Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan bobl Cymru hyd at ddydd Gwener, 30ain o Dachwedd i enwebu athrawon a gweithwyr ieuenctid arbennig sy’n gweithio mewn ysgolion ar draws Cymru ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2019

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae enwebiadau am y gwobrau eisoes yn llifo mewn, ond efo wythnos ar ôl hyd y dyddiad cau, mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, yn annog pawb i enwebu eu harwyr ym myd addysg er mwyn sicrhau bod ymarferwyr proffesiynol rhagorol yn derbyn y cydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu.

Mae’r categorïau am y gwobrau eleni yn cynnwys Athro/Athrawes a Phennaeth y Flwyddyn, Y Defnydd Gorau o Ddysgu Digidol, Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli a Hybu Llesiant, Cynhwysiant a/neu Perthnasau â’r Gymuned.

Ar gyfer y categori Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, bydd y beirniad yn edrych am y rhai hynny sydd wedi dangos ymroddiad o ddifri’ i wella safonau gwaith ieuenctid mewn ysgolion, sgiliau arweinyddiaeth ragorol, a brwdfrydedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Meddai Dylan Lewis o Ysgol Gyfun Pontarddulais, enillydd Y Defnydd Gorau o Ddysgu Digidol 2018: 

“Roedd dod yn ôl i’r ysgol yn anhygoel, roedd o’n hyfryd cael disgyblion a rhieni yn fy llongyfarch ar fy nghamp. Ers i mi ennill y wobr, rydw i wedi cael fy ngwahodd i fod yn rhan o drafodaethau ar gyfeiriad technolegau digidol y dyfodol yn yr ysgol ac yn ein clwstwr o ysgolion.

Mae’n hanfodol yn y proffesiwn bod athrawon yn cael eu cydnabod pan font yn mynd y filltir ychwanegol. Rydym mewn proffesiwn sydd efo’r gallu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr, datblygwyr a chrewyr.”

Meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: 

“Rydym eisioes wedi derbyn cymaint o enwebiadau ardderchog ar draws Cymru ar gyfer gwobrau eleni, fodd bynnag, rydw i eisiau lledaenu’r neges fel ein bod yn gallu dathlu’r gorau sydd gan addysg yng Nghymru i’w gynnig.

Rydw i hefyd yn ymhyfrydu bydd gwobrau eleni yn cynnwys Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion. Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan allweddol drwy gefnogi cymaint o bobl ifainc ledled Cymru, yn eu cynorthwyo i ennill hyder a chymhwysedd er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu llawn botensial. Mae’r wobr yn ein galluogi i gydnabod yr ardrawiad mawr mae eu gwaith caled yn ei gael ar y system addysg ehangach.

Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n mynd y filltir ychwanegol i gefnogi addysg pobl ifainc yng Nghymru, boed yn aelod o’r staff cefnogi, athro neu bennaeth sy’n gwneud camau breision dros eich ysgol, cymrwch amser i’w henwebu a’n helpu ni ddathlu’r mawrion o blith ymarferwyr proffesiynol addysg yng Nghymru.”

Ar gyfer enwebu ymarferwr proffesiynol ym myd addysg sy’n gwneud gwaith arbennig yn eich ardal, ewch i: llyw.cymru/gwobrauaddysgucymru. Y dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau yw’r 30ain o Dachwedd, 2018.

Ymunwch efo’r sgwrs ar #GwobrauAddysguCymru

Categorïau Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru:

  • NEWYDD Gwaith Ieuenctid Mewn Ysgolion
  • Cefnogi Athrawon a Dysgwyr
  • Rheolwr Busnes Ysgol/Bwrsar
  • Hybu Cydweithio i wella Cyfleoedd Dysgu
  • Hybu Llesiant, Cynhwysiant a/neu Perthnasau â’r Gymuned
  • Athro/Athrawes y Flwyddyn
  • Pennaeth y Flwyddyn
  • Athro Newydd Eithriadol
  • Y Defnydd Gorau o Ddysgu Digidol
  • Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli