Huw Irranca-Davies MS, Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Rural Affairs and Climate Change
Rwy'n ysgrifennu i hysbysu'r Senedd fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wneud Rheoliadau Marcio Nwyddau Manwerthu 2025 (dolen allanol, Saesneg yn unig), a'u gosod. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban.
Gwnaed y Rheoliadau hyn drwy ddefnyddio pwerau yn Adran 8C(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Pwrpas y Rheoliadau yw darparu ar gyfer pŵer wrth gefn i gyflwyno labelu 'Nid ar gyfer yr UE' ar gyfer cynhyrchion bwyd penodol ym Mhrydain Fawr. Byddai'r mesur hwn yn cael ei ddeddfu pan fo'r Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon bod cyflenwad rhai nwyddau manwerthu i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon mewn perygl ac yn ystyried bod angen ymyrraeth i ddiogelu'r cyflenwad bwyd i bobl Gogledd Iwerddon.
Bwriad y posibilrwydd o gyflwyno labelu 'Nid ar gyfer yr UE' ar gyfer marchnad Prydain Fawr, yw cymell manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i wneud y newidiadau angenrheidiol i gydymffurfio â'r gofynion labelu ar gyfer nwyddau sy'n cael eu symud i Ogledd Iwerddon gan fusnesau o Brydain Fawr. Byddai hyn yn dileu unrhyw gymhellion ariannol ar gyfer dad- restru cynhyrchion yng Ngogledd Iwerddon yn hytrach na'u labelu, a thrwy hynny yn diogelu llif nwyddau i Ogledd Iwerddon.
Byddai'r gofyniad am labelu wedi'i dargedu at gynhyrchion penodol yn hytrach na'r dull cyffredinol yr ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol y DU arno ym mis Chwefror 2024. Bydd busnesau bach wedi'u heithrio o'r gofynion hyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau, ar gyfer labelu cynhyrchion bwyd, ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu bod angen labelu, a chyhoeddi hysbysiad i'r perwyl hwnnw. Yn dilyn trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol
Gogledd Iwerddon rwyf wedi derbyn sicrwydd ganddo mai dim ond pe bai ymgynghori â'r diwydiant yn methu â gwella'r cyflenwad y byddai'r pwerau yn cael eu gweithredu, fel dewis olaf. Mae hefyd wedi egluro mai dim ond hyd nes y bydd cytundeb iechydol a ffytoiechydol rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei weithredu, a fydd yn hwyluso llif llyfn bwydydd amaeth a phlanhigion o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, y bydd y Rheoliadau hyn mewn grym.
Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru, ar yr achlysur hwn, er mwyn mabwysiadu dull cyson a chydlynol sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiadau i ddiogelu'r cyflenwad o fwyd i Ogledd Iwerddon, y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, rwy'n ystyried ei bod yn briodol cydsynio i osod y Rheoliadau hyn. Deallaf fod Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cydsynio.
Mae'r Rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ac fe'u gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 5 Mehefin 2025 gyda dyddiad cychwyn a fydd yn amodol ar benderfyniad dau Dŷ Senedd y DU i gymeradwyo'r OS.