Neidio i'r prif gynnwy

Mae wythnos i fynd nes y daw gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud yng Nghymru i rym, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths i'n hatgoffa heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 17 Hydref bydd yn anghyfreithlon defnyddio maglau a thrapiau glud yng Nghymru, y gwaharddiad cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r gwaharddiad ar ddefnyddio maglau yn un o'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, ac roedd y rhan fwyaf o'r rheini a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus o blaid gwaharddiad o'r fath. 

Mae maglau a thrapiau glud yn achosi dioddefaint mawr i anifeiliaid, a dydyn nhw ddim yn gwahaniaethu gan eu bod yn gallu trapio a niweidio rhywogaethau na fwriedir eu dal gan gynnwys anifeiliaid anwes. 

Os yw anifeiliaid anwes fel cathod yn cael eu dal mewn trap glud, gall arwain at sefyllfa ofnadwy lle mae'n rhaid difa'r anifail oherwydd ei anafiadau.  Gall anifail sy'n cael ei ddal mewn magl ddioddef poen ofnadwy.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae 'na wythnos i fynd cyn y daw'r gwaharddiad ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud i rym yng Nghymru.  Dyna ddiwedd ar ddioddefaint a phoen i lawer o anifeiliaid, a llawer o'r rheini'n anifeiliaid nad nad oeddent yn darged i'r trap.

Nod y gwaharddiad yw atal dull creulon o reoli anifeiliaid ysgflyfaethus a llygod mawr ac ati.  Mae dulliau llai creulon yn bodoli ac yn cael eu defnyddio'n helaeth.

Dyw defnyddio maglau a thrapiau glud ddim yn gydnaws â'r safonau uchel rydyn ni'n ymdrechu i'w cyrraedd o ran lles anifeiliaid yma yng Nghymru.  Rwy'n falch ein bod yn arwain y ffordd ar y mater hwn.

O 17 Hydref ymlaen, bydd defnyddio maglau a thrapiau glud yn anghyfreithlon yng Nghymru. Gallai unrhyw un a geir yn euog o ddefnyddio magl wynebu carchar neu ddirwy ddiderfyn neu'r ddau.