Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â cham-drin ac esgeuluso plant ac oedolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I nodi dechrau’r Wythnos Ddiogelu (12 - 16 Tachwedd), dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, eu bod yn parhau i bryderu am nifer y bobl sy'n dioddef o ganlyniad i gamdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae'r ystadegau'n dangos:

  • bod tua 3,000 o blant yng Nghymru ar y gofrestr amddiffyn plant o ganlyniad i esgeulustod, cam-drin seicolegol, cam-drin rhywiol neu ffurfiau eraill o gamdriniaeth
  • bod dros 19,000 o oedolion wedi'u cofnodi gydag awdurdodau lleol fel rhai sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â cham-drin ac esgeuluso plant ac oedolion.

Yn 2016, cafodd deddfwriaeth ei chyflwyno yng Nghymru - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - sy'n cryfhau'r trefniadau diogelu presennol ar gyfer plant drwy osod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol, gan gynnwys y GIG, yr Heddlu, timau'r gwasanaeth prawf a throseddau ieuenctid i adrodd pan fo ganddynt reswm da dros amau bod plentyn yn wynebu risg.

Mae'r Ddeddf yn cyflwyno darpariaethau cyfatebol i bartneriaid perthnasol roi gwybod i'r awdurdod lleol os ydynt yn amau bod oedolyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Caiff hyn ei gefnogi gan ddyletswydd i'r awdurdod lleol wneud ymholiadau i bennu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu oedolion sy'n wynebu risg.

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

"Mae cam-drin ac esgeuluso plant a phobl ifanc yn gwbl annerbyniol. Un o'r agweddau mwyaf dirdynnol ar fy ngwaith fel Gweinidog yw cael adroddiadau am blant ac oedolion sydd wedi cael eu cam-drin neu hesgeuluso’n ofnadwy.

"Fel llywodraeth, rydym wedi cyflwyno cyfreithiau newydd llym i sicrhau bod dulliau cadarn mewn grym gennym i ddiogelu plant ac oedolion. Rwy'n gofyn i bawb ystyried pa bethau y gallant hwy eu gwneud, mae’r ffordd y mae pobl yn ymateb ac yn gweithredu yn unol â’u pryderon yn bwysig oherwydd drwy weithio gyda’n gilydd gallwn helpu i gadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag cael eu cam-drin ."

Yn rhan o'r ymdrechion i atal camdriniaeth yn y lle cyntaf ac adnabod arwyddion cam-drin wrth iddo ddigwydd, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido ymgyrch i Gymru gyfan, sy'n cael ei lansio yr wythnos hon. Thema'r ymgyrch 'Stop It Now! Cymru' yw mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol drwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr ac i rieni a gofalwyr a rhoi cyfle iddynt ddysgu mwy amdano. Bydd tua 1000 o bobl ledled Cymru yn elwa o ganlyniad i'r sesiynau codi ymwybyddiaeth sy'n rhan o'r ymgyrch.

Ychwanegodd Huw Irranca-Davies:

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ‘Stop It Now! Cymru’ i lansio'r ymgyrch newydd hon i annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan a ratal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn ddiogel, a gyda'n gilydd gallwn wneud hynny."

Mae gweithgareddau’r wythnos ddiogelwch hefyd yn cynnwys ymgyrch boster gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth am yr angen i ddweud wrth rywun a gofyn am gymorth, ynghyd â gwybodaeth o ran lle i gael y cymorth hwnnw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Mae'r Wythnos Ddiogelu yn gyfle pwysig iawn i ni gydnabod y rôl hanfodol sydd gan ysgolion o ran diogelu ein plant a'n pobl ifanc. Staff ein hysgolion sy'n dod i gysylltiad â dysgwyr o ddydd i ddydd, felly maent mewn sefyllfa dda i adnabod arwyddion cam-drin ac esgeulustod mor gynnar â phosibl er mwyn bod camau'n cael eu cymryd a chymorth yn cael ei roi.  Bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth yng nghymunedau ysgolion a hefyd yn sicrhau bod plant a phobl ifanc a staff yr ysgolion yn gwybod at bwy i droi i gael cymorth."