys defnyddio'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig presennol fel sylfaen ar gyfer gwaith rhynglywodraethol cadarnhaol. Rydym yn gobeithio gweld hyn cyn y JMC (EN) nesaf y cynigiais ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn.