Neidio i'r prif gynnwy

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn annog sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd ac yn rhoi cyfle i ystod eang o randdeiliaid rwydweithio a chymryd rhan mewn trafodaethau pwysig ar sut y gall Cymru chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyddiad: 4ydd i 8fed Rhagfyr 2023

Y thema ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru eleni hefyd yw un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw: Sut allwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg? 

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau pontio cyfiawn i economi wyrddach, fwy cynaliadwy nad yw’n ddibynnol ar danwydd ffosil. Mae hyn yn golygu dull sy’n cael ei yrru gan yr egwyddor arweiniol o adael neb ar ôl. 

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cynnwys cynhadledd rithwir 5 diwrnod yn edrych ar effeithiau anghymesur newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau, sefydliadau a lleoedd, a bydd yn ymchwilio i’r manteision sy’n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ar draws cymdeithas. Bydd sesiynau’n rhoi cyfle i ddysgu mwy am y cysyniad o degwch wrth lunio polisïau hinsawdd a phontio cyfiawn, a byddant yn helpu i feithrin dealltwriaeth o’r dull sydd ei angen i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl drwy’r cyfnod pontio i ffordd fwy cynaliadwy o fyw. 

Bydd cyfranwyr hefyd yn trafod sut y gallwn ysgogi eraill i gymryd rhan mewn llunio strategaeth, polisïau ac atebion yn y dyfodol mewn modd teg trwy Fframwaith Pontio Cyfiawn newydd a fydd yn destun ymgynghoriad sy’n dechrau ym mis Rhagfyr. 

Prif gynulleidfa’r gynhadledd rithwir fydd sefydliadau sector cyhoeddus, busnesau a diwydiannau, undebau llafur, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau amgylcheddol, elusennau, y byd academaidd, grwpiau ieuenctid, rhwydweithiau cydraddoldeb ymhlith eraill. Fodd bynnag, mae hwn yn ddigwyddiad gwahoddiad agored ac mae croeso i bawb ymuno yn y sgwrs rithwir ar yr hinsawdd. 

Ochr yn ochr â’r gynhadledd, cynhelir cyfres o Sgyrsiau Hinsawdd ledled Cymru i gynnwys grwpiau cymunedol ac aelodau’r cyhoedd i edrych ar y cysylltiadau rhwng atebion ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng costau byw. Nod y sgyrsiau hyn fydd annog sgyrsiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gyda grwpiau cymunedol, unigolion, gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig ledled Cymru ar sut y gallwn fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg. 

Gall unrhyw un sy’n ymweld â gwefan Wythnos Hinsawdd Cymru gofrestru ar-lein i dderbyn gwybodaeth a diweddariadau ac i fynychu’r gynhadledd rithwir. Mae’r wefan hefyd yn esbonio sut i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer cynnal sesiwn yn ystod y gynhadledd rithwir neu gynnal digwyddiad Sgwrs Hinsawdd i ymgysylltu â rhwydweithiau allgymorth mewn sgyrsiau ar newid hinsawdd. 

Peidiwch â cholli’r cyfle i ymuno â’r drafodaeth ac edrych ar sut y gall Cymru fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg sy’n gadael neb ar ôl. Cofrestrwch yma nawr. Welwn ni chi yno!