Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ddiweddaraf i staff Llywodraeth Cymru.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar gael i’ch cefnogi drwy gyfnodau heriol; cofiwch ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael os oes eu hangen arnoch. Gallwch ffonio’r tîm Care First ar 0800 174 319 am gymorth cyfrinachol 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn.

Tarfu Difrifol ar Draffig

Mae manylion eich cyfrifoldebau ynghylch cyrraedd y gwaith yn ystod tywydd gwael neu sefyllfaoedd pan fo problemau teithio difrifol ar gael yn y canllawiau isod Tarfu Difrifol ar Draffig.

Diweddariad ar ddiogelwch

Os ydych chi’n rheoli staff sy’n teithio yn y DU neu dramor, gofalwch fod gennych chi broses ar waith fel y gallwch chi gysylltu â nhw a chadarnhau eu bod yn ddiogel mewn argyfwng.

Cofiwch fod yn wyliadwrus bob amser ac os ydych chi'n gweld rhywbeth amheus, cysylltwch â'r tîm diogelwch lleol (neu Swyddfa Ddiogelwch CP2 ar 03000 253551), neu'ch rheolwr cyfleusterau lleol neu'r heddlu.