Neidio i'r prif gynnwy

Gydag ond wythnos i fynd tan y daw'r ymgynghoriad Brexit a'n Tir i ben, mae Lesley Griffiths, yn pwyso ar ffermwyr ledled Cymru i fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y DU yn gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin flwyddyn nesaf ac mae Brexit a'n Tir, a lansiwyd ym mis Gorffennaf, yn cynnig Rhaglen Rheoli Tir newydd yng Nghymru i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit. 

Bydd y rhaglen newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg - y Cynllun Cadernid Economaidd a’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.  Bydd ffermwyr yn cael ymuno â'r ddau. 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Dim ond wythnos sydd tan y daw'r ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' i ben - un o'r ymgynghoriadau pwysicaf yn y sector ffermio ers cenedlaethau. 

"Dyna pam y lansiais i'r ymgynghoriad cyn y Sioe Fawr a sicrhau ei fod yn un o'r ymgynghoriadau hiraf rwyf wedi'i gynnal er mwyn inni allu cael trafodaeth go iawn am y cynigion. 

"Daw Brexit â heriau digynsail yn ei sgil, fydd yn golygu gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Rydyn ni wedi bod yn glir o'r dechrau na allwn adael i bethau i fod fel ag y maen nhw ac y bydd y DU yn gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin flwyddyn nesaf. Felly rhaid inni ddylunio’r system orau ar gyfer cefnogi ffermwyr yng Nghymru a dyna beth rydyn ni’n holi amdano yn yr ymgynghoriad hwn. 

“Nod y cynigion yw cadw ffermwyr ar y tir.  Ond rhaid cofio mai dim ond cynigion ydyn nhw ar hyn o bryd. Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus iawn a byddwn yn cynnal ymgynghoriad arall yn y Gwanwyn. 

"Mae gen i neges syml i ffermwyr a phawb sydd â diddordeb mewn rheoli tir - ni fu erioed adeg pwysicach ichi gymryd rhan a'n helpu i benderfynu ar siâp dyfodol ffermio yng Nghymru. Mae gennych tan 30 Hydref i ddweud eich dweud."